Ewch i’r prif gynnwys

Academi Arweinyddiaeth Gwerth Cyhoeddus

A group of students on a community campaigning walk with councillors
Myfyrwyr yn mynd am dro o gwmpas y gymuned gyda chynghorwyr lleol i ymgyrchu dros strydoedd mwy diogel.

Mae modiwl y Gymdeithas a'r Economi, a gyflwynir i bob myfyriwr Rheoli Busnes (BSc) blwyddyn gyntaf, yn dysgu arweinyddiaeth ar sail gwerth ac yn edrych ar beth mae heriau mawr yn ei olygu i'n cymuned leol.

Mae'r modiwl yn ymgorffori'r Academi Arweinyddiaeth Gwerth Cyhoeddus (PVLA). Mae'r PVLA yn cymryd dysgu allan o'r ystafell ddosbarth ac mae’r myfyrwyr yn ymgysylltu â materion cymunedol lleol ac yn gweithredu arnynt. Mae'r gweithredu dan arweiniad myfyrwyr, fel rhan o'r PVLA, wedi arwain at newid cymdeithasol yng nghymuned Caerdydd.

Cyflwynir y modiwl dau semestr gan Dr Deborah Hann, Dr Marcus Gomes a Dr Luciana Zorzoli ac fe'i haddysgir i tua 300 o fyfyrwyr bob blwyddyn.

Addysgu

Nod y modiwl yw archwilio'r berthynas gymhleth rhwng y gymdeithas a'r economi fusnes.

Yn semestr 1, mae darlithoedd yn mynd i'r afael â’r sail ddamcaniaethol sy'n helpu myfyrwyr i ddeall gwahanol gymdeithasau cyfalafol, sut maen nhw'n cael eu llywodraethu, a'r actorion sy'n gallu rhoi newid ar waith ynddynt.

Yn semestr 2, mae'r modiwl yn newid o ddull damcaniaethol i ddull cymhwysol, empirig. Cyflwynir sesiynau ar ymchwil flaengar, gan ganolbwyntio ar faterion sy’n her fawr megis cyflog isel, prif ffrydio rhywedd, hiliaeth sefydliadol, a mudiadau amgylcheddol. Mae'r rhain yn helpu’r myfyrwyr i ddeall heriau allweddol o fewn y systemau a drafodwyd yn semestr 1.

A group of students and staff at a community litter pick
Trefnodd myfyrwyr sesiwn casglu sbwriel gyda chynghorwyr i drafod atebion hirdymor i sbwriel yn yr ardal.

Academi Arweinyddiaeth Gwerth Cyhoeddus

Er bod y darlithoedd yn ymdrin yn uniongyrchol â gwerth cyhoeddus ac yn herio myfyrwyr i ddechrau meddwl am y mathau o werth y maent yn teimlo y gallai neu y dylai busnesau eu dilyn, yn y tiwtorialau mae'r strategaeth gwerth cyhoeddus wir yn dod yn fyw.

Mae'r tiwtorialau bob pythefnos wedi cael eu henwi'n 'Academi Arweinyddiaeth Gwerth Cyhoeddus' (PVLA).

Crewyd y PVLA ar y cyd â Citizens Cymru Wales ac aelodau lleol o'r gymuned, ar sail yr egwyddorion a geir wrth drefnu materion cymunedol.

"Rydym am i’r myfyrwyr ddeall y gall busnes chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu lles cymdeithasol ac economaidd ac rydym yn ceisio rhoi'r sgiliau arwain i fyfyrwyr gyflawni hynny. Rydym yn datblygu dysgu drwy wneud yn ogystal â dysgu trwy wrando, er mwyn dyfnhau ein dealltwriaeth o sut gall newid ddigwydd a phwy all gyflawni’r newid hwnnw."
Dr Deborah Hann Uwch-ddarlithydd Cysylltiadau Cyflogaeth, Dirprwy Bennaeth Adran (Dysgu ac Addysgu)

Newid cymdeithasol a threfnu cymunedol

Mae'r PVLA yn helpu’r myfyrwyr i ddeall y berthynas rhwng yr heriau mawr haniaethol sy'n cael eu trafod yn yr ystafell ddosbarth a’r materion lleol ymarferol sy’n cael eu profi bob dydd gan lawer sy'n byw yng Nghaerdydd.

Mae’r myfyrwyr yn dysgu am y 5 cam at newid cymdeithasol. Maent yn edrych ar sgiliau arwain allweddol: gwrando gweithredol, gwaith tîm, cynllunio a rheoli prosiectau, cyfathrebu, a chyd-drafod. Gofynnir iddynt gymhwyso eu dysgu a datblygu'r sgiliau hyn yn ymarferol gyda ffocws ar fater cymunedol yn semestr 2, gyda'r nod y byddant yn gweithredu dros newid.

A large group of students campaigning for the Living Wage outside the Senedd in Cardiff.
Myfyrwyr yn ymgyrchu i ennyn mwy o fusnesau lleol i dalu’r Cyflog Byw i’w staff.

"Rydym yn awyddus i feithrin rheolwyr yfory sy'n arwain trwy werthoedd, yn gwrando ar eu gweithwyr a'u cymunedau lleol ac nid y cyfranddalwyr yn unig wrth ystyried mater. Ein gobaith yw creu diwylliant o wneud penderfyniadau wedi'u gwreiddio mewn cysylltiadau cymdeithasol. Mae'r rhain yn sgiliau sydd yn berthnasol mewn unrhyw ran o fywyd - gwaith, prifysgol, cymuned - er o fewn y modiwl rydyn ni'n canolbwyntio ar y gymuned y mae'r ysgol fusnes yn rhan ohoni - dinas Caerdydd."
Dr Marcus Gomes Senior Lecturer in Organisation Studies and Sustainability

Mae myfyrwyr yn gwrando ar aelodau o’r gymuned ac yn gwrando arnyn nhw i gyd-greu gweithgareddau sy'n ymateb i’w diddordebau ac angen y gymuned leol.

Hyd yn hyn, mae’r myfyrwyr wedi:

  • ymgyrchu i annog mwy o gyflogwyr lleol i dalu'r Cyflog Byw gwirioneddol
  • sefydlu ymgyrchoedd cofrestru pleidleiswyr ymhlith poblogaeth y myfyrwyr
  • trefnu i gasglu sbwriel gyda chynghorwyr lleol i drafod datrysiadau tymor hir cydweithredol i faterion sbwriel yn yr ardal
  • trefnu teithiau cerdded cymdogaeth gyda chynghorwyr i drafod atebion ar gyfer gwella'r ardal i bobl ifanc
  • trefnu teithiau cerdded cymunedol i ymgyrchu dros strydoedd mwy diogel
  • cynnal cynulliad atebolrwydd ar raddfa fawr
  • diweithdra ymhlith pobl ifanc
Students campaigning for people to register to vote
Myfyrwyr yn annog eraill i gofrestru i bleidleisio.

Creu newid

Mewn rhai achosion, mae gweithredoedd ein myfyriwr wedi dechrau helpu i greu newid. Er enghraifft, bu:

  • cynnydd yn nifer y pleidleiswyr cofrestredig yn ward Cathays ar gyfer etholiadau lleol
  • cynnydd yn achrediad cyflogwyr lleol fel cyflogwyr Cyflog Byw, gan arwain at godiad cyflog i dros 2000 o bobl leol.

"Mae'r modiwl yn gwreiddio’r ysgol fusnes yn ei chymuned leol. Mae ein myfyrwyr yn mynd allan i rannau o Gaerdydd fydden nhw byth fel arfer yn ymweld â nhw wrth i fyfyrwyr ac aelodau o'r gymuned ddod i mewn i'r brifysgol i rannu eu profiadau. I lawer o'n hisraddedigion, bydd y ddinas y maen nhw'n dod iddi fel pobl ifanc 18 oed yn ddinas y maen nhw'n ei galw'n gartref am flynyddoedd i ddod ac rydym yn awyddus i'w gwreiddio yn y gymuned honno a'u datblygu fel aelodau o'r gymuned."
Dr Luciana Zorzoli Lecturer in Employment Relations