Ewch i’r prif gynnwys

Recriwtio ein myfyrwyr rhyngwladol

Mae dros 8,500 o fyfyrwyr rhyngwladol o dros 130 o wledydd yn y garfan hon. Maent wedi elwa o astudio a byw mewn gwlad arall, ac mae ganddynt ymwybyddiaeth a gwybodaeth ryngddiwylliannol o farchnadoedd tramor a hefyd rhwydweithiau buddiol. Maent yn wydn ac yn hyblyg.

Gall myfyrwyr rhyngwladol gael fisa Llwybr Graddedig ar ôl eu hastudiaethau i weithio yn y DU am hyd at ddwy flynedd. Ond opsiwn mwy hirdymor yw i gyflogwyr gynnig y fisa Gweithiwr Medrus.

GOV.UK yn cynnig cyngor sy'n benodol ar 'noddi fisa'r DU ar gyfer cyflogwyr'.

Mae'r Grŵp Cyflogadwyedd i Fyfyrwyr Rhyngwladol (ISEG) hefyd wedi llunio canllaw i helpu cyflogwyr i ystyried recriwtio graddedigion rhyngwladol o brifysgolion y DU, ' Recriwtio Graddedigion Rhyngwladol: Canllaw i Gyflogwyr sydd eisiau Recriwtio o dan y llwybrau Gweithiwr Medrus a Graddedigion’.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am recriwtio ein myfyrwyr rhyngwladol cysylltwch â ni:

Dyfodol Myfyrwyr