Ewch i’r prif gynnwys

Swyddi a chyfleoedd

Swyddi a chyfleoedd i astudio gyda'r Prosiect Dyfrgwn

Prosiectau ymchwil meistr

Rydym bob amser yn croesawu ymholiadau gan fyfyrwyr sy'n chwilio am gyfleoedd i wneud ymchwil ôl-raddedig.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig rhaglen Meistr Ymchwil (MRes) yn y Biowyddorau. Gellir gwneud cais bob blwyddyn tan fis Gorffennaf. Yn dilyn rhaglen gychwynnol a addysgir sy’n cyflwyno sgiliau ymchwil allweddol, ceir prosiect ymchwil unigol dros wyth mis. Byddem wrth ein boddau'n clywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud ymchwil gyda'r Prosiect Dyfrgwn yn rhan o'r rhaglen Meistr hon.

Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn cynnig rhaglen Meistr yn y Gwyddorau ym maes Ecoleg a Chadwraeth Fyd-eang (wedi’i haddysgu). Derbynnir myfyrwyr newydd ym mis Medi bob blwyddyn. Bydd myfyrwyr yn cynnal prosiect ymchwil unigol a fydd yn canolbwyntio ar faes penodol o ecoleg a/neu gadwraeth, ac rydym yn croesawu myfyrwyr i ymuno â thîm y Prosiect Dyfrgwn ar gyfer yr ymchwil hon. Fel arfer, mae'r prosiectau’n cael eu cynnal o fis Mai tan fis Medi, wedi i'r pedwar modiwl craidd gael eu cwblhau.

I gael gwybod sut i wneud cais, ewch i’r dudalen yn y Biowyddorau (MRes) neu’r dudalen MSc ym maes Ecoleg a Chadwraeth Fyd-eang.

Blwyddyn ar leoliad gwaith

Mae ceisiadau ar gyfer lleoliadau israddedig ym mlwyddyn academaidd 2023-2024, bellach wedi cau. Caiff lleoliadau eu hysbysebu ym mis Tachwedd ac maent fel arfer yn cychwyn rhwng Gorffennaf a Medi (mae hyn yn hyblyg a gellir ei drafod). Mae wedi'i gynllunio ar gyfer israddedigion, a hynny ar gyfer eu blwyddyn hyfforddi proffesiynol, sy’n digwydd yn y drydedd flwyddyn. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ceisiadau gan unrhyw un. Nid oes angen profiad blaenorol.

Cyfleoedd i gydweithio ar ymchwil

Rydym yn croesawu syniadau gan ymchwilwyr a allai ymweld â ni. Cysylltwch â ni i drafod unrhyw syniadau ar gyfer cydweithio.

Cysylltu â ni

Dr Elizabeth Chadwick

Dr Elizabeth Chadwick

Lecturer

Email
chadwickea@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4948
Dr Frank Hailer

Dr Frank Hailer

Uwch-ddarlithydd

Email
hailerf@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4125