Ewch i’r prif gynnwys

Wedi dod o hyd i ddyfrgi?

Rydym yn dibynnu ar adroddiadau am garcasau dyfrgwn oddi wrth aelodau o'r cyhoedd, sefydliadau, yr heddlu ac awdurdodau lleol.

Os ydych wedi dod o hyd i ddyfrgi marw, cysylltwch â'r sefydliad perthnasol gan ddibynnu ar y lleoliad. Bydd gofyn i chi roi gwybod am leoliad y dyfrgi a gwybodaeth arall sylfaenol.

Lleoliad y dyfrgiRhif ffônSefydliad
Lloegr+44 (0)3708 506 506 (gofynnwch am eich cadwraeth agosaf neu swyddog bioamrywiaeth)Environment Agency
Cymru0300 065 3000 (gofynnwch am eich cadwraeth agosaf neu swyddog bioamrywiaeth)Cyfoeth Naturiol Cymru
Yr Alban+44 (0)1471 822 487International Otter Survival Fund

Bywyd gwyllt arall sydd wedi marw

Gallwch adrodd am yr holl fywyd gwyllt sydd wedi marw ar y ffordd trwy Project Splatter. Mae cynlluniau eraill sy'n casglu bywyd gwyllt marw ar gyfer ymchwil a monitro ar gael ar WILDCOMS.

Trwyddedu

Mae deddfwriaeth bresennol yn golygu bod yn rhaid cael trwydded i feddu ar samplau dyfrgi wedi marw neu eu cludo. Mae gennym drwydded gyffredinol sy'n cwmpasu unrhyw unigolyn sy'n gysylltiedig â chasglu, storio neu gludo samplau dyfrgi ar gyfer Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd.

Cysylltwch â ni

I gael gwybodaeth bellach, cysylltwch â'r Prosiect Dyfrgwn:

Prosiect Dyfrgwn