Ewch i’r prif gynnwys

Cymryd rhan

Gallwch gyfrannu at waith y Prosiect Dyfrgwn mewn sawl ffordd.

Cydweithio â ni

Mae pob cyfle sydd ar gael ar hyn o bryd wedi’i restru ar ein tudalen Swyddi gwag.

Rhoi gwybod am ddyfrgi

Mae’r Prosiect Dyfrgwn yn gofyn i aelodau’r cyhoedd roi gwybod pan fyddant wedi dod o hyd i ddyfrgi marw.

Cyfrannu’n ariannol

Bydd rhoddion ariannol, boed yn rhai bach neu'n rhai mawr, yn cael eu defnyddio ar unwaith ar y prosiect. Mae eich cyfraniadau’n helpu i gynnal a sicrhau dyfodol y project a'n gwaith i helpu i ddiogelu dyfrgwn.

Sut mae eich rhoddion yn helpu

  • Bydd £10 yn ariannu’r gwaith o sgrinio un dyfrgi am barasitiaid.
  • Bydd £30 yn ariannu’r gwaith o gludo corff un dyfrgi i’r Prosiect Dyfrgwn.
  • Bydd £100 yn ariannu’r gwaith o sgrinio afu dyfrgwn am halogyddion.
  • Bydd £250 yn ariannu un archwiliad post-mortem a’r adroddiad cysylltiedig.

Cyfrannwch yn ariannol at y Prosiect Dyfrgwn ar-lein. Wrth lenwi’r ffurflen, ysgrifennwch ‘Cyfrannu’n ariannol at y Prosiect Dyfrgwn’ yn y blwch sylwadau.

Gwirfoddoli

Gallwch ein helpu drwy roi o’ch amser i wirfoddoli a chynorthwyo ag archwiliadau post-mortem. Mae llawer o’n gwirfoddolwyr yn israddedigion, ac rydym hefyd yn derbyn myfyrwyr drwy nifer o gynlluniau cenedlaethol a rhyngwladol fel ECTARC, IAESTE a Nuffield. Rydym yn hysbysebu cyfleoedd i wirfoddoli ar ein tudalen Facebook.

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli:

Prosiect Dyfrgwn

Ymchwil ôl-raddedig

Rydym yn falch o glywed gan fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn seilio eu hymchwil Meistr neu PhD ar y Prosiect Dyfrgwn. Cysylltwch â Dr Liz Chadwick neu Dr Frank Hailer i drafod meysydd ymchwil posibl neu gynnig eich syniadau eich hun. Mae sawl thema ymchwil ar gael, ac rydym yn canolbwyntio ar y canlynol ar hyn o bryd:

  • geneteg a genomeg
  • halogyddion cemegol mewn dŵr croyw
  • demograffeg ac iechyd y boblogaeth

Darganfyddwch ragor am y MRes Biowyddorau neu’r MSc Ecoleg a Chadwraeth Fyd-eang.