Psychological medicine and clinical neurosciences
Nod ymchwil yw deall y mecanweithiau sylfaenol sy'n sail i anhwylderau seiciatrig a niwrolegol mawr.
Mae rhaglenni gwaith ar sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol, iselder mewn plant a phobl ifanc, ADHD, clefyd Alzheimer, clefyd Parkinson, clefyd Huntington, sglerosis ymledol ac epilepsi ymhlith eraill.
Mae ffocws mawr ar eneteg a genomeg ond hefyd diddordeb mewn delweddu'r ymennydd, epidemioleg, modelau anifeiliaid a bioleg celloedd. Yn ogystal, mae gwaith hefyd ar seicoaddysg, gwasanaethau iechyd, ymchwil ac ymgysylltu â'r cyhoedd.
Mae'r adran yn gartref i sawl canolfan:
- Canolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig (CNGG)
- Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH)
- Uned Niwrotherapiwteg Intracranial (BRAIN)
- Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc
- Gwasanaeth cymorth iechyd meddwl Canopi