Ewch i’r prif gynnwys

Cydbwyso bywyd-gwaith

Darganfyddwch fwy am ein pecyn o bolisïau sy’n ystyriol o deuluoedd, o leiaf 32 diwrnod o wyliau (yn ogystal â gwyliau banc), cyfleoedd ar gyfer absenoldeb astudio a mwy.

Gwyliau blynyddol ac oriau gwaith

Rydym yn darparu gwyliau hael (naill ai 32 neu 37 diwrnod o wyliau, yn ogystal â gwyliau banc) o’ch diwrnod gwaith cyntaf gyda ni.

Mae wythnos waith 35 awr safonol yn gymwys i'r mwyafrif o'r swyddi yn y Brifysgol.

Absenoldeb astudio

Caiff aelodau staff academaidd wneud cais am absenoldeb astudio i ddatblygu ymchwil neu weithgareddau addysgu er budd y Brifysgol, yn ogystal â datblygiad personol.

Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Rydym yn cynnig pecyn rhagorol o bolisïau sy’n ystyriol o deuluoedd i gefnogi pob gweithiwr sydd â chyfrifoldebau rhianta neu ofalu er mwyn sicrhau eu bod yn gallu taro cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd teuluol.

Rhagor o wybodaeth am ein polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

'Er fy mod wedi ymuno â’r byd academaidd yn gymharol ddiweddar ac yn fam sy’n gweithio, roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi’n llawn i gyflawni fy uchelgais o fod yn Athro Prifysgol.'

Cyswllt

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Pobl Caerdydd