Ewch i’r prif gynnwys

Gyrfaoedd a chyflogadwyedd

SHARE with Schools video

Mae ein graddedigion yn dechrau ar yrfaoedd mewn ystod drawiadol o sectorau. O'r sector cyhoeddus i'r sector preifat, mae gyrfaoedd yn cael eu creu mewn amrywiaeth o broffesiynau, o fancio a'r gyfraith i addysgu a gweithio yn y cyfryngau.

Mae llawer yn dilyn llwybrau sydd wedi’u cysylltu’n fwy traddodiadol â’n disgyblaethau galwedigaethol gan gynnwys y sector treftadaeth, sefydliadau ffydd a chyrff anllywodraethol.

  • Roedd 90% o'n israddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd neu’n gwneud gweithgareddau eraill, fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).
  • Roedd 87% o'n graddedigion ôl-raddedig a addysgir mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd neu’n gwneud gweithgareddau eraill, fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).

Cymorth gyrfaol pwrpasol

Rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad i'n myfyrwyr ar bob cam o'u hastudiaethau israddedig ac ôl-raddedig.

Gan wella rhaglen Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd canolog y Brifysgol, rydym yn cynnig cymorth ac arweiniad arbenigol ychwanegol drwy ein gweithiwr proffesiynol ymroddedig yn yr Ysgol.

Mae ein cynghorydd yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau gyrfaoedd wedi'u teilwra drwy gydol y flwyddyn a gallwn eich helpu chi i gwrdd â'ch uchelgais gyrfa drwy amrywiaeth o weithgareddau â ffocws penodol.

Mae sesiynau un-i-un hefyd ar gael drwy apwyntiad.

Ar gael o fewn yr Ysgol

Mae'r ysgol yn cynnig cefnogaeth gyrfaoedd a chyflogadwyedd, gan gynnwys:

  • lolfa gyrfaoedd galw heibio (sesiynau cynghori)
  • dosbarth meistr rhwydweithio cymdeithasol
  • dosbarth meistr CV
  • digwyddiadau rhwydweithio proffesiynol (meysydd sector cysylltiedig megis treftadaeth)
  • siaradwyr gwadd proffesiynol o ystod eang o sectorau (e.e. addysgu, treftadaeth, elusennau)
  • lleoliadau profiad gwaith a chyngor (ee amgueddfeydd, archifau, sector treftadaeth)
  • gweithgareddau menter
  • gwybodaeth gyfredol am y farchnad lafur.

Cyfres fideo

Yn ddiweddar, rydym wedi datblygu cyfres o fideos i helpu ein myfyrwyr i ddisgleirio wrth iddynt ddechrau ar eu gyrfaoedd dewisol. Mae'r gyfres yn cynnwys awgrymiadau gwych gan yr ymgynghorydd gyrfaoedd blaenllaw Aimee Bateman.

"Mae cyflogadwyedd yn rhywbeth y mae angen i chi weithio arno ac ymarfer. Mae Careercake wedi paratoi'r fideos hyn i'ch helpu i wneud eich sgiliau yn fwy amlwg a deall beth mae eisiau ar gyflogwyr heddiw gennych chi."

Aimee Bateman Aelod Sefydlu a Phrif Swyddog Gweithredol, Careercake

Nod ein modiwl cyflogadwyedd yw meithrin sgiliau cyflogadwyedd y gallwch eu defnyddio mewn ystod o yrfaoedd proffesiynol a graddedig yn nhirwedd newidiol y 21ain ganrif.

Mae'r modiwl israddedig dewisol hwn ym Mlwyddyn Dau, a gefnogir gan wasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol, yn cyflwyno hanfodion datblygu gyrfa ac yn cynnwys lleoliad gwaith (o leiaf 35 awr).

Mae gan fyfyrwyr hyblygrwydd i drefnu lleoliad sy'n cyd-fynd â'u diddordebau a'u dyheadau orau, yn amodol ar gymeradwyaeth gan yr Ysgol.

Lleoliadau a phrofiad ymarferol

Mae ein holl raglenni israddedig ym maes Archaeoleg a Chadwraeth yn cynnwys wyth wythnos o brofiad ymarferol yn y DU neu dramor.

Mae lleoliadau mewn amgueddfeydd a'r sector treftadaeth neu ar gloddfeydd yn elfen graidd o'n graddau, ac yn digwydd mewn lleoliadau cymeradwy dros ddau gyfnod o bedair wythnos gan ddefnyddio ein cysylltiadau helaeth ym maes archaeoleg a chadwraeth.


Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.