Ewch i’r prif gynnwys

Ffisioleg serebro-fasgwlaidd

Menyw yn helpu dyn sydd ar fin mynd i mewn i beiriant MRI.
Mae gennym amrywiaeth o offer o fewn ein cyfresi MRI a gall ein helpu i fesur newidiadau metabolig o fewn yr ymennydd.

Mae llawer o’n dulliau yn gofyn am her anadlol yn ystod y sgan MRI er mwyn meintoli newidiadau mewn egnïeg meinweoedd.

Fel arfer, mae hyn yn cynnwys cyflwyno amrywiadau mewn cymysgeddau nwyon CO2 ac O2, yn ogystal ag aer awyr i'r cyfranogwr drwy gylched anadlu.

Mae gennym amrywiaeth o systemau mewnol wedi'u lleoli o fewn pob swît 3T a 7T MRI y gellir ei ddefnyddio ar gyfer arbrofion lle rydym eisiau meintoli newidiadau metabolig o fewn yr ymennydd.

System rheoli nwy RespirAct™ mewn ystafell MRI
Mae ein cyfarpar yn caniatáu i’n hymchwilwyr reoli crynodiadau cymysgeddau nwyon y mae cyfranogwyr yn anadlu allan yn ofalus.

Mae ein trefniant diweddaraf yn cynnwys systemRespirActsy'n caniatáu i'r ymchwilydd reoli crynodiadau llanw diwedd y cymysgeddau nwyon y mae’r cyfranogwr yn anadlu allan.

Rydym hefyd wedi datblygu siambr Pwysedd Negyddol Corfforol Isaf (LBNP) sy'n cyd-fynd â MR i ddarparu heriau pwysedd gwaed i fesur rheoleiddio awto o fewn amgylchedd MR.

Yn ogystal â’r systemau herio ffisiolegol hyn, mae gennym labordy ffisioleg llawn offer lle rydym yn cynnal astudiaethau ymyrryd ymarfer corff.