Ewch i’r prif gynnwys

Datgelu Myrddin y Cymry

24 Tachwedd 2021

Image of a stained glass window depicting St Kentigern and Myrddin
Rosser1954 Roger Griffith, Public domain, via Wikimedia Commons

Bydd Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol Gymraeg Prifysgol Caerdydd, yn arwain prosiect tair blynedd newydd i baratoi golygiad digidol a chyfieithiad o’r farddoniaeth Gymraeg sy’n ymwneud â chymeriad Myrddin.

Bydd y prosiect (Golygiad o farddoniaeth Myrddin), sydd wedi derbyn £716,013 mewn cyllid gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), yn cychwyn ym mis Mawrth 2022. Mae’n cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd (gan gynnwys Dr David Callander o Ysgol y Gymraeg), Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, a Phrifysgol Abertawe.

Dywedodd Dr Foster Evans: “Rwy’n hynod falch o gael arwain y prosiect ymchwil cyffrous hwn, a fydd yn ymchwilio i lenyddiaeth ganoloesol ac i chwedl Myrddin. Mae yna lawer o waith o’n blaenau ond mae gennym dîm angerddol a thalentog i gwblhau’r daith.”

Bydd y prosiect newydd yn archwilio’r berthynas rhwng y cerddi Cymraeg a gysylltir â Myrddin a thraddodiadau Arthuraidd ehangach. Poblogeiddiwyd y rhain ledled Ewrop gan Sieffre o Fynwy (m. 1154/5), y cyntaf i ddod â ffigyrau Arthur a Myrddin ynghyd. Bydd agweddau cymharol y prosiect yn gosod y cerddi Cymraeg mewn cyd-destun Ewropeaidd ehangach, gan bwysleisio eu statws a’u perthnasedd rhyngddisgyblaethol, ac yn eu gosod wrth galon astudiaethau Arthuraidd rhyngwladol.

“Er bod llawer o farddoniaeth sy’n gysylltiedig â Myrddin wedi goroesi mewn llawysgrifau, mae llawer ohoni yn anhygyrch – heb ei golygu a hefyd heb ei chyfieithu. Rydym am ymroi i sicrhau bod y corpws ar gael i bawb mewn fformat digidol hygyrch. Nod pellach i’r prosiect yw taflu goleuni newydd ar ddatblygiad barddoniaeth gynnar y Gymraeg a tharddiad chwedlau Myrddin ac Arthur."

“Bydd golygu a chyfieithu’r corpws, a chreu cartref iddo ar-lein, yn caniatáu i ystod o gynulleidfaoedd ymgysylltu â’r deunyddiau, efallai am y tro cyntaf. Bydd y rhain yn cynnwys ysgolheigion, selogion Arthuraidd a sefydliadau ar draws y sectorau addysg a threftadaeth. Ac o ystyried y diddordeb parhaus yn y chwedl Arthuraidd ym myd ffilm a theledu, bydd y prosiect hefyd yn darparu i’r diwydiannau creadigol fewnwelediad newydd i’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’r ‘Merlin’ chwedlonol.”

Dr Dylan Foster Evans Pennaeth yr Ysgol

Bydd Dr Foster Evans a’i gydweithwyr yn mynd i’r afael â thua chant o gerddi sy’n cynnwys ymhell dros 4,000 o linellau. Byddant yn ymgynghori â channoedd o lawysgrifau, gan gynnwys y llawysgrif farddoniaeth gynharaf yn yr iaith Gymraeg, Llyfr Du Caerfyrddin (tua 1250). Ac wrth i’r gwaith golygu a chyfieithu fynd rhagddo, bydd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu yn cael eu cynnal, gan gynnwys gwaith gydag ysgolion ac ystod o sefydliadau treftadaeth.

Bydd y prosiect yn cyrraedd uchafbwynt gyda lansiad y wefan – y corpws llawn – tua diwedd 2024.

Dywedodd Dr Foster Evans: “Ein nod yw dyfnhau ein hymwybyddiaeth a’n dealltwriaeth o’r farddoniaeth sy’n gysylltiedig â Myrddin. Byddwn yn dadansoddi rôl y farddoniaeth yn ffurfiant y chwedl Arthuraidd sydd mor gyfarwydd inni i gyd, ac yn ei gwneud yn hygyrch i gynulleidfaoedd newydd. Yn ogystal ag amlygu trywyddau ymchwil newydd posibl ym maes astudiaethau Arthuraidd, rydym hefyd yn gobeithio newid canfyddiadau’r cyhoedd ynghylch Myrddin. Mae ei hanes wedi ei wreiddio’n ddwfn yn nhirwedd Cymru, yn arbennig – wrth gwrs – yng Nghaerfyrddin ei hun. A dim ond un arwydd yw hynny o arwyddocâd hiroedlog Myrddin yn nychymyg Cymry'r Oesoedd Canol.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.