Ewch i’r prif gynnwys

Newyddion

Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd mae Prifysgol Caerdydd yn cynnal Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr er mwyn dathlu a chydnabod gwaith caled myfyrwyr a staff.

Eleni, mae’r Ysgol yn dathlu llwyddiant dau aelod o staff ac un myfyriwr ar y rhestr fer ar gyfer y gwobrau. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ddydd Iau 28 Ebrill 2016.

Mae Dr Angharad Naylor, darlithydd a Rheolwr Prosiect Cymraeg i Bawb, wedi ei henwebu yng nghategori ‘Pencampwr Addysg Gymraeg’ a Dr Jonathan Morris wedi’i enwebu fel ‘Aelod o Staff Mwyaf Blaengar’. Yn ogystal â hyn mae Steffan Bryn, myfyriwr blwyddyn olaf yn yr Ysgol, ar restr fer  y categori ‘Rôl Anrhydedd’.

Dywedodd Dr Jonathan Morris: “Roeddwn wrth fy modd gyda’r enwebiad ac mae cyrraedd y rhestr fer yn fraint fawr! Rwyf wir yn ddiolchgar i bawb sydd wedi pleidleisio ac yn edrych ymlaen at ddathlu yng nghwmni fy nghydweithwyr o Ysgol y Gymraeg ac o ysgolion eraill.”

Ychwanegodd Dr Angharad Naylor: “Mae hi’n anrhydedd mawr cael derbyn y fath sylw ac rwy’n hynod ddiolchgar i bawb a bleidleisiodd. Mae wedi bod yn flwyddyn gyffrous yn enwedig gyda lansiad Cymraeg i Bawb haf diwethaf. Rwy’n edrych ymlaen at y seremoni!’’

Llongyfarchiadau mawr i’r rheiny sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ac i bawb a gafodd enwebiad. Mae’n braf gweld bod gwaith y staff yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau myfyrwyr y Brifysgol. Pob hwyl ichi yn y seremoni wobrwyo.

Mae rhestr fer llawn Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr 2016 ar gael ar wefan Undeb y Myfyrwyr.

Bydd academyddion o’r Brifysgol yn ymuno â storïwyr enwog i ddathlu hud o lenyddiaeth ar gyfer pob oedran, yng Ngŵyl Llenyddiaeth Plant Caerdydd.

Bydd arbenigwyr o Ysgol y Gymraeg a’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Brifysgol yn chwarae rhan flaenllaw yn yr Ŵyl, sy'n rhedeg o 16 i 24 Ebrill 2016, gan rannu eu gwaith ymchwil dynamig ac amrywiol ym maes llenyddiaeth plant.

Maen nhw’n ymddangos mewn rhaglen sy'n cynnwys yr awdur plant poblogaidd Jacqueline Wilson, Barry Cunningham - a wnaeth ddarganfod JK Rowling - a llu o awduron a dylunwyr Cymraeg a Saesneg.

Dyma restr o’r digwyddiadau y bydd y Brifysgol yn eu harwain yn ystod yr Ŵyl:

  • 18 Ebrill - Dr Catherine Butler (Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth)
    Cymryd Llenyddiaeth Plant o Ddifrif
  • 20 Ebrill – Dr Siwan Rosser (Ysgol y Gymraeg)
    Mewn trafodaeth gyda Gareth F. Williams (awdur plant Cymraeg enwog)
  • 21 Ebrill – Yr Athro Damian Walford Davies (Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth), Dr Siwan Rosser a gwesteion
    Dahl Cymru? - Trafodaeth yn seiliedig ar gyhoeddiad ar y gweill gan Wasg Prifysgol Cymru Roald Dahl: Wales of the Unexpected

Dywedodd yr Athro Damian Walford Davies, Pennaeth yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth: “Mae ymglymiad ein Hysgol gyda’r wŷl sefydledig yn cyffwrdd â chwarëusrwydd radical a difrifoldeb mawr llenyddiaeth i blant (sydd yn llenyddiaeth i oedolion, hefyd). Mae ymgysylltiad Prifysgol Caerdydd gyda'r capasiti o lenyddiaeth i ysgogi dychymyg darllenwyr ifanc i’w weld."

"Gall yr astudiaeth o lenyddiaeth plant roi goleuni ar faterion diwylliannol ac ieithyddol yn y gymdeithas gyfoes ac mae’r ŵyl, sy'n parhau i dyfu bob blwyddyn, yn gyfle i rannu gwaith ymchwil helaeth ac arbenigedd y Brifysgol yn y maes hwn. Hefyd mae'n dathlu llawenydd darllen ac yn rhoi porth i fyd hudol geiriau a dychymyg i bobl ifanc," ychwanega Dr Siwan Rosser o Ysgol y Gymraeg, sydd wedi bod yn rhan o’r ŵyl ers ei sefydlu yn 2013.

Yn ôl yr Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil Prifysgol Caerdydd ar gyfer Arloesedd ac Ymgysylltu Prifysgol Caerdydd: "Mae’r Ŵyl Llenyddiaeth Plant yn rhoi llwyfan cyffrous i ni rannu ein hymchwil lenyddol o'r radd flaenaf ac i ennyn diddordeb cynulleidfa eang, o blant i oedolion. Fel cyd-drefnwyr yr Ŵyl rydym yn falch o helpu i ddod â’r rhaglen amrywiol a difyr hwn o ddigwyddiadau i'r gymuned leol.”

Nod holl ddigwyddiadau ŵyl, boed hynny ar gyfer pobl ifanc neu oedolion, yw ysbrydoli, meithrin ac annog cariad gydol oes ar gyfer llyfrau a darllen. Eleni, bydd yr ŵyl hefyd yn dathlu geni un o awduron mwyaf adnabyddus Caerdydd – Roald Dahl - ac mae’n cynnal digwyddiadau ar thema i ddathlu canmlwyddiant ei eni.

Mae’r ŵyl wedi parhau i dyfu dros y blynyddoedd, gan ehangu i redeg ar draws ddau benwythnos eleni.

Ysgoloriaeth yn ariannu ymweliad ymchwil o chwe wythnos ym Mhrifysgol McGill

Mae Sara Orwig yn hedfan i Ganada am gyfnod o astudiaeth gydag arbenigwyr Prifysgol McGill yn Montreal.

Mae Prifysgol McGill yn brifysgol anrhydeddus sydd ymysg y 25 gorau yn y byd yn ôl Rhestr QS.

Ariennir ymweliad Sara gan ysgoloriaeth y Cyngor Rhyngwladol dros Astudiaethau Canadaidd a’r Athro Catherine Leclerc, arbenigwr yn amlieithrwydd llenyddol a chyfieithu llenyddol yn yr Adran Ffrangeg, yw’r noddwr academaidd.

Mae doethuriaeth Sara yn ymwneud â chymharu cyfnewid côd mewn llenyddiaeth Gymraeg a llenyddiaeth Ffrangeg-Canadaidd ac mae hi’n gweld yr ymweliad fel cyfle amhrisiadwy i fanteisio ar adnoddau llyfrgell McGill.

Dywedodd Sara: “Wrth deithio i Ganada ac ymweld â McGill caf gyfle i gyfweld â nifer o’r awduron sydd yn gyfrifol am y testunau y byddaf yn eu dadansoddi yn fy noethuriaeth. Bydd yn gyfle hefyd i adeiladu perthynas gydag ysgolheigion nodedig yn y maes a’r rheiny sydd yn ymddiddori yn y cysylltiad rhwng dwyieithrwydd a llenyddiaeth.”

Ychwanegodd yr Athro Diarmait Mac Giolla Chriost, Cyfarwyddwr Ymchwil Ysgol y Gymraeg: “Mae’r daith yma yn gyfle arbennig i Sara fanteisio ar arbenigedd a phersbectif academyddion McGill. Bydd hi hefyd yn datblygu cysylltiadau proffesiynol a phersonol fydd o fudd iddi wrth ddatblygu ei doethuriaeth.”

Llongyfarchiadau mawr i Gethin Wynn Davies, myfyriwr Y Gyfraith a’r Gymraeg yn ei drydedd flwyddyn, am gipio Cadair yr Eisteddfod Ryng-golegol a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn 27 Chwefror.

Cerdd ar y testun Cam oedd y gofyniad, ac yn ôl y beirniad Dr Llŷr Gwyn Lewis, llwyddodd Gethin i:  “ffrwyno’r gynghanedd a’i throi i’w felin ei hun, gan ganu’i genadwri yn ffres, yn ddi-wastraff ac yn gyfoes ... Mae hon yn gerdd gynnil dros ben, ac yn sicr dyma gyfanwaith mwyaf gorffenedig y gystadleuaeth hefyd.”

Cafodd nifer o fyfyrwyr yr Ysgol lwyddiant yn y tasgau gwaith cartref ac hefyd ar lwyfan yr Eisteddfod, llongyfarchiadau mawr i bawb!

Cafodd un o fyfyrwyr Cymraeg i Bawb, Yann Guillaume Nurismloo, lwyddiant yn y cystadlaethau gwaith cartref i ddechreuwyr pur.

Dywed Dr Angharad Naylor, Rheolwr Prosiect Cymraeg i Bawb: “Mae llwyddiant Yann yn arbennig gan mai dim ond ers mis Hydref y mae’n dysgu Cymraeg. Rwyf wrth fy modd fod Cymraeg i Bawb wedi profi i fod yn llwyddiant mawr, ac rwy’n edrych ymlaen at  ehangu darpariaeth Cymraeg i Bawb yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.”

Prifysgol Caerdydd yn mynd heibio i Fangor wrth iddi godi 17 lle i safle rhif 12 yn y DU

Prifysgol Caerdydd sy'n cynnig y profiad gorau i fyfyrwyr yng Nghymru, gan fynd heibio i Brifysgol Bangor, yn ôl Arolwg Profiad Myfyrwyr diweddaraf Times Higher Education(THE).

Wrth ei mesur yn erbyn gweddill prifysgolion y DU, mae Caerdydd bellach yn safle rhif 12 – gan godi 17 lle yn dilyn arolwg y llynedd. Mae Bangor yn safle rhif 14, ac Abertawe yn llusgo y tu ôl ar safle rhif 33.

Mae Arolwg Profiad Myfyrwyr THE wedi'i gynnal ers 11 mlynedd. Mae'n unigryw, am ei fod yn edrych y tu hwnt i'r diffiniad arferol o brofiad myfyrwyr - sy'n cynnwys addysgu, dysgu, asesu ac adborth yn bennaf - i ddiffiniad ehangach, a grëwyd gan fyfyrwyr eu hunain, sy'n cynnwys yr agweddau hynny ar fywyd mewn prifysgol sydd bwysicaf iddynt.

Dywedodd yr Athro Patricia Price, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd ar gyfer Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd:

"Rydym yn falch iawn o fod ymhlith yr 20 prifysgol orau yn y DU, a'r brifysgol orau yng Nghymru, yng nghyd-destun profiad myfyrwyr. Mae safle'r Brifysgol ar y cyfan, sydd wedi gwella'n sylweddol, yn benodol ar fesurau fel darlithoedd o ansawdd uchel, cyfleusterau a chyrsiau wedi'u strwythuro'n dda, yn adlewyrchu'r buddsoddiadau sylweddol rydym yn eu gwneud ym mhrofiad myfyrwyr.

"Mae'r rhain yn cynnwys uwchraddio ein mannau dysgu, oriau agor hwy ar gyfer y llyfrgelloedd, canolbwyntio'n helaeth ar asesu ac adborth, a mwy o fynediad at wasanaethau cefnogi myfyrwyr, yn ogystal â sefydlu Canolfan Arloesedd Addysg i wella rhagoriaeth dysgu ac addysgu."

Ychwanegodd yr Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: “Mae canlyniadau’r THE yn dangos pa mor dda yw profiad cyffredinol myfyrwyr Caerdydd, ar lefel gymdeithasol ac academaidd, ac ein bod yn arwain y ffordd yng Nghymru. Fel Ysgol, rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod profiad y myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn un arbennig. Mae'r gymuned honno yng Nghaerdydd yn un agos a bywiog, ac mae yna ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, o fewn y Brifysgol ac yn allanol yn y brifddinas.”

Mae dros 15,000 o israddedigion amser llawn wedi cymryd rhan yn arolwg eleni, a 4% yn fwy wedi cymryd rhan na'r llynedd. Roedd yr holl ymatebwyr yn aelodau o Banel Myfyrwyr YouthSight – a gaiff eu recriwtio drwy UCAS yn bennaf – a chasglwyd eu safbwyntiau rhwng Hydref 2014 a Mehefin 2015.

Mae canlyniadau llawn yr arolwg ar gael yma

Carfan o fyfyrwyr Americanaidd yn mwynhau prynhawn yn y Senedd

Croesawyd 15 o fyfyrwyr Prifysgol Colgate, Madison County, Efrog Newydd, i’r Senedd ym Mae Caerdydd gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones AM.

Mae’r myfyrwyr ar gyfnod o astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd fel rhan o’u cynllun gradd yn Colgate. Yn ogystal ag astudio eu pynciau gradd penodol, rhoddir cyfle unigryw iddynt astudio modiwlau yn Ysgol y Gymraeg. Mae’r modiwlau yn ymwneud yn benodol ag iaith a diwylliant Cymru.

Fel rhan o'r modiwl Wales and the Welsh Language, cafodd y myfyrwyr gyfle i fynd ar daith o amgylch y Senedd. Cawsant gyfle unigryw i holi’r Prif Weinidog a Llyr Gruffudd AC, Gweinidog Cysgodol Cymunedau Cynaliadwy, Ynni a Bwyd.  Bu’r myfyrwyr yn holi cwestiynau i'r gweinidogion am hanes Cymru, y Senedd a’u rôl yn y Llywodraeth, a gwleidyddiaeth Cymru'n gyffredinol.

Dywedodd Joel Sommers, cydlynydd Colgate: “Roedd hi’n anrhydedd i gwrdd â’r Prif Weinidog a Llyr Gruffudd AC yn y Senedd, canolbwynt bywyd gwleidyddol Cymru. Roedd cael holi cwestiynau iddynt a chael ein tywys o amgylch yr adeilad yn gymorth mawr i wella ein dealltwriaeth o’r Gymru gyfoes - ei hiaith, gwleidyddiaeth, cymdeithas a diwylliant.”

Ysgol y Gymraeg yn llongyfarch cyn-fyfyriwr, y Prifardd Ifor ap Glyn, ar ei rôl newydd

Mae Ifor ap Glyn wedi cael ei enwi gan Llenyddiaeth Cymru i olynu Gillian Clarke fel Bardd Cenedlaethol Cymru.

Bydd Ifor yn ymgymryd â’i rôl fel pedwerydd Bardd Cenedlaethol Cymru ar 31 Mai 2016 mewn digwyddiad gyda’i ragflaenwyr Gillian Clarke, Gwyn Thomas a Gwyneth Lewis yng Ngŵyl y Gelli.

Ganed Ifor yn Llundain i deulu Cymraeg ond mae’r bardd, cyflwynydd a chyfarwyddwr gyda Chwmni Da, bellach yn byw yng Nghaernarfon. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith - ym 1999 ac yn 2013 - a threuliodd flwyddyn fel Bardd Plant Cymru (2008-2009).

Astudiodd Ifor am radd yn y Gymraeg a Hanes Cymru ym Mrifysgol Caerdydd rhwng 1980 a 1983. Mae rhai o staff yr Ysgol yn ei gofio yn dda.

Dywedodd Yr Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg a chyn-ddarlithydd ar Ifor: “Hoffwn longyfarch Ifor ar y fraint arbennig hon. Rydym yn falch iawn o’r cysylltiad rhyngddo a’r Ysgol.

“Mae Ysgol y Gymraeg wedi bod yn feithrinfa i rai o lenorion ac ysgolheigion mwyaf Cymru. Pleser o’r mwyaf yw gweld un o’n cyn-fyfyrwyr yn cael ei gydnabod yn gyhoeddus fel hyn. Rydym yn dymuno’n dda iddo yn y swydd ac yn gobeithio y cawn ei groesawu yn ôl i’r Ysgol yn fuan iawn.”

Prosiect newydd i ddogfennu defnydd cyfoes yr iaith Gymraeg wedi dechrau wrth i filiynau o bobl ar draws y byd dathlu Dydd Gŵyl Dewi

Cychwynnodd prosiect y Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC) ar Fawrth 1 2016 wedi ei harwain gan yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â Phrifysgolion Abertawe, Bangor a Lancaster.

Ariennir CorCenCC (grant o £1.8m) gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC).

Bydd yr arian yn galluogi datblygu’r corpws torfol cyntaf o’r Gymraeg – sef casgliad mawr o destunau, neu gorff o ddeunydd ysgrifenedig neu lafar, a hynny at ddiben dadansoddi ieithyddol.

Daw’r cyfranwyr o blith y 562,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a byddant yn cyfrannu drwy dechnolegau digidol torfol a chydweithio cymunedol. Hefyd, bydd y corpws terfynol ar gael yn rhad ac am ddim i bawb sydd am ei ddefnyddio.

Y prosiect - sydd yn cael ei yrru gan y gymuned – yw’r cyntaf o’i fath. Y bwriad yw cynrychioli'r Gymraeg ar draws gwahanol ddulliau cyfathrebu a chaniatáu i unigolion nodi ac archwilio'r Gymraeg fel mae’n cael ei defnyddio yn hytrach na dadansoddi sut y dylid ei ddefnyddio mewn modd ffurfiol.

Dywedodd Dr Dawn Knight, o Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd, sy'n arwain y prosiect: “Ers i ni sicrhau’r cyllid yn hwyr yn 2015 mae tîm y prosiect, ar draws y prifysgolion sy’n bartneriaid, wedi bod yn cynllunio tuag at fynd â’r prosiect yn fyw. Rydym wedi recriwtio pum cynorthwy-ydd ymchwil arbennig ac yn edrych ymlaen at gyhoeddi cyfraniad llysgenhadon nodedig yn fuan iawn.

“Dyma gyfnod cyffrous i ni ac rydym yn awyddus i ddechrau’r gwaith o adeiladu’r corpws. Byddwn yn lansio ap arloesol i gasglu data ac yn chwilio am gyfranwyr o gefndiroedd demograffig amrywiol fel bod’r data sy’n cael ei gasglu yn cynrychioli cyfoeth a amrywiaeth y Gymraeg.”

Mae i’r prosiect berthnasedd ieithyddol, diwylliannol a chymdeithasol. Bydd ymgysylltu â'r cyhoedd trwy dechnolegau newydd yn chwarae rhan sylweddol er mwyn dangos sut mae defnydd o’r iaith yn amrywio ac yn newid - boed o ran gwahaniaethau rhanbarthol neu'r defnydd o dreigladau dros amser.

Bydd y prosiect yn cael effaith gadarnhaol ar grwpiau gwahanol o ddefnyddwyr gan gynnwys cyfieithwyr, cyhoeddwyr, llunwyr polisi, datblygwyr technoleg iaith ac academyddion. Bydd pecyn cymorth pwrpasol yn cael ei greu ar gyfer athrawon a dysgwyr, er mwyn ymchwilio i ddefnydd iaith.

Bydd y prosiect rhyngddisgyblaethol a chydweithredol hwn yn rhedeg am dair blynedd a hanner ac mae rhanddeiliad allweddol yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Cyd-bwyllgor Addysg Cymru, sefydliadau Cymraeg i Oedolion, Gwasg y Lolfa a Geiriadur Prifysgol Cymru.

Croesawodd yr Ysgol oddeutu 140 o ddisgyblion ail-iaith blwyddyn 12 a 13 ar gyfer diwrnod adolygu arbennig yn ddiweddar.

Fel modd o baratoi ar gyfer eu harholiadau ac er mwyn rhoi blas iddynt ar astudio’r Gymraeg yn y Brifysgol, cynhaliwyd diwrnod cyfan o weithdai a sesiynau rhyngweithiol gan staff yr Ysgol.

Cafwyd sesiynau difyr a oedd yn canolbwyntio ar agweddau penodol ar y cwrs UG ac Uwch megis barddoniaeth, ffilm, y ddrama ynghyd â sesiynau mwy cyffredinol ar ddefnyddio ac ymarfer y Gymraeg.

Dywedodd Dr Angharad Naylor, Cydlynydd Darpariaeth Ail Iaith Ysgol y Gymraeg: “Fel Ysgol rydym yn awyddus i gynorthwyo disgyblion ail iaith ysgolion uwchradd lleol i baratoi tuag at eu harholiadau. Mae’n bwysig ein bod yn cydweithio ag ysgolion i gefnogi’r disgyblion ac i roi hyder iddynt ddefnyddio’u Cymraeg yn y dosbarth a thu hwnt. Mae galw cynyddol am raddedigion sy’n medru’r Gymraeg felly mae’n bwysig annog y disgyblion i ymarfer eu hiaith, a’u gwneud yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael o fedru siarad Cymraeg.”

“Roedd y diwrnod adolygu yn brysur ac yn fywiog, a chawsom adborth cadarnhaol iawn gan y disgyblion a’u hathrawon a’u tiwtoriaid. Hoffai staff Ysgol y Gymraeg ddymuno pob hwyl i’r disgyblion yn eu hastudiaethau. Gobeithiwn y cawn eu croesawu yma eto cyn hir, boed hynny ar gyfer diwrnod adolygu arall, neu fel myfyrwyr israddedig.”

Bydd Gwennan Higham, myfyrwraig PhD yn Ysgol y Gymraeg, yn cyflwyno seminar, o'r enw Llwybrau amlieithog newydd ar gyfer integreiddio: Mewnfudwyr a dysgu iaith yn yr 21ain Ganrif, fel rhan o gyfres o Seminarau BAAL-CUP ym mis Mai 2016.

Cyflwynir y seminar ar y cyd â Nicola Bermingham, myfyriwr PhD, Ieithoedd ac Astudiaethau Rhyngddiwylliannol ym Mhrifysgol Heriot-Watt, ar ôl cyflwyno cais llwyddiannus i Bwyllgor Gweithredol Cymdeithas Ieithyddiaeth Gymhwysol Prydain (BAAL).

BAAL a Gwasg Prifysgol Caergrawnt (CUP) sy’n ariannu’r gyfres o Seminarau, a gynhelir am y bedwaredd flwyddyn eleni. Mae’n dangos eu hymrwymiad i waith ymchwil, ac i hyrwyddo’r gwaith ymchwil hwnnw, mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol.

Mae’r seminar deuddydd wedi’i threfnu ar y cyd â COST (Rhaglen Gydweithredu Ewropeaidd ym maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg) gyda chymorth gan y Ganolfan Ymchwil Rhyngddiwylliannol a’r Adran Ieithoedd ac Astudiaethau Rhyngddiwylliannol ym Mhrifysgol Heriot-Watt.

Dywedodd Gwennan wrth sôn am y cynnig llwyddiannus: “Mae Nicola a minnau’n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn i ddod ag ymchwilwyr cymdeithaseg iaith, swyddogion y llywodraeth ac ymarferwyr cymunedol at ei gilydd i drafod y prif gwestiynau sy’n ymwneud ag integreiddio mewnfudwyr a dysgu iaith yn yr 21ain Ganrif. Er gwaethaf yr ideoleg o ‘un wlad, un iaith’ sy’n bodoli’n sylweddol, bydd y seminar yn ystyried natur aml-wedd dinasyddiaeth ac iaith, er enghraifft, yng Nghymru, yn ogystal â mewn rhannau eraill yn y DU. Y nod yw dynodi themâu allweddol er mwyn datblygu gwaith ymchwil a chydweithio ymhellach yn y maes hwn yn y dyfodol. ”

Llongyfarchodd Dr Jeremy Evas, darlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, Gwennan am lwyddo i sicrhau cyllid ar gyfer y seminar, a dywedodd: “Mae Gwennan yn cyfrannu’n sylweddol at y maes astudiaeth hwn, thema ymchwil sy’n bwysig iawn i ni yma yn Ysgol y Gymraeg. Mae cynllunio, polisi, caffael a defnyddio iaith yn bynciau pwysig yng Nghymru gyfoes ac yn rhyngwladol. Rydyn ni’n dymuno’r gorau i Gwennan gyda’r seminar, ac yn edrych ymlaen at y deilliannau.”

Bydd y digwyddiad yn annog trafodaeth ryngddisgyblaethol gydag amrywiaeth o bapurau o wahanol gyd-destunau iaith a mudo a thrafodaethau o amgylch y bwrdd â gwahanol sectorau. Y prif themâu i'w trafod yw’r cyfleoedd a’r heriau i fewnfudwyr sy’n dysgu ieithoedd newydd, i ba raddau mae siaradwyr sy’n fewnfudwyr yn herio'r syniadau cyfredol am integreiddio, cydlyniant a dinasyddiaeth a pha gynlluniau allai hwyluso golwg fwy cynhwysfawr o integreiddio, cydlyniant a dinasyddiaeth yng nghyd-destun ieithoedd lleiafrifol a chenedlaethol.

Mae’r siaradwyr wedi’u cadarnhau, a bydd y canlynol yn rhoi'r prif anerchiadau:

  • Yr Athro Alison Phipps, Athro Ieithoedd ac Astudiaethau Rhyngddiwylliannol, a Chyd-gynullwr Rhwydwaith Ffoaduriaid, Lloches a Mewnfudo Glasgow (GRAMNET) ym Mhrifysgol Glasgow.
  • Yr Athro Máiréad Nic Craith, Cadeirydd Diwylliant a Threftadaeth Ewrop, Cyfarwyddwr Ymchwil a Chyfarwyddwr y Ganolfan Rhyngddiwylliannol ym Mhrifysgol Heriot-Watt.

Darllenwch fwy am y seminar a’r prif areithiau, ac am sut gallwch chi gysylltu â’r trefnwyr.