Ewch i’r prif gynnwys

Cyn-fyfyriwr MA yn dychwelyd i draddodi seminar ymchwil

12 Rhagfyr 2016

Yn ddiweddar, croesawodd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, cyn-fyfyriwr o America a ddaeth yn ôl i gymryd rhan yng nghyfres Seminarau Ymchwil blynyddol yr Ysgol.

Cafodd y seminar, sef Gwirioneddau a Chyfnewidiadau: Mesur Hunaniaeth y Cymry yn Llyfrau Gleision 1847, ei thraddodi gan Matthew C. Jones, myfyriwr MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd graddedig sydd bellach yn gweithio ar ei PhD ym Mhrifysgol Connecticut, UDA.

Roedd y seminar yn ymchwilio i’r adroddiadau ar y Llyfrau Gleision (ymchwiliad cyhoeddus gan y llywodraeth ar gyflwr addysg yng Nghymru yn ystod y 19eg ganrif), ac yn ystyried y portread a hyrwyddir ynddynt o hunaniaeth Gymreig ac o’r profiad Cymreig. Daeth cynulleidfa frwd i’r seminar i wrando ar Matthew yn ehangu ar ei thesis ac yn rhannu darganfyddiadau ei ymchwil diweddaraf.

Derbyniodd wahoddiad i draddodi’r seminar gan y Dr Siwan Rosser, darlithydd a chydlynydd y rhaglen MA, ac wrth ddychwelyd rhannodd Matt ei deimladau am ei gyfnod yn yr Ysgol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, dechreuodd Matt, sydd yn hanu’n wreiddiol o Baltimore, ddysgu Cymraeg ynghyd â’i astudiaethau. Wrth drafod ei brofiad yng Nghaerdydd, dywedodd:

“Roedd fy mhrofiad fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd yn un unigryw iawn o’i gymharu â phrofiadau fy ffrindiau, ac roeddwn i’n ffodus iawn. Er fy mod i wedi dewis gwneud cais i ddod i Gaerdydd, roedd Caerdydd wedi fy ‘newis’ i mewn sawl ffordd.

“Roeddwn i eisoes yn gyfarwydd â nifer o ddarlithwyr Ysgol y Gymraeg drwy ymchwil annibynnol. Pan sylweddolais eu bod yn barod i dderbyn fy syniadau a’m cynigion, roeddwn i’n gwybod mai i Gaerdydd y byddwn i’n mynd. Cefais grant i dalu'r ffioedd dysgu yn llawn drwy’r Swyddfa Astudiaethau Rhyngwladol, a rhoddodd hynny’r cyfle i mi wireddu amcanion fy ymchwil.

“Roedd y flwyddyn a dreuliais yn dilyn MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn Ysgol y Gymraeg yn rhagori ar fy mlynyddoedd eraill fel myfyriwr (a gychwynnodd yn 2011 ac sy’n dal i barhau). Roedd gen i fynediad at archifau na fyddwn i wedi’u darganfod fel arall, roedd yr adran yn groesawgar tu hwnt (cefais gymorth gyda fy ngwaith, gyda fy Nghymraeg, gyda dod o hyd i astudiaeth gwaith yn Aberystwyth, a hyd yn oed gyda sut i gynnwys darganfyddiadau fy astudiaethau Cymreig yn y PhD yn y modd mwyaf effeithiol).

"Ond yr hyn a gafodd yr effaith fwyaf arnaf i ac ar fy ngwaith oedd y ffordd roedd yr Adran yn gweithredu eu targedau ar gyfer pob myfyriwr. Roedd fy holl gyfoedion yn canolbwyntio ar ddiddordebau gwahanol (yn ymwneud ag Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd). Yn y gwersi roeddem yn gallu manteisio ar weld gwaith ein gilydd ac ar feysydd ymchwil gwahanol. Mewn cyfarfodydd unigol â darlithwyr yr adran, roedd cyfle i gael arweiniad personol a mewnwelediad i’n diddordebau penodol ac i’n prosiectau ymchwil. Yn y modd hwn, roedd pob myfyriwr yn cael ei annog i ddilyn ei ddiddordebau unigryw ym maes Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd gan ymgysylltu ar yr un pryd â diddordebau amrywiol y myfyrwyr eraill. Roedd hyn yn gwbl wahanol i unrhyw brofiad roeddwn i wedi’i gael cyn hynny, ac roeddwn i’n teimlo bod y dull hwn yn gweithio’n arbennig er mwyn dangos i ni fod yna nifer o ffyrdd y gellir deall a  chyfrannu’n well at y maes Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd, ac y gallai pob un ohonynt gydweithio a dysgu oddi wrth ei gilydd.”

Rhannu’r stori hon

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan yr Ysgol.