Cynhaliwyd seremoni wobrwyo’r Cynllun Sabothol ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg yn Siambr y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Brifysgol ar Nos Iau 1 Hydref 2015 gyda’r ddarlledwraig Nia Parry yn arwain y noson.
Mae Dr Rhiannon Marks, Darlithydd a Thiwtor Derbyn yr Ysgol, wedi ennill Gwobr Goffa Syr Ellis Griffith am ei chyfrol academaidd gyntaf ‘Pe gallwn, mi luniwn lythyr’: golwg ar waith Menna Elfyn.
Mae Ceri Elen, myfyrwraig PhD a thiwtor Sgriptio ac Ysgrifennu Creadigol yn yr Ysgol, newydd ddychwelyd wedi cyfnod yn actio yn Awstralia ar lwyfan byd-enwog Tŷ Opera Sydney gyda chwmni Theatr Iolo.