Ewch i’r prif gynnwys

Newyddion

Darllen ein newyddion diweddaraf am Wyliau Cymru.

Bydd gweledigaeth Prifysgol Caerdydd o ddiwylliant Cymraeg cadarnhaol a chynhwysol i'w staff a'i myfyrwyr yn gefndir i'w chyfraniad at Eisteddfod AmGen 2021.

Bydd Academi Gymraeg Prifysgol Caerdydd, sefydliad newydd sy'n cysylltu'r rhai sy'n ymwneud â'r Gymraeg - boed yn fyfyrwyr, staff neu randdeiliaid allanol - yn cael ei sefydlu fel rhan o weithgaredd Prifysgol Caerdydd yn ystod gŵyl genedlaethol Cymru.

Bydd yn sbardun allweddol wrth gyflawni a gweithredu uchelgeisiau strategaeth Gymraeg y Brifysgol Yr Alwad/Embrace It, sy'n adeiladu ar fentrau, rhwydweithiau a gweithgareddau presennol, gan eu tynnu ynghyd i agenda ddiwylliannol a chymunedol glir a diffiniedig.

Mae’r strategaeth yn nodi uchelgeisiau i gynyddu nifer y myfyrwyr ar ei rhaglenni Cymraeg a dwyieithog, ehangu a gwella addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, datblygu Cynnig Caerdydd ar gyfer darpar fyfyrwyr a Champws Cymraeg i'r rhai sydd eisoes yn astudio ac yn gweithio yn y Brifysgol.

Mae cymuned ymchwil Gymraeg sy'n wynebu'r cyhoedd hefyd wedi'i chynllunio er mwyn helpu i lunio agendâu polisi ac ymchwil yng Nghymru a thu hwnt.

Dywedodd yr Athro Damian Walford Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg:

Ychwanegodd Dr Huw Williams, Deon y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd: “Rydyn ni eisiau gosod sylfaen yn y Brifysgol ar gyfer datblygu cymuned sy’n annog cyfranogiad ni waeth beth fo’ch gafael ar yr iaith, yn union fel y mae’r Eisteddfod wedi’i wneud dros y blynyddoedd.

Fel rhan o raglen ddigwyddiadau'r Brifysgol yn Eisteddfod AmGen 2021, bydd Catrin Jones, Rheolwr newydd Yr Academi Gymraeg, yn trafod prosiect sydd ar ddod gyda Joseph Gnagbo, a ddaeth i Gymru fel ceisiwr lloches o Arfordir Ifori. Bydd Joseph, a ddysgodd Gymraeg am ddim fel rhan o fenter Prifysgol Caerdydd, yn arwain gwersi Cymraeg trwy Arabeg ym Mhafiliwn Grangetown - canolfan gymunedol a sefydlwyd gyda chefnogaeth prosiect ymgysylltu Prifysgol Caerdydd, Porth Cymunedol Grangetown.

Meddai Catrin, sydd wedi bod yn gweithio ar y prosiect yn ei rôl flaenorol gyda First Campus: “Rwy’n gyffrous iawn am reoli Academi Iaith Gymraeg y Brifysgol, ac mae’n wych gallu siarad â Joseph am y prosiect hwn yn AmGen. Mae'n enghraifft o'r math o weithgaredd amlieithog sy'n canolbwyntio ar y gymuned yr ydym am wneud rhan o'n gwaith o amgylch y Gymraeg.

Bydd ffilm newydd, a gafodd ei chreu i ddal ysbryd bywyd Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac ar draws y ddinas, hefyd yn cael ei rhyddhau yn ystod yr Eisteddfod AmGen.

[Bywyd Caerdydd, Bywyd Cymraeg]

Mae'r ffilm yn cynnwys cerdd a ysgrifennwyd gan fardd ac aelod o staff Osian Rhys Jones, a enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017 am ei gerdd Arwr, ac a berfformir gan Annell Dyfri, myfyriwr yn Ysgol Gymraeg y Brifysgol a Darpar Arlywydd UMCC, Undeb y Myfyrwyr Cymraeg.

Dywedodd Annell, sydd hefyd yn ymddangos yn y ffilm:

Gydag Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion wedi’i gohirio eto eleni, mae’r trefnwyr wedi adeiladu ar lwyddiant AmGen y llynedd gan ddatblygu rhaglen o ddigwyddiadau, gweithgareddau a chystadlaethau a gynhelir ar draws eu platfformau ar-lein o ddydd Sadwrn 31 Gorffennaf - Dydd Sul 8 Awst 2021.

Mae'r gwasanaeth newyddion digidol hirsefydlog dan arweiniad gohebwyr myfyrwyr o Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â'r Eisteddfod, S4C, ITV Cymru a BBC Cymru hefyd yn dychwelyd am flwyddyn arall.

Mae prosiect Llais heb Faes - a ailenwyd ar gyfer yr ŵyl rithwir - yn cynnwys wyth myfyriwr newyddiaduraeth, gyda chefnogaeth eu darlithwyr a staff profiadol y BBC Andrew Weeks a Gwenfair Griffith, ac mae'n ymdrin â'r straeon mawr ar draws wythnos o ffrydiau AmGen, gan rannu fideos, arolygon barn, cwisiau a mwy ar  Twitter.

Dywedodd Rhiannon Jones, a raddiodd yr wythnos diwethaf gyda gradd mewn Cymraeg a Newyddiaduraeth: “Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gymryd rhan ym mhrosiectau Llais y Maes a phrosiectau Llais heb Faes yn y gorffennol. Mae'r tîm a'r prosiect, fel unrhyw ystafell newyddion arall, wedi addasu'n gyflym oherwydd cyfyngiadau ac mae Llais heb Faes yn bendant wedi gwneud y gorau o'r newidiadau hyn.

Bydd Eisteddfod AmGen 2021 yn gyfle i Brifysgol Caerdydd arddangos ei chymunedau ymchwil ac ymgysylltu Cymraeg, gyda nifer o'i harbenigwyr ymhlith y rhai sy'n cyflwyno cyflwyniadau rhithwir am bynciau sy'n amrywio o wleidyddiaeth ac iechyd y cyhoedd i ieithyddiaeth a llyfrgelloedd eleni:

Rhagor o wybodaeth am Eisteddfod AmGen 2021.

Mae prif weithredwr newydd Golwg yn dweud y gall y grŵp newyddion Cymraeg helpu i “gau'r diffyg democrataidd” yng Nghymru.

Dyma farn Siân Powell cyn y drafodaeth y bydd Prifysgol Caerdydd yn ei chynnal ar faes yr Eisteddfod ynghylch dyfodol newyddiaduraeth brint yng Nghymru. Bydd Siân yn dechrau ar ei swydd newydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.

Meddai: “Dwi’n edrych ymlaen i ymuno â’r panel hwn ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol i drafod dyfodol newyddiaduraeth a print yng Nghymru. Mae cylchgrawn Golwg a gwasanaeth golwg360 yn enghraifft o’r cydweithio posib rhwng print a newyddion arlein.

“Mae’r dyfodol yn ddisglair i brand Golwg ac mae cyfle arbennig i ni wrth gydweithio’n agos gyda gwasanaeth golwg360 i ehangu ar y straeon sy’n cael eu torri arlein er mwyn cynnig dadansoddi, scriwtini a dehongliad pellach mewn cylchgrawn wythnosol.”

Yn ei rôl newydd bydd Siân yn goruchwylio ac yn datblygu nifer o gyhoeddiadau yn Golwg gan gynnwys y cylchgrawn newyddion a materion cyfoes ei hun, gwefan Golwg 360 a menter gwefannau cymunedol Bro 360.

Mae hi'n credu bod newyddiaduraeth gref a chynnwys amlgyfrwng Golwg yn ei roi mewn sefyllfa ddelfrydol i graffu'n drylwyr ar sefydliadau yng Nghymru.

Nid oes llawer o gyfleoedd i scriwtineiddio’n ddyfnach ar straeon newyddion yng Nghymru ac yn Gymraeg, ond mae Cylchgrawn Golwg mewn lle neilltuol i allu gwneud ac i gyfrannu tuag at cau’r diffyg democrataidd.” meddai.

Mae Siân, oedd yn arfer bod yn fyfyriwr ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn un o banel o arbenigwyr yn y diwydiant sy'n cymryd rhan yn nhrafodaeth flynyddol y Brifysgol am y cyfryngau yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd digwyddiad yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant - o'r enw Ydy’r byd ar ben i brint yng Nghymru? - yn cael ei gynnal ym mhabell Prifysgol Caerdydd ddydd Gwener 9 Awst am 14:00.

Mae cyfranwyr eraill yn cynnwys Rhuanedd Richards, Golygydd BBC Cymru Fyw a BBC Radio Cymru, Emma Meese, cyfarwyddwr newyddiaduraeth gymunedol Prifysgol Caerdydd, a Dion Jones, Golygydd Gweithredol y Daily Post.

Meddai Rhuanedd: “Mewn byd sy’n llawn sŵn, mae‘r angen yn fwy nag erioed o’r blaen am wasanaethau newyddion, sy’n glir a chadarn eu newyddiaduraeth, er mwyn ein galluogi i ddeall y newidiadau o’n cwmpas ac i graffu ar ein sefydliadau a llywodraethau. Dyna yw’r her ac mae’n bwysig fod yna amryw o lwyfannau newyddiadurol sy’n gwneud hynny yng Nghymru.
“Dyna rydyn ni’n gwneud yn ddyddiol ar Radio Cymru, Cymru Fyw ac ar draws y BBC gyda thîm o newyddiadurwyr yn gweithio yn ein cymunedau ar hyd a lled Cymru. Rwy’n edrych ymlaen  at gael trafod y byd newyddiadurol a’r newidiadau a’r cyfleoedd sy’n ei wynebu gyda’r panelwyr eraill a diolch i Brifysgol Caerdydd am roi llwyfan i’r drafodaeth honno.”

Meddai Dion: “Mae newyddiaduraeth leol yn allweddol i’n llwyddiant - sef cynnig y cynnwys iawn, diddorol i’n cynulleidfa sut a phryd mae ei eisiau arnynt.

“Mae tirwedd y cyfryngau’n newid yn gyflym, ond mae’r gallu i adrodd y newyddion pwysig a diweddaraf wrth iddynt ddigwydd yn greiddiol i’n hathroniaeth ni.”

Bydd y drafodaeth flynyddol hon am y cyfryngau, sydd bellach yn elfen boblogaidd o raglen yr Eisteddfod Genedlaethol, yn cynnwys trafodaeth fywiog a chyfle i’r gynulleidfa holi ffigurau amlwg yn y diwydiant.

Bydd panelwyr yn ystyried sut y gall newyddiaduraeth brint yng Nghymru oroesi yn y tymor hir gan fod mwy a mwy o gynnwys ar gael ar-lein.

A beth yw'r canlyniadau i ddirywiad newyddion print traddodiadol i gymunedau Cymru a democratiaeth leol?

Ond mae llygedyn o obaith ar gyfer y dyfodol hefyd o ystyried y twf mewn newyddiaduraeth gymunedol a sut y gallai ddatblygu.
Mae Emma Meese wedi chwarae rhan allweddol wrth helpu cymunedau i greu eu gwasanaethau newyddion hyperleol eu hunain, gan gynnwys Pobl y Fenni, y gwasanaeth Cymraeg cyntaf yn y Fenni yn dilyn ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â’r dref yn 2016.

Meddai Emma, Cyfarwyddwr Newyddiaduraeth Gymunedol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rydym yn gweld bod galw mawr am newyddion ar lefel hynod leol yng Nghymru gan fod y sector newyddion lleol yn parhau i dyfu a chryfhau.

“Er ein bod yn byw mewn oes ddigidol, rydym yn gweld nifer o gyhoeddiadau yn troi at brint, gan fod y model hysbysebu traddodiadol yn parhau i weithio ar lefel gymunedol. Erbyn hyn ceir y posibilrwydd y bydd hyd yn oed rhagor o gyhoeddiadau yng Nghymru yn cynhyrchu fersiynau print o ganlyniad i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y sector.”

Bydd anodd iaith nodedig i siaradwyr, dysgwyr ac ymchwilwyr y Gymraeg yn cael ei ddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol cyn cael ei lansio’n llawn flwyddyn nesaf.

Mae’r Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC) yn nesáu at ei darged o 10 miliwn o eiriau Cymraeg cyfoes.

Mae’r corpws yn waith ar y cyd rhwng prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Caerhirfryn a Bangor, wedi’i arwain gan Dr Dawn Knight o Brifysgol Caerdydd.

Bydd ymwelwyr yr Eisteddfod yn gallu edrych ar adnoddau a ddatblygwyd yn rhan o’r prosiect i helpu dysgwyr, tiwtoriaid, ymchwilwyr, ac unrhyw un sydd â diddordeb yn yr iaith Gymraeg.

Cynhelir gweithgareddau ar gyfer y rhai hynny sy’n dymuno dysgu mwy am y corpws a sut y bydd yn cael ei ddefnyddio.

Dechreuwyd y prosiect, a gafodd ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, yn 2015 a bydd yr adnodd llawn yn cael ei lansio yn 2020.

Mae deunydd ysgrifenedig, llafar ac electronig o’r byd go iawn wedi’u casglu o amrywiaeth o bobl a lleoedd yng Nghymru, o ffynonellau ffurfiol ac anffurfiol.

Mae gan ymwelwyr yr Eisteddfod Genedlaethol sawl cyfle i ddysgu rhagor am y prosiect:

  • Dydd Mawrth 6 Awst (15:15) a dydd Mercher 7 Awst (15:15), Pabell Prifysgol Caerdydd: Cewch glywed am lwyddiannau a heriau’r prosiect, gan gynnwys y dull o gasglu’r geiriau.
  • Dydd Mawrth 6 Awst (17:00) a dydd Mercher 7 Awst (17:00), Pabell y Cymdeithasau 1: Gwylio arddangosiad o adnoddau sydd wedi’u datblygu i helpu dysgwyr ac athrawon y Gymraeg.

Dau newyddiadurwr ifanc a ddechreuodd eu gyrfaoedd drwy wasanaeth newyddion digidol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ‘nôl ar y maes fel gweithwyr proffesiynol ym myd y cyfryngau.

Aeth Elen Davies a Liam Ketcher ymlaen i gael swyddi gydag ITV Cymru Wales ar ôl gweithio ar Llais y Maes Prifysgol Caerdydd yn Eisteddfod 2017.

Cafodd dau o gynfyfyrwyr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant ac Ysgol y Gymraeg brofiad gwerthfawr gyda Llais y Maes yn gweithio ochr yn ochr â newyddiadurwyr a chynhyrchwyr medrus.

Ond eleni, Elen a Liam – a fanteisiodd ar ddarpariaeth Iaith Gymraeg JOMEC – yw'r gweithwyr proffesiynol sy'n rhannu eu sgiliau.

Byddant yn cefnogi saith o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd wrth i'r Brifysgol gydweithio unwaith yn rhagor ag ITV Cymru, S4C a'r Eisteddfod Genedlaethol i greu cynnwys newyddion aml-gyfrwng o'r Maes.

Dywedodd Elen: "Heb os, Llais y maes wnaeth fy arfogi â’r holl sgiliau sylfaenol ar gyfer camu i fyd newyddiaduraeth yn syth o’r Brifysgol.

“Drwy gyflwyno enghreifftiau o fy ngwaith gyda Llais y Maes bues hefyd yn ffodus i ennill gwobr Myfyriwr Newyddiadurwr y flwyddyn yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru. Mewn byd cystadleuol, gwnaeth hyn, ynghyd â’r sgiliau wnes i ddatblygu tra’n rhan o gynllun Llais y Maes apelio at gyflogwyr gan arwain at fy mhenodiad fel newyddiadurwraig yn ITV Cymru.''

Dywedodd Liam: Mae'n fraint i fod yn rhan o brosiect Llais y Maes eto eleni, ac mae'n gyfle i roi yn ôl i'r prosiect wnaeth helpu dechrau fy ngyrfa yn y byd newyddiaduraeth a chyfryngau Cymraeg.

“Yn fy rôl yma yn ITV mae sgiliau digidol a newyddiadurol yn hanfodol, ac mae Llais y Maes wedi rhoi sylfaen da i mi. Wnaeth y prosiect rhoi hyder i mi yn newyddiadurol ac wedi helpu gyda chreu cysylltiadau cryf o fewn y diwydiant.”

Mae Llais y Maes yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddysgu sgiliau newydd a'u hymarfer, creu cysylltiadau a chael cipolwg ar fywyd newyddiadurwr yn y gwaith.

Dyma'r seithfed flwyddyn y mae Llais y Maes wedi darlledu o'r Maes, a thrydedd flwyddyn y bartneriaeth swyddogol gydag ITV Cymru Wales, S4C a'r Eisteddfod Genedlaethol.

Dywedodd Marc Edwards, Golygydd rhaglenni iaith Gymraeg ar gyfer ITV Cymru Wales: "Mae ITV yn hapus iawn i gymryd rhan unwaith eto yn y prosiect gwerthfawr yma sy'n gyfle gwych i feithrin newyddiadurwyr Cymraeg y dyfodol.

“Dyn ni'n edrych ymlaen yn fawr i roi llwyfan i leisiau amrywiol ac elwa o'u hegni a'u brwdfrydedd, a'u gallu i adrodd  straeon mewn ffyrdd newydd a gafaelgar ar blatfformau digidol."

Dywedodd Sian Morgan Lloyd, darlithydd o JOMEC sy'n arwain Llais y Maes eleni: "Mae Llais y Maes yn gyfle unigryw i fyfyrwyr o ran datblygu cyflogadwyedd a sgiliau trosglwyddadwy.

"Mae'r Eisteddfod yn amgylchedd diogel ond heriol i ddarganfod a chystadlu am straeon ac rydym wrth ein bodd yn arbrofi gyda ffyrdd newydd o adrodd straeon ar draws sawl platfform digidol."

Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: “Ry’n ni’n falch iawn i fod yn rhan o brosiect Llais y Maes unwaith eto eleni.  Mae’n bwysig ein bod ni’n gallu cynnig cyfleoedd gwaith i bobl ifanc sy’n awyddus i ddilyn gyrfa yn y byd darlledu.  

“Mae wythnos yr Eisteddfod yn gyfle i gael profiad o ddelio gyda phob math o straeon, o newyddion trwm i straeon ysgafn.  Gobeithio bydd criw 2019 yn cael cymaint o fudd o’r prosiect â’r rheini sydd wedi bod yn rhan o’r tîm dros y blynyddoedd diwethaf.”

Mae darpariaeth iaith Gymraeg JOMEC wedi mynd o nerth i nerth. Mae sawl un o’i graddedigion a'i myfyrwyr presennol wedi llwyddo i gael swyddi allweddol yng nghyfryngau myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Mae gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd yn profi pêl Cwpan Rygbi'r Byd 2019 yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Bydd ymwelwyr â'r Pentref Gwyddoniaeth ar y Maes yn gallu dysgu am bolymerau sy'n cadw dŵr oddi ar y bêl sy'n ei gwneud yn haws i'w dal.

Mae'r ymarfer hwyl ac addysgol yn rhan o weithgareddau gwyddoniaeth ymarferol y Brifysgol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst, Conwy, o 3-10 Awst 2019.

O ddefaid sy'n creu meddyginiaethau, i beintio clwyfau a'u gwella, gwahoddir ymwelwyr i dorchi llewys a dysgu am ymchwil Prifysgol Caerdydd.

Mae'r gweithgareddau yn y Pentref Gwyddoniaeth yn cynnwys:

  • Ewch i'r Arddangosfa Gwrthgyrff Gwych i ddysgu, gyda chymorth dafad amhrisiadwy o'r enw Darwen, sut mae gwrthgyrff yn ein gwarchod rhag pob math o afiechydon a sut mae'n ein helpu ni i greu meddyginiaethau newydd
  • Mae gennym ni i gyd waed coch a glas, ond nid yw gwaed pawb yr un fath – darganfyddwch sut y mae'r Gwasanaeth Trallwysiad Gwaed yn defnyddio gwrthgyrff i nodi'r math o waed sydd gennych a sut mae rhoi gwaed yn arbed bywydau
  • Darganfyddwch pam mae gan wenyn mêl bwerau hudol a sut y maent yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr o Gymru
  • Rhowch sioc i'ch ffrindiau a theuluoedd gyda chlwyfau realistig wedi'u peintio gan Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinweoedd Prifysgol Caerdydd
  • Darganfyddwch briodweddau anhygoel polymerau, sy'n gallu cael eu defnyddio i wneud clytiau sy'n amsugno dŵr, peli rygbi sy'n gwrthsefyll dŵr a deunyddiau ar gyfer gwella bodau dynol

Mae hefyd gennym raglen amrywiol o gyflwyniadau, trafodaethau a gweithgareddau ym mhabell Prifysgol Caerdydd ac mewn mannau eraill ar y Maes, gan gynnwys gweithgareddau gwyddoniaeth:

  • Mae Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau y Brifysgol yn edrych ar ddyluniad meddyginiaethau arloesol y dyfodol mewn trafodaeth fywiog (dydd Llun 5 Awst, pabell Prifysgol Caerdydd)
  • Mewn partneriaeth a'r Gymdeithas Strôc, bydd myfyrwyr Meddygol Prifysgol Caerdydd yn mesur eich pwysau gwaed, ac yn cynnig cyngor (dydd Mawrth 6 Awst a dydd Mercher 7 Awst, pabell Prifysgol Caerdydd)
  • Yr Athro Arwyn Jones fydd yn cyflwyno darlith wyddoniaeth Eisteddfod Genedlaethol eleni. Bydd yn trafod sut y gwnaeth penbyliaid Dyffryn Conwy ysbrydoli ei angerdd dros fioleg yn ystod ei fagwraeth yn Llanrwst, a'i daith ymchwil ryngwladol a ddeilliodd o hynny (dydd Iau 8 Awst, Pabell y Cymdeithasau 2)

Mae presenoldeb y Brifysgol yn yr Eisteddfod yn rhan o'n hymrwymiad 'cenhadaeth ddinesig' i'r Gymraeg a diwylliant Cymru.

Bydd Prifysgol Caerdydd yn edrych ar ddiwylliant Cymru yn y gorffennol a'r presennol yn Eisteddfod Genedlaethol 2019 Conwy.

Bydd digwyddiadau yn edrych iaith, barddoniaeth, treftadaeth, hunaniaeth Gymraeg a llawer mwy, ym mhabell y Brifysgol ar y Maes.

Bydd gwyddoniaeth hefyd yn amlwg, gydag ymwelwyr i'r babell a'r Pentref Gwyddoniaeth yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol sy'n arddangos ymchwil ac addysgu'r Brifysgol.

Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys trafodaeth flynyddol y Brifysgol ynghylch y cyfryngau gan gynnwys cyflwyno prif weithredwr newydd Golwg, Siân Powell. Byddwn hefyd yn croesawu ein gwasanaeth newyddion digidol Llais y Maes yn ôl ac yn cynnal dadansoddiad o berfformiad economaidd Cymru.

Mae presenoldeb y Brifysgol yn rhan o'n hymrwymiad 'cenhadaeth ddinesig' i ddiwylliant Cymru a'i hiaith.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol 2019 yn Llanrwst rhwng 3 a 10 Awst 2019.

Mae nifer o weithgareddau'r Brifysgol yn edrych ar agweddau o'r iaith Gymraeg, gan gynnwys y cyfle i edrych ar adnodd iaith pwysig - y Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC).

Mae'r corpws yn nesáu at ei darged o 10 miliwn o eiriau Cymraeg cyfoes a chaiff ei arddangos cyn cael ei lansio'n llawn blwyddyn nesaf.

Mae digwyddiadau CorCenCC yn cael eu cynnal ddydd Mawrth 6 Awst a dydd Mercher 7 Awst ym mhabell Prifysgol Caerdydd ac ar yr un diwrnodau ym mhabell y Cymdeithasau.

Bydd Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Dr Dylan Foster Evans, yn edrych ar y defnydd o'r iaith fel y gwelir ar waliau, graffiti a chestyll. Cynhelir y sgwrs ddydd Iau 8 Awst.

Bydd yr athronydd gwleidyddol Dr Huw Williams, Deon y Gymraeg yn y Brifysgol, yn edrych ar gyfnod hynod ddiddorol o hanes Cymru sy'n berthnasol i gynulleidfa fodern.

Bydd stori Dr Williams yn dechrau yn yr 16eg ganrif gydag un o gyn-drigolion enwog Llanrwst ac ysgolhaig o Gymru, William Salesbury, sy'n fwyaf adnabyddus am ei waith yn cyfieithu'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Cyffredin i'r Gymraeg.

Cynhelir Cymru, Lloegr a Llanrwst: Hunaniaeth gyfoes trwy ddrych y dyneiddwyr Cymreig ym mhabell y Brifysgol ar ddydd Iau 8 Awst.

Os ydych erioed wedi cnoi cil ar hanfodion barddoniaeth Cymraeg, nod enillydd Cadair Eisteddfod 2017 Osian Rhys Jones yw chwalu ambell fyth yn ei sgwrs ddydd Mercher 7 Awst.

Bydd ei wibdaith drwy gynghanedd yn galluogi ymwelwyr i ddysgu am y ffurf hon o farddoniaeth Gymraeg sy'n cael ei dathlu, yn ogystal â’i chamddeall ar adegau.

Mae trafodaeth Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC) eleni yn ystyried dyfodol newyddiaduraeth brint yng Nghymru gyda phanel blaenllaw o arbenigwyr yn y diwydiant, gan gynnwys prif weithredwr newydd Golwg, Siân Powell.

Roedd Sian yn arfer bod yn fyfyriwr ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd yn dechrau yn ei rôl newydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod, felly bydd disgwyl eiddgar i glywed ei barn am y diwydiant. Cynhelir y digwyddiad ddydd Gwener 9 Awst ym mhabell y Brifysgol.

Mae gwasanaeth newydd digidol y Brifysgol ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol, Llais y Maes, lle mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant, yn dychwelyd ar gyfer y seithfed flwyddyn.

Bydd dau o 'raddedigion' Llais y Maes, Liam Ketcher ac Elen Davies, sydd bellach yn gweithio i ITV Cymru, yn cefnogi'r myfyrwyr ac yn rhannu eu sgiliau.

Mae'r uchafbwyntiau eraill yn cynnwys:

  • Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau'r Brifysgol yn edrych ar ddyluniad meddyginiaethau arloesol y dyfodol mewn trafodaeth fywiog (dydd Llun 5 Awst, pabell Prifysgol Caerdydd); mae'r Sefydliad hefyd yn egluro'r daith drwy'r broses o greu meddyginiaethau newydd (dydd Sadwrn 3 Awst tan ddydd Mawrth 6 Awst, Pabell Gwyddoniaeth)
  • Gwasanaethau’r heddlu, llysoedd barn, a charchardai sydd wedi wynebu rhai o’r toriadau mwyaf ers dechrau’r mesurau cyni yn 2010 Ymunwch â Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ar gyfer darlith a dadl am wariant cyhoeddus ar y system gyfiawnder yng Nghymru (dydd Llun 5 Awst, pabell Prifysgol Caerdydd).
  • Guto Ifan a Cian Siôn, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, yn trafod sut mae llymder wedi effeithio ar wariant awdurdodau lleol Cymru a'r DU; effaith trethi datganoli; a rhagolygon ar gyfer gwariant cyhoeddus (dydd Mawrth 6 Awst, Pabell y Cymdeithasau 1)
  • Mewn partneriaeth a'r Gymdeithas Strôc, bydd myfyrwyr Meddygol Prifysgol Caerdydd yn mesur eich pwysau gwaed, ac yn cynnig cyngor (dydd Mawrth 6 Awst a dydd Mercher 7 Awst, pabell Prifysgol Caerdydd)
  • Dr Andrew Connell, o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yn esbonio sut gellir atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru (dydd Mawrth 6 Awst, pabell Prifysgol Caerdydd)
  • Yr Athro Arwyn Jones fydd yn cyflwyno darlith wyddoniaeth Eisteddfod Genedlaethol eleni. Bydd yn trafod sut y gwnaeth penbyliaid Dyffryn Conwy ysbrydoli ei angerdd dros fioleg yn ystod ei fagwraeth yn Llanrwst, a'i daith ymchwil ryngwladol a ddeilliodd o hynny (dydd Iau 8 Awst, Pabell y Cymdeithasau 2)
  • Gwahoddiad i gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd i dderbyniad sy'n cynnig cyfle iddynt gwrdd â chynfyfyrwyr eraill, cymdeithasu a rhannu straeon o'u hamser yng Nghaerdydd a'u bywydau ers gadael (dydd Gwener 9 Awst, pabell Prifysgol Caerdydd)

Unwaith yn rhagor, mae gan Brifysgol gyfres o weithgareddau ymarferol hwyl ac addysgiadol ym Mhentref Gwyddoniaeth yr Eisteddfod:

  • Ewch i'r Arddangosfa Gwrthgyrff Gwych i ddysgu, gyda chymorth dafad amhrisiadwy o'r enw Darwen, sut mae gwrthgyrff yn ein gwarchod rhag chwilod a sut mae'n ein helpu ni i greu meddyginiaethau gwrthgyrff
  • Mae gennym ni i gyd waed coch a glas, ond nid yw'r ddau fath yr un peth – darganfyddwch sut y mae gwrthgyrff yn nodi'r math o waed sydd gennych a sut mae rhoi gwaed yn arbed bywydau
  • Darganfyddwch pam mae gan wenyn mêl bwerau hudol a sut y maent yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr o Gymru
  • Rhowch sioc i'ch ffrindiau a theuluoedd gyda chlwyfau realistig wedi'u peintio gan Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinweoedd Prifysgol Caerdydd
  • Darganfyddwch briodweddau anhygoel polymerau, sy'n gallu cael eu defnyddio i wneud cewynnau sy'n amsugno dŵr, peli rygbi sy'n gwrthsefyll dŵr a deunyddiau ar gyfer gwella bodau dynol.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ennill Gwobr Celfyddydau a Busnes Cymru am ei phartneriaeth â'r ŵyl Gymraeg Tafwyl.

Daeth y Brifysgol i’r brig a chael llwyddiant yn y categori Celfyddydau, Busnes a'r Gymuned.

Sefydlwyd Tafwyl gan elusen Menter Caerdydd yn 2006 i ddathlu'r defnydd o'r Gymraeg yng Nghaerdydd.

Mae Gwobrau Celfyddydau a Busnes Cymru yn annog ac yn dathlu partneriaethau arloesol rhwng y sector preifat a'r celfyddydau sydd o fudd i gymunedau.

Dywedwyd bod y bartneriaeth gyda Tafwyl wedi dangos “ymrwymiad y Brifysgol i ymgysylltu â phobl ifanc yn y celfyddydau a gyda'r iaith”.

Ychwanegodd Celfyddydau a Busnes Cymru: “Fe greodd y gefnogaeth, mewn partneriaeth â Chelfyddydau a Busnes Cymru a Choleg Caerdydd a'r Fro, bum band roc, pop ac indie newydd o ysgolion uwchradd Caerdydd.

“Cyflwynwyd gweithdai gan gerddorion a choreograffwyr blaenllaw mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg.

“Cafodd pob band gyfle i berfformio yn Tafwyl ac roedd y profiad wedi helpu i ddatblygu sgiliau cerddoriaeth a Chymraeg newydd.”

At hynny, roedd gan y Brifysgol babell yn Tafwyl i hyrwyddo ymchwil ac addysgu mewn ffordd hwyl a difyr.

Rhan o 'genhadaeth ddinesig' y Brifysgol yw hyrwyddo a dathlu'r Gymraeg a bywyd diwylliannol Cymru. Bydd ganddi bresenoldeb amlwg yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, a gynhelir yn Llanrwst yn sir Conwy rhwng 3 a 10 Awst.

Bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnal cyfres o weithgareddau ymarferol i arddangos ei hymchwil a'i haddysgu yng Ngŵyl flynyddol Celfyddydau a Diwylliant Cymraeg y ddinas, Tafwyl.

Mae ein partneriaeth â'r ŵyl yn rhan o'n ‘cenhadaeth ddinesig’ i gefnogi a hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i diwylliant.

Sefydlwyd Tafwyl gan elusen Menter Caerdydd yn 2006 i ddathlu'r defnydd o'r Gymraeg yng Nghaerdydd.

Mae'r ŵyl bellach yn ddigwyddiad mawr yn y ddinas, a denodd dros 40,000 o bobl yn 2018.

Cynhelir prif raglen Tafwyl eleni yng Nghastell Caerdydd o nos Wener 21 Mehefin tan ddydd Sul 23 Mehefin. Ceir cymysgedd bywiog o gerddoriaeth byw, digwyddiadau llenyddol, drama, comedi, celf, chwaraeon, bwyd a diod yno.

Bydd ein pabell fawr sydd ar agor ddydd Sadwrn a dydd Sul tan 17:00, yn tynnu sylw at ein hymchwil mewn ffordd hwyl a diddorol gan gynnwys:

  • Dysgu am feteorynnau a'u heffaith ar fywyd ar y ddaear (Dydd Sadwrn am 12:00)
  • Ymchwilio i effaith llygredd plastig ar yr amgylchedd (Dydd Sadwrn a dydd Sul am 13:30)
  • Creu eich meddyginiaethau rhyfeddol eich hun (Dydd Sadwrn am 15:00)
  • Darganfod pam ein bod yn monitro dyfrgwn marw a chreaduriaid sy’n cael eu lladd ar y ffyrdd (Dydd Sul am 12:00)
  • Rhoi cynnig ar lawfeddygaeth (Dydd Sul am 15:00)

Bydd ymwelwyr hefyd yn gallu cael gwybodaeth am ein cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig.

At hynny, bydd Dr Jonathan Morris o Ysgol y Gymraeg yn rhoi cyngor ar ddulliau dysgu ail iaith ym mhabell y dysgwyr am 14:15 ar y dydd Sul.

Rydym yn bartner allweddol yn Tafwyl a bydd yr Athro Damian Walford Davies, Rhag Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, yn cynrychioli'r Brifysgol yn y seremoni agoriadol.

Mae mynediad i Tafwyl yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb - os ydych yn siarad Cymraeg, dysgu Cymraeg neu beidio.

Mae gennym berthynas gref â gwyliau diwylliannol mawr Cymru gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Rydym yn cefnogi Tafwyl yn yr un modd.

Unwaith eto bydd gennym bresenoldeb sylweddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, a gynhelir yn Llanrwst yn sir Conwy rhwng 3 a 10 Awst.

Bydd arbenigwr polisi Prifysgol Caerdydd, Dr Andrew Connell, yn sôn yn Eisteddfod yr Urdd am sut y gall digartrefedd ymhlith pobl ifanc gael ei ddileu yng Nghymru.

Bydd Dr Connell, o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru Prifysgol Caerdydd, yn dweud bod angen cefnogaeth barhaus ar y cam cynharaf os yw Cymru o ddifrif am fynd i’r afael â’r mater.  

Bydd ei gyflwyniad, ym mhabell Prifysgol Caerdydd am 11:00 ddydd Sadwrn 1 Mehefin, yn cyfeirio at ymchwil gan y Ganolfan sy’n ymateb i alwad Llywodraeth Cymru i gael gwared ar ddigartrefedd yng Nghymru o fewn degawd.

Dywedodd Dr Connell: “Y ffordd orau o ddod â digartrefedd i ben ymhlith pobl ifanc yw trwy atal pobl ifanc rhag bod yn ddigartref yn y lle cyntaf. Mae’n rhaid canolbwyntio ar leihau’r tebygolrwydd y bydd pobl ifanc yn ddigartref, eu helpu i gadw’u llety presennol os oes risg o’i golli, a’u helpu i gael gafael ar lety addas yn gyflym os ydynt yn colli’u cartref.

“Mae hyn yn golygu edrych ar ystod eang o ffactorau; strwythurau cymdeithasol ac economaidd, y ffordd y mae gwasanaethau fel iechyd, gofal a chyfiawnder troseddol yn gweithredu, ac amgylchiadau personol a theuluol pobl ifanc unigol.

“Yn hanfodol, mae’r dystiolaeth rydym wedi’i chyhoeddi yn awgrymu bod canfod pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref ar gam cynnar iawn, efallai cyn iddynt sylweddoli eu hunain, yn bosibl ac yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn.”

Bu’r Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn gweithio gydag arbenigwyr blaenllaw yn rhyngwladol ac o Gymru i gynhyrchu adroddiad o’r dystiolaeth orau ledled y byd ar sut i gael gwared ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc.

Defnyddiodd Llywodraeth Cymru waith y Ganolfan wrth wneud y penderfyniad o gynnig £10m ychwanegol i fynd i’r afael â digartrefedd ymysg pobl ifanc ym mis Tachwedd 2018.

NODIADAU I OLYGYDDION

Am ragor o fanylion, gan gynnwys cyfleoedd am gyfweliad, cysylltwch â Kevin Leonard yn Swyddfa'r Wasg, Prifysgol Caerdydd drwy ebostio LeonardK2@caerdydd.ac.uk neu ffonio 029 2087 0997.

Mae'r Brifysgol yn cefnogi un o'r ddigwyddiadau pwysicaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni - y seremoni goroni.

Mae’r Goron yn cael ei hystyried yn un o’r prif wobrau llenyddol yn yr ŵyl ieuenctid flynyddol, a gynhelir eleni ym Mae Caerdydd.

Dadorchuddiwyd Coron eleni ar raglen Heno S4C, a bydd yn cael ei chyflwyno i awdur y darn gorau o ryddiaith dros 4,000 o eiriau.

Iolo Edger, gemydd o Ben-y-bont ar Ogwr, creodd y Goron arian eleni. Cafodd ei ysbrydoli gan Gaenor Mai Jones o ardal Pontypridd, sy'n cyflwyno'r Goron i'r Eisteddfod er cof am ei rhieni.

Cyfarfu rhieni Gaenor wrth weithio i'r Urdd yn Aberystwyth yn ystod y 50au.

Dywedodd Gaenor: “Mae gen i lawer o resymau i ddweud diolch i'r Urdd! Rwy’n edrych ymlaen at y seremoni coroni yn ystod wythnos yr Eisteddfod ac rwy'n gallu dychmygu pa mor gyffrous oedd fy nhad wrth iddo ennill Coron Maesteg yn 1953.”

Mae’r goron wedi’i gwneud o arian a'r brif thema yw'r cysyniad o unigolion yn codi eu dwylo mewn llawenydd i ddathlu undod.

Dywedodd Iolo: “Fe wnaeth hanes rhieni Gaenor wneud i mi feddwl am undod pobl, am Gymru, ein diwylliant a'n hiaith. Dechreuais greu coron a oedd yn cyfleu'r undod hwnnw, undod trwy'r iaith Gymraeg a dathlu rhieni Gaenor yn cyfarfod pan oeddent yn ifanc, a chyfuno hynny â dathliad ieuenctid yr Urdd. ”

Mae'r Brifysgol yn noddi'r seremoni goroni, a gynhelir ddydd Gwener 31 Mai am 16:00.

Mae'r bartneriaeth gydag Eisteddfod yr Urdd 2019, a fydd yn cael ei chynnal rhwng 27 Mai a 1 Mehefin, yn rhan o ymrwymiad ‘cenhadaeth ddinesig’ y Brifysgol i'r Gymraeg a diwylliant Cymru.

Bydd gan y Brifysgol bresenoldeb cryf ar y Maes gyda staff a myfyrwyr yn cymryd rhan mewn cyflwyniadau, trafodaethau a gweithgareddau.