Ewch i’r prif gynnwys

Cyllid

Mae’n cyhoeddiadau’n ymwneud ag amrywiaeth o bynciau ariannol megis trethi, economeg, cytundebau ariannu ac arian gwladol.

Rhagolygon cyllidol tymor canolig ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru

Mae’r adroddiad hwn yn datgelu’r darlun heriol a wynebir gan lywodraeth leol wrth i bwysau gwariant barhau i gynyddu.

Rhagolwg Cyllideb Cymru 2022

Mae’r trydydd adroddiad blynyddol rhagolwg cyllideb yn nodi’r rhagolygon diweddaraf ar gyfer gwariant datganoledig a lleol, ac yn archwilio’r opsiynau polisi anodd sy'n wynebu llywodraethau yn y pum mlynedd nesaf.

Cyflwyniad: Datganiad yr Hydref

Sleidiau a gyflwynwyd mewn Seminar Cyllideb Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Cyflwyniad: Dyfodol Cyllidol Cymru

Sleidiau cyflwyniad o ddigwyddiad cynhadledd plaid wleidyddol gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru.

Datganiad y Gwanwyn 2022: Goblygiadau i Gymru

Bydd aelwydydd Cymru £315 y flwyddyn yn waeth eu byd yn sgil cynnydd mewn prisiau ynni a threthi, hyd yn oed ar ôl i’r mesurau a gyhoeddwyd ddoe ac ym mis Chwefror gael eu rhoi ar waith.

When ends don't meet: diweddariad costau byw

Bydd aelwydydd Cymru £600 y flwyddyn yn waeth eu byd ar gyfartaledd yn sgil cynnydd mewn prisiau ynni a chyfraddau threthi, hyd yn oed ar ôl i fesurau i gynorthwyo â chostau byw gael eu rhoi ar waith.Mae'r adroddiad hon yn dangos mai'r cartrefi tlotaf fydd yn cael eu taro galetaf a bydd codiadau mewn prisiau yn cyfyngu ymhellach ar eu gallu i brynu nwyddau a gwasanaethau hanfodol.

Rhagolwg Cyllideb Cymru 2021

Mae'r adroddiad cynhwysfawr hwn yn nodi'r rhagolygon ar gyfer gwariant datganoledig a lleol, yn dadansoddi pwysau gwariant, yn archwilio effaith gyllidebol trethi datganoledig a threthi lleol, ac yn archwilio opsiynau polisi dros y blynyddoedd i ddod.

Cyllideb ac Adolygiad Gwariant y DG 2021: Goblygiadau i Gymru

Bydd cyllideb Cymru yn derbyn hwb o £1.6bn yn 2022-23 o ganlyniad i gyllideb y DG 2021, yn ôl y dadansoddiad cyllideb hwn.

Diweddariad Cyllideb Cymru: Rhagolwg ar gyfer Adolygiad Gwariant 2021

Wrth gyhoeddi eu diweddariad ar gyllideb Cymru cyn Adolygiad Gwariant 2021, mae’r ymchwilwyr yn nodi y bydd gwariant o ddydd i ddydd ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf yn tyfu o tua 3% y flwyddyn ar gyfartaledd mewn termau real.

Covid-19 yng Nghymru: Yr effaith ar iechyd meddwl a lles

Mae'r adroddiad hwn yn dadansoddi'r effaith sylweddol ar iechyd meddwl yng Nghymru oherwydd pandemig Covid-19.

Cyflwyniad: Digwyddiad Briffio Etholiadau'r Senedd 2021

Sleidiau cyflwyniad o ddigwyddiad briffio etholiad gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru.

Etholiad Cymru 2021: Rhagolwg cyllidol a heriau i Lywodraeth Gymru nesaf

Y ddogfen friffio hon yw'r olaf mewn cyfres sy'n archwilio'r rhagolygon cyllidol ar gyfer tymor nesaf y Senedd a'r heriau sy'n wynebu Llywodraeth nesaf Cymru. Mae ein canfyddiadau yn y ddogfen friffio hon yn tynnu sylw at rhagolwg heriol ac ansicr.

Llywodraeth Leol a Chyllideb Cymru: Tablau Data

Tablau data i gyd-fynd â'r adroddiad, "Llywodraeth Leol a Chyllideb Cymru", gan gynnwys rhagamcanion o bwysau gwario, refeniw a'r bwlch ariannu.

Llywodraeth Leol a Chyllideb Cymru: Rhagolwg a heriau i Lywodraeth Gymru nesaf

Mae'r adroddiad hwn yn dangos y bydd cyllid ar gyfer awdurdodau lleol Cymru yn brin o’r hyn fydd ei angen i gwrdd â phwysau gwario dros dymor nesaf y Senedd, yn seiliedig ar gynlluniau gwariant presennol Llywodraeth y DG.

Y GIG a Chyllideb Cymru: Rhagolwg a heriau i Lywodraeth Gymru nesaf

Yn ogystal ag asesu gwariant ar y GIG cyn y pandemig a’r galw cynyddol am wasanaethau iechyd gan boblogaeth sy’n heneiddio, mae’r adroddiad yn dadansoddi’r pwysau ariannol sylweddol ar y GIG yn ystod cyfnod y Senedd nesaf.

Seilwaith Rheilffordd yng Nghymru

Canfyddiad yr adroddiad yw y gallai Cymru, dan system wedi’i datganoli’n llawn, fod wedi derbyn buddsoddiad ychwanegol o £514m yn ei seilwaith rheilffyrdd rhwng 2011-12 a 2019-20. Mae'r adroddiad wedi'i gyflwyno fel tystiolaeth i ymchwiliad Pwyllgor Materion Cymru i seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.

Cyllideb y DG 2021: goblygiadau i Gymru a chyllideb Cymru

Mae'r ddogfen friffio hon yn dadansoddi effaith Cyllideb 2021 y DG ar Gymru a'i chyllid cyhoeddus, a hefyd yn asesu beth fydd lefelau cyllid Cymru yn y dyfodol ar sail cynlluniau gwariant y Canghellor.

Diweddariad Cyllideb Cymru: dadansoddiad o sefyllfa cyllideb 2020-21 a Chyllideb Ddrafft 2021-22

Mae’r papur briffio yma yn asesu sefyllfa gyllidol Llywodraeth Cymru yn 2020-21, cyn dadansoddi dyraniadau’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2021-22, y setliad llywodraeth leol, a’r rhagolygon a pholisïau trethi datganoledig diweddaraf.

Rhagolwg Cyllideb Cymru 2020

Mae pandemig Covid-19 wedi arwain at lefelau syfrdanol o wariant ychwanegol gan lywodraethau Cymru a'r DG, i gefnogi unigolion, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus trwy'r argyfwng. Mae’r adroddiad hwn yn ceisio asesu Adolygiad Gwariant llywodraeth y DG a Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22.

Cyflwyniad: Digwyddiad Briffio Cyllideb Cymru

Sleidiau cyflwyniad o ddigwyddiad briffio cyllideb gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru.

Dyfodol gofal yng Nghymru

Sleidiau o gyflwyniad yn gweminar Dadansoddi Cyllid Cymru ar ofal cymdeithasol oedolion hŷn.

Funding the 'firebreak' and beyond: COVID-19, the Welsh budget and supporting the Welsh economy

Mae’r adroddiad hwn, gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru, yn datgelu costau’r cymorth ariannol i fusnesau a mesurau iechyd cyhoeddus yn sgil COVID-19, ac yn asesu’r ansicrwydd cyllidol enfawr sy’n wynebu Llywodraeth Cymru.

The cost of free personal care: Lessons from Scotland

Mae'r adroddiad Dadansoddi Cyllid Cymru hwn yn archwilio'r gwersi ariannol o gyflwyno 'gofal personol am ddim' yn yr Alban, ac yn amcangyfrif cost gweithredu'r polisi yng Nghymru.

The future of care in Wales: Resourcing social care for older adults

Mae’r adroddiad gan Dadansoddi Cyllid Cymru yn nodi pedwar mater allweddol y bydd yn rhaid i bolisïau’r dyfodol yng Nghymru fynd i’r afael â nhw; sef lefel yr adnoddau y mae eu hangen i ddarparu gwasanaethau gofal effeithiol, natur ddarniog y ddarpariaeth ar hyn o bryd, cyflogau isel a throsiant staff uchel, a'r anhawster o ran rhagamcanu a chwrdd â’r galw yn y dyfodol.

Covid-19 and the Welsh economy: working from home

Mae'r ddogfen friffio hon yn dadansoddi data Arolwg o'r Llafurlu a data 'Understanding Society' i nodi cyfran y gweithwyr sy'n gallu gweithio gartref yng Nghymru, a chyflog cyfartalog y gweithwyr hynny yn ôl diwydiant a galwedigaeth.

Covid-19 and the Welsh economy: shutdown sectors and key workers

Gan ddefnyddio data Arolwg o'r Llafurlu, mae'r adroddiad hwn yn ymchwilio i'r grwpiau a'r sectorau economaidd yng Nghymru yr effeithir arnynt fwyaf gan y pandemig, yn seiliedig ar nodweddion economaidd a demograffig, megis oedran, rhyw, ethnigrwydd a lefelau incwm.

Covid-19 and the Welsh Government Budget: Update No.2

Mae’r ddogfen friffio hon yn dadansoddi’r cyllid ychwanegol yng nghyllideb atodol Mai 2020 Llywodraeth Cymru, yn ogystal â’r dyraniadau ychwanegol i ymateb i COVID-19.

Covid-19 and the Higher Education Sector in Wales

Mewn adroddiad hwn, mae tîm DCC yn edrych ar sut fydd y sector addysg uwch yn cael effeithio gan Covid-19. Roedd prifysgolion Cymru eisoes mewn sefyllfa ariannol fregus cyn y pandemig, ac mae hyn yn codi cwestiynau am eu gallu i ymateb yn effeithiol.

Covid-19 and the Welsh Government Budget: Update No.1

Ceir diweddariad yn y ddogfen briffio hon ynglŷn ag ymateb cyllidol Llywodraeth Cymru hyd yn hyn a sut gaiff y mesurau a phecynnau pellach eu hariannu. Yn yr adran olaf, ceir dadansoddiad o sut mae’r argyfwng wedi amlygu cryfderau a gwendidau fframwaith cyllidol Cymru ac mae’n awgrymu diwygiadau brys posib y gellid eu gwneud a allai helpu cynnig ymateb cyllidol effeithiol i’r argyfwng.

The Welsh Budget: implications from UK Budget 2020 and the fiscal response to COVID-19

Mae'r papur briffio hwn yn dadansoddi goblygiadau Cyllideb 2020 y DG a chyhoeddiadau dilynol ar gyllideb Llywodraeth Cymru. Dyma'r cyntaf mewn cyfres a fydd yn edrych ar effaith cyllidol COVID-19.

Wales' Fiscal Future: A path to sustainability?

Mae’r adroddiad hwn yn ddarparu asesiad sobr o sefyllfa ariannol presennol Cymru fel rhan o’r DG, yn ystyried beth sydd angen ei newid er mwyn lleihau y bwlch cyllidol, ac hefyd yn archwilio rhai o oblygiadau cyllidol ac economaidd annibyniaeth i Gymru. Er nad yw'n asesiad cynhwysfawr, y gobaith yw y bydd yr adroddiad hwn yn ysgogi dadl wybodus ac eang.

The Welsh Budget 2020

Rhoddwyd y cyflwyniad Dadansoddi Cyllid Cymru hwn i gynulleidfaoedd yng Nghaerdydd a Bangor, gan ddadansoddi cyllideb Llywodraeth Cymru 2020-21.

Modelling behavioural responses to changes in Welsh Rates of Income Tax: Written Evidence

Cyflwynwyd y Dystiolaeth Ysgrifenedig hon i ymchwiliad Pwyllgor Cyllid Senedd Cymru i effaith amrywiadau mewn treth incwm cenedlaethol ac is-genedlaethol.

Austerity is over - for now

Mae'r papur briffio Dadansoddiad Cyllid Cymru hwn yn dadansoddi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21.

Hey Big Spender?

Mae'r papur briffio hwn yn asesu goblygiadau cyllidol i Gymru o faniffestos ar gyfer Etholiadau Cyffredinol y DG 2019.

Trends in local government finance: October 2019

Mae’r ddogfen briffio hon yn crynhoi y tueddiadau diweddar mewn gwariant a refeniw llywodraeth leol gan ddefnyddio data alldro ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19 a chynnig rhagolwg ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

UK Spending Review 2019: the implications for Wales

Mae'r brîff hwn gan y tîm Dadansoddi Cyllid Cymru yn amlinellu'r goblygiadau Adolygiad Gwariant 2019 Llywodraeth y DG i Gymru.

Gwariant cyhoeddus ar y system gyfiawnder i Gymru

Fel rhan o broject Canolfan Llywodraethiant Cymru ar Gyfiawnder ac Awdurdodaeth yng Nghymru, mae’r adroddiad yn edrych ar raddfa a chyfansoddiad gwariant cyhoeddus ar y system gyfiawnder i Gymru ar hyn o bryd. Mae’r adroddiad hefyd yn adolygu tueddiadau diweddar ers dechrau’r mesurau llymder, yn ogystal â rhoi cymariaethau gyda gwariant yng ngwledydd eraill y DG.

Government Expenditure and Revenue Wales 2019

Dadansoddiad o wariant cyhoeddus Cymru, refeniw sector cyhoeddus a balans ariannol cyffredinol y genedl a gyhoeddwyd gan Dadansoddi Cyllid Cymru.

The Public Sector in Wales

Yn eu hadroddiad diweddaraf gan Dadansoddi Cyllid Cymru, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn datgelu bod 20% o gyflogeion yng Nghymru, yn 2018, yn gweithio yn y sector cyhoeddus, sydd wedi gostwng o ffigur uchaf o 27.4% yn 2009.

Devolving Welfare: How well would Wales fare?

Mae’r adroddiad yma, a gyflwynwyd fel tystiolaeth i ymchwiliad pwyllgor Cynulliad, yn edrych ar oblygiadau ariannol datganoli budd-daliadau lles i Gymru, fel yn yr Alban.

Trends in the Welsh Income Tax base: an update

Ar Ebrill 6ed, dechreuodd trethdalwyr incwm Cymru dalu Cyfraddau Treth Incwm Cymru. Mae'r adroddiad hwn yn dadansoddi beth mae'r tueddiadau diweddaraf yn ei olygu i sylfaen treth incwm Cymru, a chyllidebau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Spring Statement Briefing, March 2019

Mae’r ddogfen briffio yma yn dadansoddi Datganiad y Gwanwyn a rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, a’r goblygiadau i gyllidebau Llywodraeth Cymru'r dyfodol a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Cut to the bone? An analysis of Local Government Finances in Wales, 2009-10 to 2017-18, and the outlook to 2023-24

Mae’r adroddiad gan ein prosiect ‘Dadansoddi Cyllid Cymru’ yn dangos bod awdurdodau lleol Cymru wedi derbyn gwerth £918.5m yn llai mewn grantiau gan Lywodraeth Cymru yn 2017-18, o’i gymharu â 2009-10.

Counting Consequentials: Analysing the Welsh Government Final Budget 2019-20 and Local Government Settlement

Mae’r ddogfen briffio hon gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru yn edrych ar y newidiadau o’r Gyllideb Ddrafft ym mis Hydref, y goblygiadau i wariant adrannol Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ac yn asesu’r rhagolygon ar gyfer cyllidebau Cymru yn y dyfodol.

The Welsh Tax Base: Risks and Opportunities after Fiscal Devolution

Written by our researchers for the Wales Centre for Public Policy, this report highlights that the performance of the Welsh economy will directly impact potential future tax receipts.

Welsh Government Budgetary Trade-offs: Looking Forward to 2021-22

Public services in Wales could be facing another four years of cuts according to this report, jointly published by two think tanks based at the University.

Fair Funding for Taxing Times? Assessing the Fiscal Framework Agreement

Published by our researchers and the Institute for Fiscal Studies, this report assesses the new funding agreement between HM Treasury and the Welsh Government.

Barnett Squeezed? Options for a Funding Floor after Tax Devolution

This report assesses three options for the floor, and considers how such a floor might interact with the Welsh block grant after taxes are devolved to Wales from April 2018.

For Wales Don’t (Always) See Scotland: Adjusting the Welsh Block Grant after Tax Devolution

In this paper, we analyse the different methods of adjusting the Welsh Block and how these could affect the Welsh Government’s budget and budgetary risks after tax devolution.

Devolving Stamp Duty and Landfill Tax to Wales

The report proposes a decoupling of the London and South East England property market from the calculation of Wales’ eventual budget settlement to mitigate the more extreme budget consequences of devolving Stamp Duty to Wales.

Estimating Wales’ Net Contribution to the European Union

The report is a part of our ongoing research projects in public finance and the impact of the European referendum in Wales.

Government Expenditure and Revenue Wales 2016

A comprehensive multi-year analysis of Wales’ public spending, public sector revenues and the nation’s overall fiscal balance published by the Wales Governance Centre.

Income Tax and Wales: The Risks and Rewards of New Model Devolution

This report demonstrates that the method chosen to reduce the Welsh block grant to account for the additional income tax revenues has the potential to cause losses of hundreds of millions of pounds each year to the Welsh budget.