Ewch i’r prif gynnwys

Llyfrau

Amryw lyfrau mae’n staff academaidd wedi’u hysgrifennu.

The Referendum that Changed a Nation

Teitl llawn: The Referendum that Changed a Nation: Scottish Voting Behaviour 2014-2019
Awduron: Robert Jones a Richard Wyn Jones
Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2022
Cyhoeddwr: Palgrave Macmillan
ISBN: 9783031160943 (Llyfr) / 9783031160950 (eBook)

Gan dynnu ar ddata o Astudiaeth Refferendwm yr Alban ac Astudiaethau Etholiad yr Alban dilynol, mae'r llyfr hwn yn darparu'r dadansoddiad manwl cyntaf o'r modd y bu pleidleiswyr yn ymwneud â'r refferendwm annibyniaeth yn 2014 a pha effaith y mae hyn wedi'i chael ar ddewis pleidlais, polareiddio ac ymgysylltu yn yr Alban ers hynny.

Mae'r llyfr yn cynnwys wyth pennod, ac yn trafod sut mae pleidleiswyr yn ymwneud ag ymgyrch y refferendwm, yn esbonio dewis pleidlais drwy archwilio adweithiau i giwiau pleidiau, arweinwyr a digwyddiadau, ac yn cymharu pwysigrwydd y rhain â chyfrifiadau am risg.

The Referendum that Changed a Nation: Scottish Voting Behaviour 2014-2019.

The Welsh Criminal Justice System: On the Jagged Edge

Teitl llawn: The Welsh Criminal Justice System: On the Jagged Edge
Awduron:
Robert Jones a Richard Wyn Jones
Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2022
Cyhoeddwr: Gwasg Prifysgol Cymru
ISBN: 9781786839435 (Llyfr) / 9781786839442 (PDF) / 9781786839459 (Epub)

Yn seiliedig ar ystadegau swyddogol a chyfweliadau manwl, dyma'r adroddiad academaidd cyntaf o weithrediad system cyfiawnder troseddol Cymru ar draws ‘ymyl dyrys’ y pwerau a'r cyfrifoldebau datganoledig a neilltuedig.

Mae’n portreadu system sydd wedi cael rhai o’r canlyniadau cyfiawnder troseddol gwaethaf yng Ngorllewin Ewrop, ond system sydd hefyd yn strwythurol analluog i roi sylw i’w phroblemau ei hun.

The Welsh Criminal Justice System: On the Jagged Edge.

Englishness

Teitl llawn: Englishness: The Political Force Transforming Britain
Awduron:
Ailsa Henderson and Richard Wyn Jones
Dyddiad cyhoeddi: March 2021
Cyhoeddwr: Oxford University Press
ISBN: 9780198870784

Mae'r llyfr hwn, sy’n cynnig dadansoddiad newydd o bwys o Seisnigrwydd fel grym gwleidyddol, yn defnyddio data arolwg unigryw i ddangos bod cysylltiad cryf rhwng Ewrosgeptiaeth Seisnigaidd a gofid am le Lloegr yn y Deyrnas Gyfunol.

Mae'r llyfr yn cyflwyno nifer o ddadleuon newydd a grymus am Brydeindod, gan gynnwys i ba raddau y mae Prydeindod yn golygu pethau tra gwahanol mewn gwahanol rannau o Brydain, a bod hunaniaeth Brydeinig yn mynd law yn llaw ag agweddau gwleidyddol gwahanol – ac weithiau cyferbyniol – ar draws Lloegr, yr Alban, a Chymru.

Englishness: The Political Force Transforming Britain.

The European Union and the Northern Ireland Peace Process

Teitl llawn: The European Union and the Northern Ireland Peace Process
Awdur:
Giada Lagana
Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2020
Cyhoeddwr: Palgrave Macmillan
ISBN: 978-3-030-59116-8 (Hardcover) / 978-3-030-59117-5 (eBook)

Mae ‘The European Union and the Northern Ireland Peace Process’ yn cynnig yr astudiaeth gynhwysfawr gyntaf o sut cyfrannodd yr UE at y brosiect heddychu yng Ngogledd Iwerddon, pwnc sydd wedi bod yn greiddiol i drafodaethau ynghylch Brexit a pherthnasoedd yn yr ynysoedd hyn yn y dyfodol. Mae’r llyfr yn dangos bod y gydberthynas rhwng Gogledd Iwerddon a’r UE wedi bod yn llawer mwy arwyddocaol yn ystod y broses heddychu nag sydd wedi’i awgrymu’n flaenorol.

The European Union and the Northern Ireland Peace Process.

The Fascist Party in Wales?

Teitl llawn: The Fascist Party in Wales?: Plaid Cymru, Welsh Nationalism and the Accusation of Fascism
Awdur:
Richard Wyn Jones
Dyddiad cyhoeddi: April 2014 
Cyhoeddwr: University of Wales Press
ISBN: 978-1783160563

The Fascist Party in Wales? Plaid Cymru, Welsh Nationalism and the Accusation of Fascism by Richard Wyn Jones

Ers degawdau, mae rhai uchel eu parch yn y wlad hon wedi honni yn aml fod cenedlaetholwyr o Gymry wedi cydymdeimlo â Ffasgaeth yn ystod cyfnod tywyll y 1930au a’r Ail Ryfel Byd. Yn y llyfr hwn, sy’n torri cwys newydd, mae prif esboniwr gwleidyddol Cymru yn asesu a yw’r cyhuddiadau hynny yn wir.

Yn ogystal â thaflu goleuni ar agweddau Plaid Cymru a’i harweinyddion yn ystod y cyfnod o dan sylw, mae’r llyfr hwn yn cynnig dehongliad craff a heriol o natur diwylliant gwleidyddol Cymru.

The Fascist Party in Wales?: Plaid Cymru, Welsh Nationalism and the Accusation of Fascism.

Mae’r llyfr hwn ar gael yn y Gymraeg, hefyd.

Citizenship after the Nation State

Teitl llawn: Citizenship after the Nation State: Regionalism, Nationalism and Public Attitudes in Europe (Comparative Territorial Politics)
Golygwyd gan: Y Dr Ailsa Henderson, yr Athro Charlie Jeffery, Daniel Wincott
Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2013
Cyhoeddwr: Palgrave Macmillan
ISBN: 978-0230296572

Mae nifer o awduron rhagorol wedi’u harwain gan Charlie Jeffery, Ailsa Henderson a Daniel Wincott yn cnoi cil ar ‘genedlaetholdeb methodolegol’, sef dewis yn ddigwestiwn mai’r ‘genedl-wladwriaeth’ yw’r brif uned ddadansoddi yn y gwyddorau cymdeithasol ers yr Ail Ryfel Byd. Mae’n edrych ar uned ddadansoddi ranbarthol o fewn y wladwriaeth.

Gan ddefnyddio data wedi’u casglu’n arbennig ym 14 rhanbarth pum gwlad yn Ewrop, mae’r llyfr yn ystyried sut mae dinasyddion yn diffinio nodau cyfunol rhanbarthol a chenedlaethol ac yn mynd ati i’w cyflawni.

Citizenship after the Nation State: Regionalism, Nationalism and Public Attitudes in Europe.

Wales Says Yes

Teitl llawn: Wales Says Yes: Devolution and the 2011 Welsh Referendum
Awduron: Richard Wyn Jones a Roger Scully
Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2012
Cyhoeddwr: Gwasg Prifysgol Cymru
ISBN: 9780708324851

Wales Says Yes: Devolution and the 2011 Welsh Referendum

Mae yn y llyfr hwn ddisgrifiad a dadansoddiad awdurdodol o’r refferendwm yng Nghymru fis Mawrth 2011.

Mae’r llyfr yn defnyddio ymchwil hanesyddol eang i esbonio’r cefndir i’r refferendwm, y rheswm dros ei gynnal a’r hyn oedd i ddeillio ohono.

At hynny, mae’n disgrifio hynt y ddwy ymgyrch cyn y refferendwm - o blaid ac yn erbyn rhagor o bwerau - a graddau amrywiol eu llwyddiant.

Wales Says Yes: Devolution and the 2011 Welsh Referendum.

Equality and Public Policy

Awdur: Paul Chaney
Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2011
Cyhoeddwr: Gwasg Prifysgol Cymru
ISBN: 9780708323267

Equality and Public Policy: Exploring the Impact of Devolution in the UK by Paul Chaney

Mae cyfleoedd cyfartal yn bwnc llosg. Mae’n sbarduno teimladau cryf ymhlith y rhai sydd o’u plaid a’r rhai sy’n eu herbyn fel ei gilydd.

O achos materion anghydraddoldeb ac anffafrio parhaus, mae’r pwnc ymhlith prif flaenoriaethau gwleidyddol yr 21ain ganrif. Mae dadansoddiadau traddodiadol yn tueddu i ganolbwyntio ar ddatblygiadau ar lefel y wladwriaeth unedol neu Undeb Ewrop.

Mae’r llyfr hwn, fodd bynnag, yn pwysleisio rôl amlwg llywodraethu aml ei haenau ac yn cynnig y dadansoddiad manwl cyntaf sy’n cymharu amryw ymdrechion cyfoes i hybu cyfleoedd cyfartal yn sgîl diwygio cyfansoddiadol yn y Deyrnas Gyfunol.

Equality and Public Policy.

Europe, Regions and Regionalism

Awdur: David M Farrell a Roger Scully
Dyddiad cyhoeddi: Mai 2007
Cyhoeddwr: OUP Rhydychen
ISBN: 9780230231788

Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae cefnogaeth y bobl dros integreiddio yn Ewrop wedi gwanhau ac mae awgrymiadau ledled y cyfandir bod Undeb Ewrop yn wynebu argyfwng o ran ei gyfiawnhad.

Roedd llawer yn yr undeb o’r farn y byddai modd datrys y broblem honno trwy roi rhagor o bwerau i Senedd Ewrop, unig sefydliad yr undeb lle mae’r cynrychiolwyr wedi’u hethol yn uniongyrchol.

Prif ddadl y llyfr hwn yw bod Senedd Ewrop wedi methu â chyflawni sawl agwedd ar ei rôl yn gorff cynrychioli er gwaethaf llawer o ymdrechion i hybu a chryfhau ei statws.

Europe, Regions and Regionalism.

Representing Europe’s Citizens?

Awdur: David M Farrell a Roger Scully
Dyddiad cyhoeddi: Mai 2007
Cyhoeddwr: OUP Rhydychen
ISBN: 9780230231788

Representing Europe's Citizens by David M. Farrell and Roger Scully

Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae cefnogaeth y bobl dros integreiddio yn Ewrop wedi gwanhau ac mae awgrymiadau ledled y cyfandir bod Undeb Ewrop yn wynebu argyfwng o ran ei gyfiawnhad.

Roedd llawer yn yr undeb o’r farn y byddai modd datrys y broblem honno trwy roi rhagor o bwerau i Senedd Ewrop, unig sefydliad yr undeb lle mae’r cynrychiolwyr wedi’u hethol yn uniongyrchol.

Prif ddadl y llyfr hwn yw bod Senedd Ewrop wedi methu â chyflawni sawl agwedd ar ei rôl yn gorff cynrychioli er gwaethaf llawer o ymdrechion i hybu a chryfhau ei statws.

Representing Europe’s Citizens?.