Violence Prevention in Emergency Care
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Fel arfer, bydd pobl sy'n cael eu hanafu oherwydd trais yn mynd yn syth i'r adran ddamweiniau ac achosion brys am driniaeth.
Mae mwy na 170,00 o’r achosion o'r fath bob blwyddyn ledled Cymru a Lloegr. O blith y rheiny sy'n cyrraedd adrannau damweiniau ac achosion brys ag anafiadau yn dilyn ymosodiad, bydd 60% bron iawn yn ymweld ag adrannau damweiniau ac achosion brys fwy nag unwaith mewn cyfnod o ddwy flynedd. Bydd rhai yn ymweld ag adrannau damweiniau ac achosion brys fwy na deg gwaith y flwyddyn.
Gysylltiad â thrais
Mae'r ymweliadau hyn ag adrannau damweiniau ac achosion brys sy’n digwydd mwy nag unwaith yn amlygu cost trais i'r GIG a bod rhesymau gwaelodol mewn llawer o achosion pam y mae pobl yn dod i gysylltiad â thrais. Bydd rhai wedi dioddef trais domestig parhaus, bydd gan rai broblemau alcohol cronig neu’n sy’n gysylltiedig â chyffuriau, bydd rhai yn blant sy'n byw ar aelwydydd di-drefn. Yn ogystal â hyn, bydd amgylchiadau eraill megis digartrefedd a phryderon o ran iechyd meddwl. Os ydyn ni eisiau atal pobl rhag bod ynghlwm wrth drais yn barhaus, yna mae gofyn inni fynd i’r afael â’r achosion gwaelodol hyn, sef rhywbeth y mae staff mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn gymwys i’w wneud.
Ein prosiectau
Crëwyd nifer o brosiectau i atgyfeirio cleifion sy'n dod i’r adrannau ag anafiadau sy'n gysylltiedig ag ymosodiad at wasanaethau sy'n gallu eu cefnogi. Bydd y rheini sy’n ddioddefwyr trais domestig, er enghraifft, yn cael eu cyfeirio at Eiriolwyr Trais Domestig sy’n gallu eu cyfeirio at wasanaethau fydd yn eu cefnogi. Mae gofyniad cyfreithiol i blant fod yn destun ymchwiliad i'w hamgylchiadau a gellir eu cyfeirio at sawl gwasanaeth. Fodd bynnag, ychydig sydd ar gael i’r grŵp sydd fwyaf tebygol o fynd i'r adran damweiniau ac achosion brys oherwydd trais, sef dynion ifanc.
Gwerthuso gwasanaethau
Mae un gwasanaeth sy’n eithriad, sef y Timau Atal Trais yng Nghaerdydd ac Abertawe, a ariennir gan yr heddlu lleol ac sy’n gweithio’n agos gyda nhw, ac sy’n cael eu cynnal gan nyrsys. Maen nhw’n ymwneud â phawb sy'n cyrraedd atyn nhw yn dilyn trais, beth bynnag fo'u hoedran neu eu rhyw, ac yn gweithio gyda nhw i ddod o hyd i ffyrdd o’u cefnogi. Mae’r cydweithio hwn rhwng yr heddlu a staff clinigol yn unigryw yn y DU a hoffen ni ddeall sut mae’n gweithio ac a yw wedyn yn lleihau’r defnydd o ofal iechyd.
Rydyn ni’n cynnal dau brosiect. Mae’r un cyntaf yn ystyried effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd Timau Atal Trais a bydd yn gorffen yng ngwanwyn 2025.
Mae'r ail yn astudiaeth ansoddol sy'n ystyried yr hyn y mae ei angen i roi Tîm Atal Trais ar waith mewn adran Damweiniau ac Achosion Brys brysur. Nid yw hwn wedi'i gyhoeddi:
Prif Ymchwilydd
Yr Athro Simon Moore
Arweinydd Thema ar gyfer Ymchwil Glinigol Gymhwysol ac Iechyd y Cyhoedd, Athro Ymchwil Iechyd y Cyhoedd / Cyfarwyddwr Grŵp Ymchwilio i Drais ac Alcohol