Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Trais yw’r prif achos yn fyd-eang am farwolaeth ac anafiadau difrifol i blant, pobl ifanc ac oedolion ifanc. Mae’r dasg o leihau trais felly nid yn unig yn flaenoriaeth i asiantaethau cyfiawnder troseddol, ond i'r gwasanaethau iechyd a chyhoeddus arall hefyd.

Trwy ein ymchwil a thystiolaeth ar sail eiriolaeth, mae’r Grŵp Ymchwil Trais wedi newid polisi a gweithredu ymarferol i leihau trais ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Ers sefydlu’r grŵp yn 1996, mae’r Grŵp wedi cyflawni ac yn parhau i:

  • ddeall achosion ac effeithiau trais ac yn cynhyrchu cymhwysiadau’r byd go iawn i’w atal.
  • gwerthuso mentrau atal trais, gweithio gyda darparwyr gwasanaeth – asiantaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, asiantaethau cyfiawnder troseddol a sefydliadau’r trydydd sector:
  • gwerthuso effeithlonrwydd y gweithgareddau a gynllunir i leihau effeithiau seciolegol, cymdeithasol ac economaidd trais; ac yn
  • trosi mentrau effeithiol i bolisi ac ymarfer lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae’r Grŵp yn cael ei arwain gan academyddion clinigol mewn partneriaeth â gwyddonwyr ac yn defnyddio arbenigedd ar draws Prifysgol Caerdydd. Mae cryfder ac enw da’r grŵp yn dod o’i ymchwil rhyngddisgyblaethol ar draws meysydd seiciatreg, iechyd cyhoeddus, deintyddiaeth, cyfiawnder troseddol, heddlu, seicoleg, gwyddoniaeth deunyddiau ac economeg; a’u hanes hir yn arloesi ac yn cyfrannu at bolisi ac atal trais.

Mae aelodau’r grŵp wedi cyhoeddi ei ganfyddiadau mewn dros 400 o bapurau mewn cyfnodolion blaenllaw, rhwydweithiau ymchwil blaenllaw rhynglwadol a chenedlaethol ac wedi gosod atal trais i feysydd llafur prifysgolion a'r Coleg Brenhinol Meddygol.

Mae ei gyflawniadau yn cynnwys:

  • adnabod achosion trais, lleoliadau trais ac arfau oedd gynt yn anhysbys;
  • creu’r Grŵp Atal Trais Caerdydd a Model ar gyfer Atal Trais Caerdydd, arloesedd yn cynnwys rhannu gwybodaeth dienw adrannau argyfwng ysbytai gyda’r heddlu, llywodaethau’r ddinas a chyrff eraill i gyflawni lleihau trias – model sydd wedi cael eu mabwysiadu ar draws y DU, yn yr Iseldiroedd, yr Unol Daleithiau a'r Penrhyn Gorllweinol yn Ne Affrica;
  • datblygu rhaglenni adsefydlu ar gyfer dioddefwyr a throseddwyr;
  • sefydlu a chyd-ddatblygu'r Coleg Plismona, Sefydliad Gwyddoniaeth Heddlu'r Prifysgolion, Y Sefydliad Profiannaeth a chyd-awdura’r cynllun ar gyfer y Coleg Addysgu; a
  • diffinio a datblygu ecosystemau tystiolaeth ar draws y gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’r Grŵp yn cydweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid allanol a sefydliadau yn ogystal â’r cyhoedd ehangach. Mae partner gweithredu’r Grŵp, Grŵp Atal Trais Caerdydd WHO – prototeip partneriaeth diogelwch a ffurfiwyd yn 1996 – yn darparu cyfleoedd ar gyfer datblygu prototeip, treialon maes, mesur trais a gweithredu ymyriadau atal newydd ar sail tystiolaeth ar gyfer y rhai wedi’u anafu, dioddefwyr, troseddwyr a phoblogaethau.