Gostyngiad 14% mewn trais difrifol yng Nghymru a Lloegr
22 Ebrill 2024
Mae trais difrifol yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng 14%, gan adlewyrchu gostyngiadau sylweddol mewn trais sy’n effeithio ar bobl ifanc 18-30 oed, yn ôl adroddiad newydd gan Brifysgol Caerdydd.
Canfu Grŵp Ymchwil y Brifysgol ar Drais fod amcangyfrif o 141,804 o bobl wedi mynd i Adrannau Achosion Brys yng Nghymru a Lloegr yn sgil anafiadau a oedd yn gysylltiedig â thrais yn 2023, i lawr 22,919 neu 14% ers 2022. Mae'r gostyngiad hwn yn adlewyrchu o’r newydd lwybr cyson trais tuag at i lawr ar ôl y cynnydd dilynol ym mlynyddoedd epidemig COVID-19.
Gostyngodd triniaeth frys mewn ysbyty ar gyfer anafiadau sy’n gysylltiedig â thrais ymhlith y rhan fwyaf o grwpiau oedran yn 2023 o’i chymharu â 2022. Roedd hyn yn cynnwys gostyngiad 3.7% ymhlith pobl 11-17 oed, gostyngiad 25% ymhlith pobl 18-30 oed, a gostyngiad 15.8% ymhlith pobl ifanc 31-50 oed.
Mewn cyferbyniad â hyn, ymhlith y grwpiau oedran ieuengaf (0-10 oed) a’r hynaf (51 oed a hŷn) roedd cynnydd yn nifer yr anafiadau difrifol a achosir gan drais, cynnydd 52.8% mewn trais ymhlith plant 0-10 oed a cynnydd 7.7% mewn pobl dros 50 oed.
Mae’r adroddiad ynghylch trais difrifol yng Nghymru a Lloegr yn 2023 yn seiliedig ar ddata o 219 o Adrannau Achosion Brys, Unedau Mân Anafiadau a Chanolfannau Galw Heibio.
Dyma a ddywedodd yr Athro Jonathan Shepherd o Grŵp Ymchwil Prifysgol Caerdydd ar Drais a chyd-awdur yr adroddiad: “Yn 2023, roedd y gostyngiadau mewn niwed trais difrifol wedi digwydd yn fwy ymhlith dynion, i lawr 18%, nag yn achos menywod, i lawr 5%.
“Mae angen trin cynnydd amcangyfrifedig 53% yn nifer y plant 0-10 oed sy’n mynd i adrannau brys yn dilyn trais yn lled ofalus oherwydd bod y niferoedd yn isel, sef 1279 yn 2023, ac mae’r rhain yn amrywio gan ddibynnu ar y flwyddyn. Er enghraifft, y nifer amcangyfrifedig yn 2022 oedd 699.”
Canfu’r adroddiad fod gwrywod yn 2023 ddwywaith yn fwy tebygol na menywod o gael eu trin am anaf a oedd yn ymwneud â thrais. Yn gyffredinol, roedd hyn yn digwydd yn amlach ar benwythnosau nag yn ystod dyddiau'r wythnos ac ym mis Mai – tueddiadau sy’n debyg i'r rheini a nodwyd mewn blynyddoedd blaenorol.
Ychwanegodd yr Athro Shepherd: “Mae rhoi strategaethau ar waith yn debygol o fod yn un o brif achosion y cwymp sylweddol yn nifer y bobl a gafodd driniaeth frys mewn ysbytai ac a anafwyd oherwydd trais yn 2023, o’i gymharu â 2022. Ymhlith y strategaethau hyn mae cynlluniau atal penodol ar y cyd gan yr heddlu, awdurdodau lleol a’r GIG, yn ogystal â phlismona manwl gywir.
“Hwyrach bod y gostyngiad ymhlith oedolion 18-30 oed hefyd yn adlewyrchu’r ffaith eu bod yn aros gartref gyda’u rhieni yn hirach nag o’r blaen.
Y Grŵp Ymchwil ar Drais, sy’n rhan o Sefydliad Arloesi er Diogelwch, Trosedd a Chudd-wybodaeth y Brifysgol luniodd y 24ain adroddiad blynyddol hwn ar drais difrifol yng Nghymru a Lloegr. Mae’n seiliedig ar ddata’r Rhwydwaith Cenedlaethol Goruchwylio Trais mewn Adrannau Achosion Brys dan arweiniad yr Athro Vaseekaran Sivarajasingam.