Ewch i’r prif gynnwys

Cynnydd mewn anafiadau cysylltiedig â thrais ledled Cymru a Lloegr

23 Ebrill 2025

Mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy’n cael eu trin am anafiadau sy’n gysylltiedig â thrais mewn adrannau achosion brys yng Nghymru a Lloegr, yn ôl data newydd gan Brifysgol Caerdydd.

Yn eu 25ain adroddiad blynyddol Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Goruchwylio Trais, mae tîm Caerdydd yn datgelu bod amcangyfrif o 145,271 o bobl wedi mynd i adrannau achosion brys i drin anafiadau yn sgil trais yn 2024, cynnydd o 3,466 neu 2.4% o gymharu â 2023.

Yn ystod y chwarter canrif diwethaf, fodd bynnag, bu gostyngiad sylweddol a chyson mewn trais sy’n arwain at driniaeth frys mewn ysbyty, gyda data a gasglwyd gan yr ymchwilwyr yn dangos bod 162,727 (53%) yn llai o bobl wedi cael eu trin mewn adrannau achosion brys yn 2024 nag yn 2010, a 268,727 (65%) yn llai nag yn 2001.

Dywedodd yr Athro Jonathan Shepherd, un o awduron yr adroddiad: “Caiff y gostyngiad hwn ei egluro’n bennaf gan ostyngiadau hirdymor mewn anafiadau a achoswyd gan drais ymhlith y rhai rhwng 18 a 30 oed. Gall hyn adlewyrchu gostyngiad yn faint o alcohol sy’n cael ei yfed, llai o nosweithiau allan, blaenoriaethau’n newid ac incwm gwario is yn y grŵp oedran hwn.

Ar y cyfan, mae’r gostyngiad amlwg hwn mewn trais yn neges sydd angen bod yn llawer yn fwy hysbys, ond nid yw’r gostyngiad hirdymor hwn yn rheswm i orffwys ar ein rhwyfau. Fel yr amlygwyd yn ein hadroddiad yn 2024, gall gostyngiadau mewn trais arafu a hyd yn oed gwrthdroi.
Athro Jonathan Shepherd

Roedd dynion ddwywaith yn fwy tebygol na menywod o gael eu trin am anaf sy’n gysylltiedig â thrais gyda’r risg uchaf ymysg y rhai rhwng 18 a 30 oed.

“Mae’r cynnydd o 2.4% mewn trais yn 2024 yn adlewyrchu’n bennaf y cynnydd cyffredinol mewn trais ymhlith dynion, yn enwedig y rhai rhwng 18 a 30 oed a 31 i 50 oed,” ychwanegodd yr Athro Shepherd.

Mae data 2024 hefyd yn dangos bod achosion o blant 0 i 10 oed mewn adrannau achosion brys gydag anafiadau cysylltiedig â thrais wedi gostwng 57%, o amcangyfrif o 4,229 yn 2023 i 1,797 yn 2024. Mae hyn yn dilyn uchafbwynt ar ôl COVID yn 2023, a’r blynyddoedd COVID pan ostyngodd y niferoedd.

O 2000, mae ein hadroddiadau blynyddol wedi olrhain tueddiadau mewn trais sy’n arwain at driniaeth frys mewn ysbytai ledled Cymru a Lloegr. Mae'r safbwynt hirdymor hwn yn dangos diogelwch yn cynyddu’n raddol, yn enwedig ymhlith y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf, oedolion ifanc.
Athro Jonathan Shepherd

Canfu'r tîm hefyd fod achosion cysylltiedig â thrais mewn adrannau achosion brys ar ei uchaf ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun. Y misoedd gyda’r lleiaf o achosion cysylltiedig â thrais oedd mis Ionawr (10,996 o achosion) a mis Rhagfyr 2024 (10,971 o achosion). Ers 2014 mae anafiadau cysylltiedig â thrais wedi dod yn fwy crynodedig yn raddol yn y cyfnod rhwng diwedd y gwanwyn a chanol yr haf – gyda chyfraddau trais ar eu huchaf ym mis Mai yn 2023 a 2024.

Mae canfyddiadau ystadegol arwyddocaol eraill ar gyfer 2024 yn dangos y canlynol am achosion cysylltiedig â thrais yn adrannau achosion brys Cymru a Lloegr:

  • Cynnydd o 4% ymhlith dynion (i fyny 4,029 o achosion).
  • Gostyngiad o 1% ymhlith menywod (gostyngiad o 563 o achosion)
  • Gostyngiad o 7% ymhlith y rhai rhwng 11 ac 17 oed (gostyngiad o 1,313 o achosion).
  • Cynnydd o 4% ymhlith y rhai rhwng 18 a 30 oed (cynnydd o 1,887 o achosion).
  • Cynnydd o 11% ymhlith y rhai rhwng 31 a 50 oed (cynnydd o 5,796 o achosion).
  • Gostyngiad o 2% ymhlith y rhai dros 50 oed (gostyngiad o 473 o achosion).
  • Gostyngiad o 57% ymhlith y rhai rhwng 0 a 10 oed (gostyngiad o 2,432 o achosion).

Mae adroddiad y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Goruchwylio Trais 2025, dan arweiniad yr Athro Vaseekaran Sivarajasingam o Grŵp Ymchwil Trais Prifysgol Caerdydd, yn seiliedig ar ddata o 189 o Adrannau Achosion Brys, Unedau Mân Anafiadau, Ysbytai Arbenigol, a Chanolfannau Galw i Mewn yng Nghymru a Lloegr.