Y gymuned
Mae'r Grŵp Ymchwil Trais yn canolbwyntio ar drosi gwybodaeth a sgiliau'n gymwysiadau ymarferol i'n helpu ni i gyd i weithio at gymuned iachach a mwy diogel.
Gyda chydweithio'n gwbl greiddiol i lawer o'n prosiectau, rydyn ni'n edrych am gymorth gan y gymuned ehangach gyda'n hymchwil gan eu galluogi i gyrchu'r ymchwil.
Mae'r gymuned Grŵp Ymchwil Trais ar-lein yn cynnig llwyfan sy'n galluogi pobl drwy'r byd i gydweithio a rhannu gwybodaeth am ymchwil trais. Rydyn ni'n croesawu unrhyw un sydd â diddordeb i ymuno â'n cymuned a gwneud defnydd o'r adnoddau a'r arbenigedd a geir ynddi.
Cyfleoedd cyfredol
Rydyn ni'n awyddus i unrhyw un sydd â diddordeb yn y prosiectau canlynol gysylltu â ni.
Prosiect | Cymryd rhan |
---|---|
Camddefnyddio Alcohol: Astudiaeth Hydredol Electronig o Alcohol mewn Cymunedau (ELAStiC) | Rydyn ni am recriwtio aelodau o'r Pwyllgor Llywio a all helpu i gynghori, datrys problemau a chyfrannu eu profiad uniongyrchol i'r prosiect, yn ogystal â chyfleu'r canfyddiadau i eraill sydd â diddordeb |
Torfeydd a Thrais: System Ymateb Fodiwlar Integredig (IMRS) | Rydyn ni'n edrych am swyddogion heddlu a phobl sy'n ymwneud â gwyliadwriaeth neu reoli digwyddiadau min nos, i helpu i lywio datblygiad systemau gwyliadwriaeth i ganfod ac atal trafferthion ar ein strydoedd. |
Mynnwch air | Rydyn ni'n edrych am weithwyr iechyd proffesiynol sydd â diddordeb mewn datblygu sgiliau gyda thriniaethau seicolegol byr, neu ymyriadau byr, i gleifion mewn Adrannau Brys sydd ag anafiadau'n gysylltiedig ag alcohol. |
Rydyn ni'n edrych am bobl a allai helpu i hwyluso partneriaethau rhannu data dienw gydag ysbytai, yn ymwneud ag anafiadau'n gysylltiedig â thrais. | |
Gwerthusiad o Ganolfannau Triniaeth Alcohol | Rydym yn edrych am bartïon lleol a chenedlaethol sydd â diddordeb mewn darparu gwasanaethau, effaith ac effeithlonrwydd cost canolfannau triniaeth alcohol. |