Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil Trais: Rhwydwaith Gwyliadwriaeth Trais Cenedlaethol

Mae gan y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Gwyliadwriaeth Trais dros 100 (o fathau 1, 2 a 4) o adrannau argyfwng yng Nghymru a Lloegr sy’n casglu data ar ymweliadau sy’n gysylltiedig â thrais bob blwyddyn.

Mae’r data’n cael eu trefnu yn ôl dyddiad ymweld, grŵp oedran a rhyw ac yn cael eu defnyddio i astudio cyfraddau a thueddiadau mewn trais.

Yn draddodiadol, ystadegau trais swyddogol yr heddlu ac arolygon trais fu’r unig ffynonellau cenedlaethol o wybodaeth am droseddau treisgar yng Nghymru a Lloegr.

Mae nifer o astudiaethau un ganolfan mewn adrannau argyfwng lleol wedi dangos ei bod yn bosibl mesur trais gan ddefnyddio data adrannau argyfwng. O safbwynt iechyd y cyhoedd, dyma gam hanfodol i fireinio ffynhonnell ddata genedlaethol sy’n seiliedig ar y GIG i nodi tueddiadau lleol a chenedlaethol mewn trais cymunedol.

Dechreuodd y prosiect yn 2002, ac mae’n dal i fynd rhagddo. Mae'n ymarfer blynyddol, ac mae adroddiad yn cael ei gyhoeddi bob mis Ebrill. Cyrhaeddodd y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Gwyliadwriaeth Trais garreg filltir bwysig yn 2025 drwy gael ei ardystio’n rhwydwaith sy’n cydymffurfio â Chôd Ymarfer Awdurdod Ystadegau’r DU ar gyfer Ystadegau.

Mae’r gydnabyddiaeth hon yn tanlinellu ymrwymiad y rhwydwaith i gynhyrchu data cywir a thryloyw o ansawdd uchel ar dueddiadau mewn trais yng Nghymru a Lloegr.

Nodau’r prosiect hwn yw:

  • astudio tueddiadau mewn trais cymunedol yng Nghymru a Lloegr o safbwynt anafiadau
  • ategu dwy ffynhonnell genedlaethol arall:
    • Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr
    • Cofnodion yr heddlu

Cyrhaeddodd y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Gwyliadwriaeth Trais garreg filltir bwysig yn 2025 drwy gael ei ardystio’n rhwydwaith sy’n cydymffurfio â Chôd Ymarfer Awdurdod Ystadegau’r DU ar gyfer Ystadegau.

Mae’r gydnabyddiaeth hon yn tanlinellu ymrwymiad y Rhwydwaith i gynhyrchu data cywir, tryloyw o ansawdd uchel ar dueddiadau mewn trais yng Nghymru a Lloegr.

Darllenwch yr adroddiadau diweddaraf

Violence in England and Wales in 2023

National Violence Surveillance Network report into Violence in England and Wales in 2023.

Violence in England and Wales in 2022

National Violence Surveillance Network report into Violence in England and Wales in 2022.

Violence in England and Wales in 2021

Report by National Violence Surveillance Network into Violence in England and Wales in 2021.

National Violence Surveillance Network Report 2020

Annual report on serious violence in England and Wales includes data from the National Violence Surveillance Network (NVSN), led by Cardiff University

National Violence Surveillance Network Report 2019

Annual report on serious violence in England and Wales includes data from the National Violence Surveillance Network (NVSN), led by Cardiff University

National Violence Surveillance Network Report 2018

Annual report on serious violence in England and Wales includes data from the National Violence Surveillance Network (NVSN), led by Cardiff University

National Violence Surveillance Network Report 2017

National Violence Surveillance Network Report 2017

Ymchwilwyr

Prif ymchwilydd

Cyd-ymchwilwyr

No picture for Damian Farnell

Damian Farnell

Staff academaidd ac ymchwil

Picture of Simon Moore

Yr Athro Simon Moore

Arweinydd Thema ar gyfer Ymchwil Glinigol Gymhwysol ac Iechyd y Cyhoedd, Athro Ymchwil Iechyd y Cyhoedd / Cyfarwyddwr Grŵp Ymchwilio i Drais ac Alcohol

Telephone
+44 29225 10609
Email
MooreSC2@caerdydd.ac.uk

Tîm ymchwil

Mae'r tim ymchwil yn cynnwys:

Picture of Nicholas Page

Dr Nicholas Page

Cymrawd Ymchwil, DECIPHer

Telephone
+44 29225 11069
Email
PageN2@caerdydd.ac.uk
Picture of Jonathan Shepherd

Yr Athro Jonathan Shepherd

Yr Athro Emeritws mewn Llawfeddygaeth Llafar a Maxillofacial

Telephone
+44 29208 76534
Email
ShepherdJP@caerdydd.ac.uk