Ewch i’r prif gynnwys

Peirianneg: Mecaneg, Deunyddiau ac Uwch-Weithgynhyrchu

Mae Ynni a’r Amgylchedd yn thema ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Peirianneg (PhD, MPhil, EngD).

Mae thema ymchwil eang Mecaneg, Deunyddiau ac Uwch-Weithgynhyrchu yn ymgorffori ymchwil arloesol sy’n meithrin arloesedd a chynaliadwyedd, yn cefnogi datblygiad economaidd a chymdeithasol, ac yn cyfrannu at welliannau mewn iechyd ac ansawdd bywyd drwy sicrhau diogelwch a pherfformiad gorau deunyddiau a strwythurau.

Mae’r gwaith ymchwil a gyflawnir o dan thema Mecaneg, Deunyddiau ac Uwch-Weithgynhyrchu yn datblygu, yn dilysu ac yn gwirio modelau dibynadwy ochr yn ochr ag offer efelychu cadarn, cywir ac effeithlon i ddisgrifio a deall systemau aflinol cymhleth, naturiol ac wedi’u creu, ar amrywiaeth eang o raddfeydd gofodol ac amserol, gyda phwyslais ar uwch ddeunyddiau a strwythurau.

Mae’r ymchwil hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu menter, technoleg uwch sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, ynghyd â’i roi ar waith yn effeithiol ac yn gynaliadwy drwy galedwedd, meddalwedd neu systemau rheoli addas i raglenni yn y diwydiannau trafnidiaeth, cynhyrchu ynni a gweithgynhyrchu.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Postgraduate Research Admissions, School of Engineering

Administrative contact

Mae thema Mecaneg, Deunyddiau ac Uwch-Weithgynhyrchu yn cynnwys pedwar maes ymchwil arbenigol:

  • y Grŵp Mecaneg Cyfrifiadurol a Deunyddiau Uwch
  • y Grŵp Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel
  • y Grŵp Perfformiad Mecanyddol a Strwythurol
  • y Grŵp Triboleg a Mecaneg Gyswllt

Cysylltiad agos â diwydiant yn sicrhau bod ymchwil ASTUTE 2020 yn berthnasol ac yn ystyrlon. Mae’r ffocws yma ar ymchwil gymwysedig yn ein galluogi i weithio gyda rhai o gwmnïau peirianneg byd-eang enwocaf y byd, a chyfrannu ar yr un pryd at anghenion y rhanbarth lleol.

Mae ein prif themâu ymchwil yn cynnwys:

  • Mecaneg Cyfrifiadurol a Deunyddiau Uwch
  • Triboleg a Mecaneg Gyswllt
  • Peirianneg Awyrofod
  • Peirianneg Moduron
  • Gweithgynhyrchu cynaliadwy
  • Technolegau gweithgynhyrchu uwch
  • Gweithgynhyrchu Micro/Nano
  • Systemau deallus sy’n seiliedig ar wybodaeth
  • Systemau Clyfar.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen .

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig