Ewch i’r prif gynnwys

Darlledu ar ôl datganoli

Daeth i’r amlwg i’n hymchwilwyr bod ein dinasyddion yn cael eu camarwain yn aml ynglŷn â meysydd polisi pwysig.

Broadcasting and behind the scenes

Mae pŵer gwleidyddol yn y DU wedi'i ddatganoli'n sylweddol ers 1999, gan drawsnewid y tirlun polisi. Yn ein hymchwil yn 2007, daeth i'r amlwg nad yw'r newyddion a ddarlledir yn adlewyrchu'r sefyllfa newydd hon, a bod dinasyddion yn cael eu camarwain yn aml ynglŷn â meysydd polisi o bwys fel iechyd ac addysg. Dyma ddiffyg gwybodaeth a dealltwriaeth a allai rwystro pobl rhag ymgysylltu'n ddemocrataidd.

Yr wyf yn falch iawn o benderfyniad yr Ymddiriedolaeth i fynnu bod newyddion y BBC yn gwella ei ddarllediadau ar gyfer, a rhwng, cenhedloedd datganoledig y DU yn sylweddol.

Syr Michael Lyons Cyn-gadeirydd y BBC

Camarwain gwylwyr a gwrandawyr

Ceisiodd ein hymchwilwyr weld i ba raddau y mae darllediadau newyddion y BBC yn adlewyrchu'r pŵer gwleidyddol sydd wedi'i ddatganoli yn y DU.

Astudiodd tîm o'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant dros 4,500 o eitemau newydd ar draws ystod o gyfryngau'r BBC ar y teledu, radio ac ar-lein yn 2007. Daeth i'r amlwg fod y newyddion a ddarlledir yn methu ag adlewyrchu'r dirwedd wleidyddol ddatganoledig.

Roedd gwylwyr yn cael eu camarwain yn aml ynglŷn â meysydd polisi o bwys fel iechyd ac addysg. Dyma ddiffyg gwybodaeth a dealltwriaeth a allai rwystro pobl rhag ymgysylltu'n ddemocrataidd.Gwelodd y tîm fod 'Lloegr' gyfystyr â'r 'DU' a bod Llundain a de-ddwyrain Lloegr yn cael lefel anghymesur o sylw ar draul 'yr ymylon' (Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon).

Gwahanol bolisïau

Mae pedair gwlad y DU wedi mabwysiadu gwahanol bolisïau addysg, o ysgolion cwbl annibynnol i ffioedd dysgu. Ar lefel ymarferol, mae angen i ddinasyddion ym mhob gwlad ddeall y gwahaniaethau hyn. Ar lefel wleidyddol ehangach, mae gwerthfawrogi'r gwahaniaethau hyn yn galluogi dinasyddion i ddeall yr amrywiaeth o bosibiliadau, a dod i benderfyniad ynglŷn â'u llywodraethau yn unol â hynny a'u dwyn i gyfrif.

Newid sylw

Defnyddiwyd ein gwaith ymchwil i lywio Adroddiad King, ac fe'i cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth y BBC hefyd fel rhan o'r adroddiad hwnnw. Mabwysiadodd Adroddiad King ein prif ganfyddiadau ac argymhellion, gan annog y BBC i wella darllediadau fel eu bod yn adlewyrchu gwleidyddiaeth ar ôl datganoli yn y DU.

Derbyniodd y BBC y canfyddiadau hyn a chafwyd ymrwymiad ganddynt - drwy ganllawiau - i roi sylw i faterion gwleidyddol mewn ffyrdd a fyddai'n galluogi dinasyddion i weld beth mae eu llywodraethau eu hunain yn ei wneud a'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill. Cynhaliodd y BBC raglen hyfforddiant ac ymwybyddiaeth hefyd ar gyfer staff, gan gynnwys uwch-olygyddion a chynhyrchwyr rhaglenni newyddion mawr o bwys. Roedd hyn yn cynnwys ymweld â gwledydd datganoledig y tu allan i Loegr i ddeall gwahaniaethau o ran polisi a darpariaeth yn well.

Yn ôl astudiaeth ddilynol, roedd newyddion y BBC wedi newid i fod yn fwy cywir ac yn rhoi gwell adlewyrchiad o wleidyddiaeth yn y DU ar ôl datganoli.


Dyma’n harbenigwyr

Yr Athro Justin Lewis

Yr Athro Justin Lewis

Professor of Communication

Email
lewisj2@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 208 76341
Yr Athro Stephen Cushion

Yr Athro Stephen Cushion

Reader

Email
cushionsa@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 208 74570