Ewch i’r prif gynnwys

Defnyddio fforestydd glaw trofannol Awstralia i helpu i drin clwyfau cronig a chreithio

Sut mae ymchwil a gynhelir gyda diwydiant yn nodi ac yn gwerthuso therapïau gwella clwyfau newydd o goed sy’n gynhenid i fforestydd glaw trofannol Queensland.

Tropical rainforest

Mae iachâd clwyfau arferol croen yn broses gymhleth. Mae'n cynnwys nifer o wahanol gamau sy'n adfer strwythur a swyddogaeth y croen. Fodd bynnag, gall annormaleddau yn y prosesau hyn achosi oedi sylweddol neu ormodol wrth wella clwyfau, gan arwain at glwyfau cronig neu ffibrosis dermol yn y drefn honno.

Mae clwyfau cronig, fel wlserau coes gwythiennol ac wlserau traed diabetig, yn un o brif achosion anabledd, yn enwedig ymhlith y boblogaeth oedrannus sy'n fythol gynyddu. Amcangyfrifir bod y clwyfau hyn yn digwydd ymhlith tua 3% o boblogaeth Cymru ac yn costio mwy na £30 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru eu trin.

Mae creithio dermol gormodol (ffibrosis) yn angen clinigol arall sydd heb ei ddiwallu i raddau helaeth, sydd fel arfer yn digwydd o ganlyniad i greithiau celoid neu hypertroffig, anafiadau llosgi neu drawma. Amcangyfrifir bod tua 100 miliwn o gleifion yn datblygu creithiau bob blwyddyn, yn dilyn llawdriniaethau yn unig.

O ganlyniad, mae clwyfau cronig a ffibrosis dermol ill dau yn peri heriau sylweddol i wasanaethau gofal iechyd ledled y byd, gan dderbyn ar hyn o bryd bod therapïau presennol yn anfoddhaol i raddau helaeth wrth drin y cyflyrau hyn.

Darganfod meddyginiaethau naturiol

Mae'r Athro Ryan Moseley yn arbenigwr mewn atgyweirio ac adfywio clwyfau ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yn parhau i archwilio a mynd i'r afael ag annigonolrwydd mewn therapïau gwella clwyfau.

Trwy fenter gydweithredol gyda'r cwmni biotechnoleg o Awstralia, QBiotics Group a Sefydliad Ymchwil Feddygol QIMR Berghofer, maent wedi darganfod priodweddau iachâd unigryw coeden sy'n gynhenid i goedwig law drofannol Queensland.

Mae ymchwilwyr yn astudio epocsi-tiglianes, a geir yn hadau Coeden Blushwood Fontain (Fontainea picrosperma), i ddarganfod sut mae epocsi-tiglianes yn achosi’r effeithiau a ddymunir o ran gwella clwyfau. Yn y pen draw, ein nod yw datblygu epocsi-tiglianes yn therapiwteg fferyllol newydd i drin clwyfau yn y dyfodol nad ydyn nhw’n gwella, clwyfau cronig ac achosion o greithio gormodol ar y croen.

QBiotics Group

Mae Grŵp QBiotics yn arbenigo mewn darganfod cynhyrchion fferyllol newydd, sy’n dod o fflora a ffawna heb eu cyffwrdd o fewn cynefinoedd naturiol unigryw coedwigoedd glaw trofannol Awstralia, i drin problemau iechyd mawr fel canser a gwellhad diffygiol. Mae ein hymchwil yn datblygu eu cynhyrchion fferyllol arweiniol i hyrwyddo iacháu clwyfau a lleihau creithiau.

Datblygu cyffuriau

Mae ymchwil i'r meysydd hyn yn parhau.

Mae QBiotics Group yn datblygu un epocsi-tigliane (EBC-46) i fod yn gyffur gwrth-ganser yn erbyn tiwmorau solet. Yn ogystal â’r effeithiau gwrth-ganser, dangoswyd bod EBC-46 yn ysgogi’r croen i wella’n eithriadol ar ôl i’r tiwmor gael ei ddinistrio.

Mae hyn wedi ein harwain at werthuso effeithiau EBC-46 ac analogau epocsi-tigliane eraill o ran ymatebion gwella clwyfau â fibroblast a keratinocyte yn ogystal â deall sut maen nhw’n gweithredu’n sylfaenol.


Dyma’n harbenigwyr

Yr Athro Ryan Moseley

Yr Athro Ryan Moseley

Darllenydd mewn Atgyweirio Meinwe

Email
moseleyr@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0) 29 2251 0649 (Ext. 10649).