Gwella gwasanaethau cyhoeddus
Sut mae cynhyrchu, cydosod a defnyddio tystiolaeth yn well wedi arwain at fwy o effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Mae gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ac effeithlon o bwysigrwydd cynyddol yn fyd-eang. Fwyfwy, mae'n ofynnol i lunwyr polisïau graffu ar eu gwariant a'u defnydd o adnoddau, a’u cyfiawnhau gan ddefnyddio tystiolaeth ddibynadwy, gyfoes trwy werthuso trylwyr.
Dangosodd ymchwil dan ofal yr Athro Jonathan Shepherd wahaniaethau mawr rhwng hapdreialon ym maes gofal iechyd a threialon o’r fath ym myd addysg, plismona, gwaith cymdeithasol a sectorau eraill. Darganfu fod nifer y treialon yn ymwneud â gofal iechyd yn yr 20fed Ganrif wedi cynyddu'n sylweddol, ond ym maes gofal iechyd yn unig, a hynny ar gyfradd llawer uwch na'r rheini ym mhob maes arall gyda'i gilydd. Roedd hyn yn sgîl gwaith gwerthuso ymyriadau meddygol, yn draddodiadol dan arweiniad academyddion-ymarferwyr (clinigol).
Nid felly ym maes cyfiawnder troseddol er enghraifft, lle mae theori wedi bod â statws uwch na gwerthuso trylwyr. Mae gwyddoniaeth feddygol wedi trawsnewid ymarfer meddygol o ganlyniad i integreiddio ysgolion meddygol ac ysbytai prifysgol. Ond ym maes plismona, er enghraifft, mae gagendor rhwng ymarfer a throseddeg a disgyblaethau academaidd perthnasol eraill.
Gan ystyried y canfyddiadau hyn, defnyddiodd yr Athro Shepherd y 'model ysgol meddygol' i astudio sut y caiff y dystiolaeth hon ei chynhyrchu a'i rheoli ar draws gwasanaethau cyhoeddus.
Jonathan Shepherd’s work and personal role has had a significant impact on the UK’s ‘What Works’ movement and institutions. His longstanding advocating of bridge institutions, along the lines of NICE, to be established in comparable forms around other public services preceded moves within the 2010 Coalition government to do exactly this.
Mentrau
O ganlyniad i’w ymchwil, argymhellodd yr Athro Shepherd gyfres o ddiwygiadau ac fe ymgyrchodd dros eu gweithredu. Arweiniodd hyn at iddo fod unai â rhan allweddol yn y gwaith o greu nifer o fentrau a gwasanaethau newydd, neu’n gyfrifol am greu nifer ohonynt:
- ffurfio Sefydliad y Prifysgolion ar Wyddorau’r Heddlu (UPSI) ym Mhrifysgol Caerdydd, a, thrwy Gomisiynydd yr Heddlu Metropolitanaidd, y Ganolfan Plismona Dinesig Byd-eang yng Ngholeg Prifysgol Llundain
- pedwar ar ddeg o Ganolfannau What Works newydd - sefydliadau gwasanaeth-benodol sy'n cyfosod tystiolaeth a'i throsi'n ganllawiau ar gyfer polisïau
- cyngor What Works yn y DU a alluogodd sectorau nad oedd ganddynt gysylltiad â’i gilydd o'r blaen i ddysgu oddi wrth ei gilydd ynghylch sut i gynhyrchu a chymhwyso tystiolaeth yn well
- y cysyniad o'r "ecosystem dystiolaeth" i sicrhau cysylltiad rhwng cynhyrchu tystiolaeth, synthesis, a throsi, a throi hyn yn ganllawiau ar gyfer polisïau ac ymarfer, a gweithredu’r rhain
- sefydlwyd y Coleg Plismona yn 2013, y Sefydliad Prawf yn 2014, a’r Coleg Addysgu Siartredig yn 2017 – sy’n gyrff proffesiynol annibynnol newydd yn y sectorau hyn
Ein hymchwil ragorol
Ymysg aelodau’r rhwydwaith, mae canolfannau What Works annibynnol ac aelodau cyswllt, ac mae’n cwmpasu meysydd polisïau sy’n derbyn gwariant cyhoeddus o dros £200 biliwn y flwyddyn. Mae'r Canolfannau hyn yn gweithio ar draws yr ecosystem dystiolaeth i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol ac yn effeithlon
Effaith
Mae ymchwil yr Athro Shepherd wedi ysgogi gwelliannau mawr i wasanaethau cyhoeddus.
Mae UPSI wedi helpu i drawsnewid plismona yn y gymdogaeth ac o ran casglu gwybodaeth ar lefel leol a chenedlaethol.
Drwy ei 'ecosystem o dystiolaeth' fe nododd fylchau, rhwystrau a diffygion yn y system ac fe’u nodwyd yn ei adroddiad ar gyfer Swyddfa Cabinet y DU yn 2014. Yn yr adroddiad hefyd cafwyd cyfres arall o argymhellion yn ymwneud â meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, addysg, lleihau troseddu, heneiddio'n well, twf economaidd lleol ac hefyd argymhellion yn ymwneud ag ymyrraeth gynnar o ran sut y gallai’r ecosystem hon gael ei gwella. Gweithredwyd ar y rhain eisoes, er enghraifft, drwy gyflwyno cronfa wybodaeth newydd yr heddlu a phanel cynghori ynghylch treialon yn y DU.
Roedd yn glir iddo bod gan y cyrff proffesiynol megis y Colegau Brenhinol ran fawr i’w chwarae o ran hyrwyddo safonau gwasanaethau, ac fe’i ysgogwyd i gynnull uwchgynhadledd y proffesiynau, ar gyfer trafod tystiolaeth; hynny yn Sefydliad y Peirianwyr Sifil yn 2013. Fe sbardunodd ac ysgrifennu’r datganiad tystiolaeth a gafodd ei lofnodi yn 2017 yn y Gymdeithas Frenhinol gan 27 o gyrff proffesiynol ym maes gofal iechyd, addysg a phlismona.