Ewch i’r prif gynnwys

Rhybudd cynnar o rwystr cathetr troethol

Sut mae datblygiad synhwyrydd wedi galluogi darogan rhwystrau cathetrau sydd wedi rhoi rhyddhad i filoedd o gleifion.

Image of the cross section of a blocked catheter

Sylwodd Jonathan Shepherd, athro a llawfeddyg y genau a'r wyneb ym Mhrifysgol Caerdydd, ei fod yn trin mwy a mwy o ddioddefwyr ymosodiadau a gafodd eu gên a'u hesgyrn bochau wedi'u torri. Nid oedd yr heddlu'n cael gwybod am dros hanner yr achosion hyn (65%).Dywedodd yr Athro Shepherd: "Roedd pobl ar fy mwrdd llawdriniaeth bob wythnos wedi'u hanafu gan rywun nad oedd erioed wedi mynd o flaen y llys. Roedd y ffaith nad oedd yr heddlu'n cael gwybod am nifer fawr o droseddau treisgar yn agoriad llygad."

Mesur trais

I astudio trais yn fanylach a'i atal yn fwy effeithiol, sefydlodd yr Athro Shepherd Grŵp Ymchwil Trais a Chymdeithas a'i changen atal, Grŵp Atal Trais Caerdydd. Prototeip o Bartneriaeth Ddiogelwch oedd y grŵp olaf, ac mae wedi'i gynnwys fel enghraifft yn y Ddeddf Troseddau ac Anhrefn.

Datblygodd y Grŵp Trais a Chymdeithas Fodel Caerdydd, sef ffordd newydd sbon o atal trais lle rhennir data o ysbytai gyda'r heddlu ac awdurdodau lleol. Mae derbynyddion mewn adrannau achosion brys yn cofnodi'r lleoliad a'r arf a ddefnyddiwyd gan bobl a anafwyd mewn trais. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei gwneud yn ddienw ac fe'i chyfunir â data'r heddlu i lywio strategaethau a thactegau atal trais.

Ein hymchwil ragorol

Mae ein gwaith ymchwil wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol drwy ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines 2009, Gwobr Stockholm 2008 am Droseddeg, a Gwobr Sellin-Glueck 2003 Cymdeithas Troseddeg America.

Lleihau trais yng Nghaerdydd

Drwy gyfrwng Model Caerdydd, mae'r grŵp wedi helpu i leihau trais cymunedol yn sylweddol:

  • Haneru nifer y dioddefwyr trais a gafodd eu trin mewn adrannau achosion brys yng Nghaerdydd rhwng 2002 a 2013
  • 39% yn llai o drais mewn adeiladau trwyddedig
  • Gostyngiad o 42% yn y nifer a aeth i'r ysbyty o ganlyniad i drais a gofnodwyd gan yr heddlu (o'i gymharu â 14 o ddinasoedd tebyg yn y DU)
  • Arbed tua £5m y flwyddyn ar gostau iechyd, cymdeithasol a chyfiawnder troseddol Caerdydd (arbedwyd £6.9m yn 2007).

Mae gwaith ymchwil y grŵp wedi cael effaith tu allan i Gaerdydd hefyd:

  • Mae Llywodraeth y DU a'r Coleg Meddygaeth Frys wedi mabwysiadu Model Caerdydd ar draws y DU. Yn 2012, roedd dwy o bob tair Uned Achosion Brys a Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi cymryd camau i fabwysiadu'r dull hwn.
  • Mae Llywodraeth yr Iseldiroedd wedi ariannu rhaglen sy'n gweithredu Model Caerdydd yn saith ysbyty Amsterdam. Mae strategaeth genedlaethol wedi'i llunio i'w roi ar waith yn fwy eang, ar sail y canfyddiadau cychwynnol.
  • Y Grŵp a ddatblygodd y Rhwydwaith Goruchwylio Trais Cenedlaethol am y tro cyntaf ym 1995, ac mae'n cynnwys 117 o adrannau achosion brys yng Nghymru a Lloegr erbyn hyn. Mae'r grŵp yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol am dueddiadau o ran trais ar sail gwybodaeth gan adrannau achosion brys. Mae'r adroddiadau hyn wedi cynnig eglurder i dueddiadau dryslyd a nodwyd mewn data arolygon troseddau a'r heddlu.

Dyma’n harbenigwyr

Yr Athro David Williams

Yr Athro David Williams

Arweinydd Thema y Gwyddorau Biofeddygol a Llafar, Athro Microbioleg Llafar, Ysgol Deintyddiaeth

Email
williamsdd@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)2922510654

Detholiad o gyhoeddiadau

Cysylltau cysylltiedig