Ewch i’r prif gynnwys

Nicole Ayiomamitou

Nicole Ayiomamitou

Sbardunwyd fy mywyd arloesol gan Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth. Roedd yn gyfle rhagorol i fi gael profiad busnes gwirioneddol a pharhau gyda fy natblygiad proffesiynol ac academaidd ar yr un pryd.

Roedd Panalpina, cwmni logisteg a danfon nwyddau, yn edrych am ffyrdd i fodloni gofynion eu cwsmeriaid drwy ragweld galw ac optimeiddio lefelau stocrestrau mewn cadwyni cyflenwi. Roedden nhw am gyflwyno nodweddion arloesol yn eu system stocrestrau, oedd yn golygu adeiladu, cymhwyso a chyfuno trefniadau rhagweld a rheoli stoc amgen. Roedd ganddynt ddiddordeb arbennig mewn rhannau sbâr a nwyddau ffasiwn. Ffurfiolwyd yr angen busnes fel Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth dair ffordd rhwng Panalpina, Ysgol Busnes Caerdydd a fi. Roedd yn gyfle unigryw i fi weld rhyngwyneb gwybodaeth academaidd ac ystyriaethau ymarferol.

"Y peth cyffrous am y gwaith hwn oedd ei fod yn creu gwybodaeth newydd o fewn y sefydliad ac yn dechrau ar gydweithio newydd rhwng Panalpina a'r Brifysgol."

Nicole Ayiomamitou Panalpina World Transport Ltd

Arweiniodd y prosiect at offeryn rhagweld stocrestrau o'r enw D2ID (Demand Driven Inventory Dispositioning), sy'n helpu gyda chynllunio'r stocrestr a rhagweld penderfyniadau. Gan ddefnyddio data i ragweld galw yn y dyfodol a phenderfynu ar isafswm stocrestrau cwsmeriaid, mae'n darparu allbwn cwbl awtomatig heb unrhyw ymyrraeth ddynol. Mae'n hawdd ei gyflwyno ar draws y cwmni, mae'n dryloyw a gellir ei addasu'n rhwydd i ddiwallu gofynion penodol cwsmeriaid. Mae gan hyn oblygiadau sylweddol o ran costau a lleihau gwastraff, sy'n fuddiol i'r amgylchedd ac sy'n arwain at brisiau is i gwsmeriaid yn y pen draw.

Y peth cyffrous am y gwaith hwn oedd ei fod yn creu gwybodaeth newydd o fewn y sefydliad ac yn dechrau ar gydweithio newydd rhwng Panalpina a'r Brifysgol; mae'r ymchwil wedi'i ehangu i gynnwys technolegau gweithgynhyrchu  newydd a'u goblygiadau i ragweld a rheoli stocrestrau. Sefydlwyd hyn drwy lansio Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth ddwbl yn ymwneud ag argraffu 3D gydag Ysgol Busnes Caerdydd ac Ysgol Peirianneg Caerdydd. Yn olaf ond nid lleiaf, mae'r cwmni hefyd wedi penderfynu buddsoddi ymhellach mewn cydweithio academaidd, gan gyllido Canolfan Ymchwil newydd a noddi Cadair sydd eisoes yn bodoli yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae wedi bod yn daith heriol a dwys iawn, yn ogystal ag yn un fuddiol dros ben. Ar ôl cwblhau'r prosiect, cynigiwyd swydd barhaol i fi gyda'r cwmni ac rwyf i hefyd wedi dilyn gradd ymchwil (MPhil) ym Mhrifysgol Caerdydd. Dyfarnwyd y radd uchaf - 'Rhagorol' i'r prosiect gan y Panel Graddio Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth a hefyd enillodd Wobr Arloesi Busnes a Dewis y Bobl gan Brifysgol Caerdydd. Mae hyn yn ddilysiad rhagorol i gymhwyso gwybodaeth mewn sefyllfaoedd ymarferol yn llwyddiannus.

Rwyf i'n credu'n gryf mai ymuno â'r rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth oedd y dewis cywir i fi, nid yn unig oherwydd ansawdd y rhaglen ond hefyd am ei fod yn cynnig sicrwydd i drosglwyddo'n llwyddiannus i'r amgylchedd proffesiynol. Byddwn yn annog graddedigion i ystyried y rhaglen fel cyfle unigryw i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil a datblygu mewn lleoliad diwydiannol gyda chydweithio agos ag academia.

Dysgwch fwy am D2ID a'r cydweithio gyda Panalpina.