Ewch i’r prif gynnwys

Jenna Bowen

Jenna Bowen

Ni fu erioed adeg fwy pwysig ar gyfer arloesedd mewn fferylliaeth.

Er ein bod yn ymdrechu i roi hyder i gleifion ynghylch eu presgripsiynau, mae'r GIG yn gwario dros £1bn bob blwyddyn yn trin cleifion ar gyfer digwyddiadau niweidiol a achosir gan feddyginiaeth.

Bathwyd y cysyniad o 'feddygaeth bersonol' yn y 2000au cynnar yn wreiddiol. Rhagwelwyd y byddai therapïau penodol ar gyfer y cleifion yn gyffredin erbyn 2010. Mewn gwirionedd, y tu hwnt i ychydig o enghreifftiau pwysig ym meysydd oncoleg a HIV, caiff cleifion eu trin fwy neu lai yn yr un modd.

Un ffactor mawr sydd wedi arafu cynnydd yw'r diffyg technolegau sydd wir yn galluogi 'dosbarthiad cleifion,' sef rhannu cleifion yn grwpiau ar sail eu risg o ddatblygu clefydau penodol neu eu hymateb i therapïau. Os gallwn ddatblygu technolegau diagnostig mwy clyfar, gallwn ddarparu triniaethau pwrpasol, wedi'u targedu, ar gyfer y grwpiau cywir o gleifion ar yr adeg iawn.

"Rhoddir mwy a mwy o bwysau ar adnoddau gofal iechyd; bob dydd mae'r angen am reoli clefydau'n unigol yn tyfu."

Dr Jenna Bowen Lecturer

Cwblheais fy ngradd PhD yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd yn 2011. Ers hynny, rwyf wedi bod yn gweithio ar sawl prosiect 'meddygaeth fanwl,' gan ganolbwyntio ar lwyfannau synhwyro sy'n gallu rhoi diagnosis cywir a chyflym o glefydau, a haenu poblogaethau o gleifion.

Fy mhrosiect ôl-ddoethurol cyntaf, a ariannwyd i ddechrau drwy fenter Bio-E SARTRE, oedd yr un mwyaf cyffrous yn y pen draw. O dan ymbarél GW4 gyda chydweithwyr o Brifysgol Caerwysg, rydym wedi ceisio gweddnewid techneg ar gyfer rhoi diagnosis o falaria yn broses y gellir ei rhoi ar waith wrth roi diagnosis o nifer o gyflyrau iechyd. Mae'n golygu manteisio ar fagneteg i ganfod arwyddion penodol o glefyd. Mae'n dechnoleg syml ond coeth, a phrofwyd ei bod yn sensitif ac yn gadarn.

Yn 2014, gwnaethom fanteisio ar y cyfle i ddatblygu ein gwaith drwy UK Medical Technologies Launchpad Wales. Roedd yr alwad ar agor i bob math o gwmni, o fusnesau newydd i fusnesau bach a chanolig sydd eisoes wedi'u sefydlu, ac roedd yn gyfle rhy dda i'w golli. Penderfynais i, Dr Chris Allender a'n cydweithwyr o Gaerwysg, yr Athro Dave Newman a Dr Raphael Matelon, ein bod am allgynhyrchu'r dechnoleg. Sefydlwyd Cotton Mouton Diagnostics Ltd (CMD) ym mis Rhagfyr 2014.

Yr adeg fwyaf cyffrous oedd sicrhau grant Launchpad gennym ym mis Mawrth 2015, a gafodd ei gyfateb gan Gronfa Partneriaeth Caerdydd. Roedd yn hynod o gyffrous; o'r diwedd, roeddem wedi dechrau arni. Roedd gennym 18 mis i ddatblygu'r dechnoleg i'r cam nesaf: llwyfan amlgyfrwng i dargedu diagnosis cyflym o sepsis.

Mae sepsis yn gyflwr trychinebus sy'n deillio o ymateb gormodol y corff i haint. Mae'n lladd person bob ychydig eiliadau, gyda'r risg o farwolaeth yn cynyddu 7% am bob awr y mae'n ei chymryd i roi diagnosis. Er gwaethaf hyn, ar hyn o bryd nid oes unrhyw offer defnyddiol ar gael i roi diagnosis. Gyda lwc, bydd technoleg CMD yn mynd i'r afael â'r angen meddygol brys hwn, sy'n tyfu.

Ers hynny, rydym wedi cael rhagor o arian drwy gynllun cymorth Innovate UK ar gyfer busnesau newydd (Aid for Start-ups). Mae'r arian hwn wedi ein galluogi i symud ein labordai i Bentref Arloesedd GE. Rydym hefyd wedi recriwtio Prif Swyddog Gweithredol i ddatblygu’r busnes yn ogystal â recriwtio staff gwyddonol ychwanegol. Mae wedi bod yn ddechrau llawn bwrlwm, ac rwyf wedi dysgu cymaint. Rwy'n edrych ymlaen at y dyfodol ac yn benderfynol o weld CMD yn llwyddo.

Gweld Dr Jenna Bowen yn trafod Venturefest Cymru.