Ewch i’r prif gynnwys

Ian Weeks

Ian Weeks

Mae arloesedd a blaengaredd wedi bod yn rhan allweddol o fy mywyd i o’r dechrau.

Pan oeddwn yn ifanc, fe wnes i adeiladu laserau ar fy nghorn fy hun, yn chwilota yng nghefn hen setiau teledu, ac yn cymysgu cemegau na ddylai fyth fod wedi cael eu cymysgu. Mae meddwl am y cyfnod hwn yn gyrru ias i lawr fy nghefn ac rwy’n synnu fy mod i wedi goroesi’r arbrofion hyn.

Fe wnes i fy BSc a PhD mewn Cemeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Fodd bynnag, ar ôl treulio cyfnod byr mewn ymchwil ddiwydiannol, penderfynais wneud ymchwil ôl-ddoethurol ym myd biocemeg feddygol yn Ysgol Meddygol Genedlaethol Cymru, fel yr oedd yn cael ei galw bryd hynny. Arweiniodd y dull rhyngddisgyblaethol hwn at waith a gafodd, yn y pen draw, effaith fyd-eang ar ddiagnosis clefydau.

Ar y pryd, roedd gwyddonwyr yn chwilio am well ffyrdd o fesur ‘biofarcwyr’, sef moleciwlau clinigol bwysig. A minnau’n gweithio yn yr Ysgol Meddygaeth, gallwn gymhwyso fy ngwybodaeth o gemeg at y broblem hon. Arweiniodd fy narganfyddiad mawr at ddylunio a syntheseiddio moleciwl newydd sy’n allyrru golau y gellid ei gyplysu’n gyfamserol â moleciwl gwrthgorff i ddarparu diagnosis clefyd dihafal.

"Bydd cydweithio rhwng academyddion, clinigwyr a diwydiant yn allweddol wrth ddatgloi darganfyddiadau gwyddonol a sicrhau arloesedd ar gyfer y dyfodol."

Yr Athro Ian Weeks Dean of Clinical Innovation

Enynnodd y darganfyddiad hwn gryn ddiddordeb yn y diwydiant. Gwnaeth yr Ysgol Meddygaeth geisiadau ar gyfer patent, a chafodd y rheiny eu trwyddedu i gwmnïau diagnosis. Creodd cwmni deillio, Molecular Light Technology Ltd, swyddi sgiliau uchel yn lleol a gwnaethant fuddsoddi mewn ymchwil bellach. Daethpwyd â rhagor o incwm i’r Ysgol o ganlyniad i werthu’r cwmni.

Heddiw, mae olynwyr busnes y drwydded wreiddiol –  Siemens Healthcare Diagnostics Products and Hologic – yn cynhyrchu ac yn marchnata cannoedd o filiynau o brofion labordy bob blwyddyn er budd cleifion ledled y byd. Mae'r rhain yn cynnwys profion diagnostig ar gyfer canser, heintiau, diabetes, a llawer o afiechydon eraill, yn ogystal â phrofion banc gwaed sy’n sgrinio gwaed wedi ei roi ar gyfer pathogenau megis HIV a hepatitis.

Yr wyf yn dal i ryfeddu bod ychydig o arbrofion allweddol a gynhaliais yn yr 1980au wedi cael cymaint o effaith yn fyd-eang. Mae'n dysteb i sgiliau ac arbenigedd y cannoedd o bobl y mae eu hangen yn y pen draw i drosi arloesedd pwysig o’r ‘fainc i erchwyn y gwely’.

Nid wyf eto wedi torri’r syched sydd gen i am arloesedd ac mae llawer o'm gwaith yn ymwneud â chefnogi’r angen clinigol hwn sydd heb ei ddiwallu ym meysydd canser, diabetes math 2 ac iacháu clwyfau. Ar hyn o bryd, mae llawer o'm gwaith yn ymwneud â chefnogi’r genhedlaeth nesaf o arloeswyr.

Dysgu am arloesi clinigol.