Graham Hutchings
Dechreuais wirioni ar aur ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.
Roeddwn i'n gweithio yn African Explosives and Chemicals Ltd yn Ne Affrica. Gofynnwyd i fi ddod o hyd i gatalydd gwell ar gyfer proses sy'n creu monomer finyl clorid o ddeunyddiau crai'n deillio o lo. Y catalydd blaenorol oedd mercwri, sydd â chanlyniadau amgylcheddol sylweddol.
Fel bob amser, y lle gorau i ddechrau oedd edrych ar beth oedd pobl eraill wedi'i wneud o'r blaen. Des i o hyd i gyhoeddiad oedd yn cynnwys data gwych. Pan ddadansoddais i'r rhifau, gwelais gydberthynas oedd yn rhagweld mai aur fyddai'r catalydd gorau. Roedd yn ymddangos yn wrthreddfol; sut gallai aur fod yn well na dim arall o ystyried mai aur yw'r metel mwyaf diledryw? Serch hynny, cynhaliais arbrofion allweddol a ddangosodd yn wir mai aur oedd y catalydd mwyaf sefydlog ar gyfer yr adwaith pwysig hwn.
Erbyn hyn caiff aur ei gydnabod drwy'r byd fel catalydd cyffrous iawn. Fy ngwaith i a Masatake Haruta agorodd y maes, gyda'n hastudiaethau annibynnol yn 1985 yn gosod y sail. Ar ôl hynny ffrwydrodd y diddordeb mewn catalysis aur gyda miloedd o bapurau a phatentau'n dangos elfennau cywrain newydd o gatalysis gydag aur.
Sylwodd Johnson Matthey ar y gwaith hwn oherwydd diddordeb o'r newydd yn y broses catalysis mercwri, sy'n seiliedig ar y ffaith fod glo rhad ar gael yn Asia. Heddiw, mae tua 20 miliwn o dunelli o fonomer finyl clorid yn cael eu cynhyrchu drwy'r llwybr glo, gan ddefnyddio dros 60% o'r mercwri a gaiff ei gloddio bob blwyddyn. Dyw hyn ddim yn gynaliadwy o ran argaeledd mercwri a'r lefelau uchel o lygredd yn sgil ei ddefnyddio.
Mae fy nhîm i ym Mhrifysgol Caerdydd wedi gweithio gyda Johnson Matthey wrth iddyn nhw fasnacheiddio'r catalydd aur. Dyma fydd y tro cyntaf ers tua 50 mlynedd i newid llwyr yn ffurfiant catalydd gael ei werthuso ar gyfer cynhyrchu cemegyn swmp, sy'n rhywbeth rwyf i'n falch iawn ohono - yn enwedig gan ei fod yn lleddfu'r problemau sy'n gysylltiedig â llygredd mercwri.
Yn Sefydliad Catalysis Caerdydd rydym ni wedi arloesi gyda'r defnydd o aur fel catalydd mewn llawer o adweithiau. Yn ddiweddar buom yn cydweithio gyda Chymdeithas Max Planck yn yr Almaen fel rhan o MAXNET Energy, er mwyn astudio sut y gall nanoronynau bach weithredu fel catalyddion gwell fyth.
Er ei bod wedi cymryd dros 30 mlynedd i ddod at y pwynt hwn, rwyf i'n llawn cyffro fod fy rhagfynegiad gwreiddiol wedi dylanwadu ar gemeg yn fyd-eang. Mae rhywbeth newydd yna i'w ddarganfod bob amser, ac rwyf i'n teimlo'n ffodus i fod yn rhan o'r broses ddarganfod hon.
Un o'n syniadau allweddol yw sicrhau cysylltiad mwy uniongyrchol rhwng catalysis a chymdeithas. Enghraifft o hyn yw argaeledd dŵr glân, sy'n broblem wirioneddol yn y byd sy'n datblygu ac ardaloedd cras sy'n dod yn fwy cyffredin oherwydd newid yn yr hinsawdd. Rydym ni'n defnyddio catalysis aur fel modd i buro dŵr, gan gynnig llu o bosibiliadau cyffrous. Gobeithio na fydd yn dri degawd cyn y caiff ei wireddu.
Our newly identified catalyst has the potential to save lives, improve health and clean up the environment.