George Pearce
Mae fy nghymhelliad mentergarol yn deillio o’r ffaith nad wyf yn or-hoff o gael pob yn dweud wrtha i beth i’w wneud. Rwy'n hoffi bod yn feistr arnaf fi fy hun, a phennu fy nghyfeiriad fy hun.
Rwyf yn rhedeg IAMP Media, cwmni datblygu meddalwedd a gwe pwrpasol a gychwynnais o’n stafell wely yn 2013. Bellach rydym yn dîm o bum aelod staff amser llawn yn Ysgol Busnes a Thechnoleg Caerdydd, sy’n gweithio gydag ystod o gleientiaid - o fusnesau bychain i gorfforaethau gwerth miliynau o bunnoedd - ledled y byd.
Astudiais Ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd rhwng 2010 a 2013. Ychydig cyn diwedd fy nghwrs, dechreuais ystyried beth byddwn yn ei wneud ar ôl i graddio. Fe wnaeth llunio gwefannau a meddalwedd fy nghynnal drwy’r Brifysgol ac roedd yn ymddangos i mi fel dilyniant naturiol.
Roedd ffocws enfawr drwy gydol ein gradd ar y byd go iawn ac ar ddatrys problemau. Cafwyd llawer o gefnogaeth gan y Brifysgol: Cefais gefnogaeth a chymorth mentoriaid - pobl â phrofiad y gallwn ofyn cwestiynau iddynt. Mae cymorth menter Prifysgol Caerdydd wedi bod yn hanfodol i’n llwyddiant, gan gynnwys cyngor, mentora a gofod swyddfa rhad ac am ddim am ein blwyddyn gyntaf (er i ni dyfu’n rhy fawr ar ei gyfer o fewn chwe mis!)
Mae’r Brifysgol yn sicrhau bod arloesedd wrth wraidd yr hyn y mae’n ei wneud, sy’n wych i fyfyrwyr. Mae’n darparu iddynt gefnogaeth sefydliad enfawr. Mae rhedeg busnes bach wedi bod (ac yn parhau i fod) yn her enfawr, ond mae hefyd yn un o’r pethau mwyaf pleserus a buddiol i mi ei wneud erioed. Gyda’r cymorth sydd ar gael gan Brifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru, ni fu erioed amser gwell i gychwyn.
Mae pob busnes yn wynebu heriau. Mae rhai yn fwy nag eraill, ac yn bygwth y busnes ar adegau. Mae’n bwysig dyfalbarhau a chanfod ffyrdd o oresgyn yr heriau hynny fel nad ydynt yn bygwth eich syniad, ac i’ch galluogi i barhau ar drywydd yr hyn rydych yn angerddol yn ei gylch.
Mae’r foment y caiff y syniad ei drosi’n fusnes yn gwbl frawychus. Mae i fod felly. Ond mae hefyd yn llawer iawn o hwyl ac mae'n hynod foddhaol.
Mae ein graddedigion yn unigolion talentog a brwd gydag awch am ddysgu a gweithredu.