Ewch i’r prif gynnwys

Gail Boniface

Es i i'r brifysgol yn benderfynol o gwblhau gradd mewn Saesneg a Hanes. Nid oedd gen i unrhyw syniad o'r math o yrfa yr oeddwn i am ei dilyn, ac roeddwn i'n pryderu ychydig y byddwn i'n addysgu yn y pen draw!

Gadewais y radd honno ar ôl y flwyddyn gyntaf a, thrwy fy nghariad ar y pryd, des i ar draws Therapi Galwedigaethol. Roedd fy nghariad yn hyfforddi fel nyrs iechyd meddwl ac fe'm cyflwynodd i rai pobl ysbrydoledig iawn. Bues i’n ddigon ffodus i allu treulio ychydig ddiwrnodau yn eu dilyn o gwmpas a'u gweld wrth eu gwaith.

Cefais gyfle i holi llawer o gwestiynau, a chael profiad go iawn o weld rhai o'r problemau a oedd gan gleifion a chleientiaid mewn bywyd bob dydd. Dyna sut rwy'n gweld Therapi Galwedigaethol: proffesiwn sy'n galluogi eraill i fwrw ymlaen â'u bywydau mewn ffordd ymarferol iawn, beth bynnag fo unrhyw salwch neu anabledd a allai fod ganddynt.

Rwyf bob amser wedi bod yn ddiolchgar i'r rhai a adawodd i mi eu dilyn yn eu gwaith a rhoi i mi yr awydd i ddilyn gyrfa benodol am y tro cyntaf erioed. Rwy'n dal i ddilyn arweinyddiaeth y rhai a fy helpodd llawer o flynyddoedd yn ôl. Nhw a wnaeth sbarduno fy angerdd dros fy mhroffesiwn a sut y mae'n gallu dylanwadu ar eraill.

Mae ymgysylltu â phobl yn hanfodol. Fel aelod o'r staff addysgu yma ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd yn amhosibl peidio ag ymgysylltu â rhai o'r un maes a mi?