Ewch i’r prif gynnwys

Emma Yhnell

Fel gwyddonydd, mae’n hawdd iawn treulio eich holl amser yn y labordy ac anghofio pa mor bwysig yw'r gwaith yr ydych yn ei wneud.

Mae'r digwyddiadau ymgysylltu rydw i wedi bod yn rhan ohonynt wedi bod yn gyfleoedd gwych i ryngweithio â gwahanol aelodau o'r cyhoedd. P'un a ydych yn dangos plant ysgol sut mae eu hymennydd yn gweithio, yn sgwrsio â chleifion sy'n byw gyda chlefyd, neu'n cael eich cyfweld ar raglenni teledu neu radio sy'n cyrraedd miliynau o bobl, gall cynnwys y cyhoedd yn eich gwaith fod yn hynod foddhaus.

Gall rhywbeth sy'n ymddangos fel digwyddiad pob dydd i chi fod yn rhywbeth newydd a chyffrous i bobl nad ydynt wedi'i weld o'r blaen. Nid oes unrhyw beth gwell i'ch annog i barhau â'ch ymchwil wyddonol na chlywed plentyn yn ei alw'n 'cŵl' neu gael claf sy'n byw â'r clefyd yr ydych yn ei ymchwilio yn dweud diolch.

Byddwn i'n annog gwyddonwyr i ymgysylltu â'r cyhoedd, p'un a ydych ar ddechrau eich gyrfa neu'n fwy sefydledig. Nid yw byth yn rhy hwyr i gymryd rhan ac mae digonedd o gyfleoedd ar gael. Felly rhowch gynnig arno a chymerwch ran.