Ewch i’r prif gynnwys

Dawn Mannay

Pa bryd bynnag yr wyf yn meddwl am ganlyniadau fy ngwaith, rwy'n gofyn i mi fy hun 'Beth yw effaith fy llais, os nad oes neb yn gwrando?'.

Rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn cymunedau ymylol a sut i atal yr hanesion ystrydebol sy'n cael eu cylchredeg yn y cyfryngau. Mae stereoteipiau o'r fath yn llywio ein meddyliau bob dydd am bobl, lleoliadau a thlodi.

Yn ddiweddar bûm yn gweithio gyda chydweithwyr yng Nghanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) ar brosiect Llywodraeth Cymru. Diben y prosiect yw archwilio profiadau addysgol plant a phobl ifanc sy'n gofalu dros eraill neu sy'n derbyn gofalu. Yn ol yr arfer, cyhoeddwyd ein canfyddiadau mewn adroddiad.

Fodd bynnag, roeddem yn awyddus i ddangos yr adroddiad yn ehangach i gynulleidfaoedd gwleidyddol, personol a rhai sy'n seiliedig ar ymarfer. Roedd yn bwysig cyflwyno prif ganfyddiadau ein hastudiaeth mewn deunyddiau oedd ar gael yn hwylus. Gyda nawdd a chefnogaeth gan Dîm Ymgysylltu'r Brifysgol, buom yn gweithio gydag artistiaid, cerddorion a phobl sy'n creu ffilmiau er mwyn creu pedair ffilm fer, tri fideo cerddorol a thri darn o waith celf.

Efallai nad oes gan ymarferwyr prysur yr amser i ddarllen adroddiadau manwl, ond mae'r ffilmiau a'r darnau hyn o waith creadigol yn cynnig cipolwg ar fywydau plant a phobl ifanc. Gan fod modd defnyddio’r adnoddau hyn yn unrhyw le gan bawb, mae wedi galluogi bod y canfyddiadau yn cyrraedd cynulleidfa ehangach a mwy amrywiol. Roedd y technegau celfyddydol hyn yn gyfle i newid a dangos canfyddiadau'r ymchwil, gan gyfrannu at bolisi ac ymarfer deallus.

Rydym yn parhau i ymgysylltu â chymunedau mewn ffyrdd amrywiol, gan ddefnyddio amryw o ddulliau, gweithdai a gweithgareddau cydweithredol. Mae adroddiadau ac erthyglau academaidd yn bwysig ond weithiau nid ydynt yn cael digon o effaith ar y bobl sy'n gallu newid pethau. Mae dulliau creadigol, cydweithredol ac arloesol o wneud a dangos ymchwil yn ffordd o symud y tu hwnt i ddulliau arferol, dysgu gan gymunedau a gwneud prifysgolion yn fannau mwy hygyrch.