Christopher Marshall
Roeddwn yn wyddonydd clinigol i'r GIG am 20 mlynedd, ac roeddwn yn ddigon ffodus i gwblhau PhD rhan-amser.
Astudiais ym Mhrifysgol Aberdeen, lle bues i'n gwneud gwaith ymchwil ynghylch y posibilrwydd o ddefnyddio technegau meddygaeth i fonitro a rhagweld ymateb canser y fron sydd wedi datblygu’n lleol i gemotherapi cyn ystyried llawdriniaeth. Rhoddodd fy ngwaith ymchwil y cyfle i mi fod yn Bennaeth Radioisotopau Asiantaeth Ffiseg Meddygol Rhanbarth Gogledd Iwerddon.
Yn ystod fy nghyfnod yn Belfast, datblygais fy arbenigedd ym maes Tomograffeg Allyriant Positronau (PET). Roeddwn yn gyfrifol am gynnal cyfleuster cynhyrchu PET Gogledd Iwerddon, yn ogystal â sefydlu Adrannau Meddygaeth Niwclear yn Ysbyty Brenhinol Victoria a Chanolfan Caner Gogledd Iwerddon.
O gyflawni prosiectau gwerth miliynau o bunnoedd, cefais y cyfle i ddod i Gaerdydd, lle cefais fy mhenodi'n Gyfarwyddwr yn y Ganolfan Ymchwil a Delweddu Tomograffeg Gollwng Positronau Diagnostig Cymru (PETIC) newydd. Cafodd y cyfleuster £18.5m hwn ei sefydlu i gyflwyno gwasanaeth delweddu PET cenedlaethol yn ogystal â chefnogi sector gwyddorau bywyd y genedl sydd ar dwf.
Roeddem yn un o'r canolfannau cyntaf yn y byd i gynhyrchu fluorodopa niwcleoffilig, cynnyrch radiofferyllol y gellir ei ddefnyddio mewn meysydd gan gynnwys sgitsoffrenia, caethiwed a glioma. Mae'n cael ei ddefnyddio mewn treial ymchwil o bwys hefyd sy'n ceisio canfod therapi bosibl ar gyfer clefyd Parkinson.
Rydym hefyd wedi datblygu'r gallu i sganio a mesur lefelau placiau amyloid beta a dyddodiad tau yn yr ymennydd. Dyma ddau fiomarciwr sy'n gysylltiedig â Chlefyd Alzheimer a chyflyrau dirywiol eraill. Bydd y gallu i'w hadnabod yn amhrisiadwy wrth fonitro a yw therapïau posibl ar gyfer clefyd Alzheimer yn effeithiol.
Ar ben hynny, rydym wedi datblygu'r gallu i gynhyrchu metel ymbelydrol sirconiwm 89. Mae gwneud hyn wedi ein galluogi i ddatblygu dau lwyfan - un ar gyfer olrhain gwrthgyrff monoglonaidd, a'r llall i olrhain celloedd in vivo. Mae'r ddau lwyfan yn ennill eu plwyf mewn rhaglenni meddygaeth manwl.
Fodd bynnag, roedd cyfyngiadau annisgwyl wrth ddarparu gwasanaethau clinigol arferol. Roeddwn am gael mwy o gyfleoedd i arloesi, gwneud gwaith ymchwil a datblygu prosesau newydd gan ddefnyddio PET. Mae symud i'r byd academaidd wedi fy ngalluogi i oresgyn y rhwystrau hyn.
Cydweithiwch gyda ni drwy ein prosiectau ymchwil, gwasanaethau ymgynghori, trosglwyddo technoleg a mwy