Ewch i’r prif gynnwys

Arwyn Tomos Jones

Rwyf wedi cael profiadau gwerth chweil yn ymgysylltu â’r cyhoedd.

Boed hynny drwy geisio ennyn diddordeb plentyn bach mewn gwyddoniaeth, esbonio bioleg celloedd cymhleth i oedolyn, neu mewn cyfweliadau ar y radio a’r teledu. Drwy’r profiadau hyn, mae wedi bod yn fraint cael cwrdd â phobl anhygoel o bob cefndir, naill ai fel rhan o dimau allgymorth neu wrth ryngweithio â’r cyhoedd.

Sefydlu arddangosfeydd allgymorth yw’r cyfle perffaith i esbonio i’r cyhoedd pam eich bod chi’n credu bod gwyddoniaeth - yn arbennig eich maes gwyddonol chi - yn bwysig. Mae eich gallu i wneud gwaith ymchwil yn dibynnu i raddau helaeth ar y bobl rydych yn rhyngweithio gyda nhw. Teimlaf fod dyletswydd arnom i egluro wrthynt beth ydym yn ei wneud gyda’u harian; mae ymgysylltu â’r cyhoedd yn ffordd wych o wneud hyn.