Ewch i’r prif gynnwys

Efelychydd Ymyrraeth Dan Do Epidemig dan do o'r radd flaenaf

Yn ystod pandemig COVID-19, gofynnwyd i lunwyr polisi a rheolwyr gofodau dan do wneud penderfyniadau cyflym i liniaru ei drosglwyddiad a hynny yn aml heb unrhyw fewnbwn gwyddonol ar gael.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym wedi bod yn datblygu efelychydd epidemig dan do i lywio a lliniaru achosion epidemig yn y dyfodol. Yn wahanol i atebion presennol, mae ein hefelychydd yn integreiddio geometreg dan do manwl, dyluniad pensaernïol a symudiad unigolion, ynghyd â modelau mathemategol newydd o ledaeniad a llif feirws.  Gwneir y dyluniad pensaernïol trwy Topologic, meddalwedd dylunio digidol pensaernïol sefydledig a ddatblygwyd yn Ysgol Pensaernïaeth Caerdydd. Bydd yr efelychydd yn darparu'r risg o haint o glefyd heintus i grŵp o bobl mewn gofod dan do gydag amserlen benodol.

Ar hyn o bryd, mae'r efelychydd yn cael ei drawsnewid yn ap hawdd ei ddefnyddio ar gyfer llunwyr polisi, penseiri a rheolwyr gofod fel y byddant yn gallu asesu gofod dan do yn hawdd a llunio argymhellion ar gyfer lliniaru'r risg haint ar gyfer clefyd feirysol. Mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, hoffem flaenoriaethu senarios sydd â risgiau epidemig uwch, fel cartrefi gofal ac ysgolion. (gweler Ffigur 1 isod) Bydd defnyddwyr proffesiynol hefyd yn gallu uwchlwytho ffeiliau (CAD) wedi'u gynllunio yn arbennig ar gyfer mannau dan do o'u dewis nhw ac amserlenni wedi'u haddasu ar gyfer unigolion sy'n symud yn y gofod. Bydd yr ap hefyd ar gael i'r cyhoedd.

Arweinir y prosiect gan Yr Ysgol Fathemateg (Dr Katerina Kaouri a Dr Thomas Woolley - prif ymchwilwydd/wyr ar y cyd), mewn cydweithrediad agos â'r Athro Wassim Jabi (cyd) a'i ariannu gan Grant Cyflymu Effaith UKRI (diwedd y prosiect: 31/07/2024). Mae Dr Yidan Xue wedi ymuno â'r prosiect fel cymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol. Mae'n adeiladu ar brosiect Ser Cymru a ddyfarnwyd i Kaouri (2020-21) Llywodraeth Cymru a gwaith dilynol Kaouri a Woolley gyda'r Grŵp Cynghori Technegol yn ystod y pandemig.

Aelodau'r tîm

Picture of Wassim Jabi

Yr Athro Wassim Jabi

Chair in Computational Methods in Architecture

Telephone
+44 29208 75981
Email
JabiW@caerdydd.ac.uk
Picture of Katerina Kaouri

Dr Katerina Kaouri

Darllenydd (Athro Cyswllt)

Telephone
+44 29208 75259
Email
KaouriK@caerdydd.ac.uk
Picture of Yidan Xue

Dr Yidan Xue

Cydymaith Ymchwil Ôl-Ddoethurol

Email
XueY25@caerdydd.ac.uk