Ewch i’r prif gynnwys

David Jones

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Dechreuodd David Jones ei yrfa fel Pennaeth Technoleg gydag Aspro Travel Group sydd â phencadlys yng Nghaerdydd ac fe aeth ati i sefydlu ac arwain nifer o gwmnïau technegol.

Gan gynnwys Travelink Systems Limited, Tigerbay Software Limited a Westgate Cyber Security lle mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol Annibynnol ar hyn o bryd.

Mae wedi bod yn aelod o Banel Sector TGCH Llywodraeth Cymru ers 2011 gan ddarparu cyngor i Weinidogion Cymru am y diwydiannau digidol yng Nghymru. Roedd yn Ymgynghorydd Digidol Strategol gyda Llywodraeth Cymru yn 2015, ac ysgrifennodd adroddiad ar Strategaeth ddigidol ar draws llywodraethau lleol.

Mae gan David swyddi fel aelod anweithredol gydag Ofcom, Cymwysterau Cymru, Awdurdod Cyllid Cymru a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, a’i arbenigedd yw deall y newidiadau sy’n digwydd yn y byd digidol sydd ohoni