Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil a Gwerthuso Perimetreg Modiwleiddio Ardal (REVAMP)

Rydym yn ymchwilio i ffyrdd newydd a gwell o ganfod a monitro glawcoma, er mwyn gwella gofal llygaid i bobl sydd â'r cyflwr ledled y byd.

Glawcoma yw prif achos dallineb anghildroadwy y byd, sy'n effeithio ar oddeutu 500,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr, ac 80 miliwn o bobl ledled y byd. Perimetreg yw'r prif ddull clinigol ar gyfer adnabod y cyflwr, ond mae wedi aros yn ddigyfnewid i raddau helaeth ers ei gyflwyno, dros 40 mlynedd yn ôl.

Trwy dynnu ar 40 mlynedd o wybodaeth o wyddoniaeth sylfaenol ac astudiaethau clinigol, rydym yn ymchwilio i ffyrdd o ganfod glawcoma yn gynharach, a nodi ei gynnydd yn gynharach (yn fwy manwl), na'r dulliau cyfredol. Bydd mesuriadau mwy cywir a manwl gywir o newidiadau yn y maes golwg nid yn unig yn galluogi triniaeth fwy amserol i helpu i atal y cyflwr rhag datblygu, ond bydd hefyd yn golygu gostyngiad yn nifer y profion maes golwg y byddai'n ofynnol i gleifion eu cael, yn ogystal â lleihau'r baich ar y gwasanaeth iechyd.

Y dull canfod glawcoma cyfredol

Perimetreg yw'r enw a roddir i fesur y maes golwg. Mae prawf clinigol safonol cyfredol y maes golwg yn cynnwys gofyn i gleifion edrych ar sgrin a phwyso botwm bob tro y byddant yn gweld darn bach o olau yn ymddangos am fyr dro yn eu golwg ymylol.

Yr amcan yw dod o hyd i'r man â’r golau gwannaf y gellir ei ganfod mewn sawl lleoliad yn y maes golwg a phenderfynu a gollwyd rhywfaint o’r maes golwg neu a yw’r golled wedi cynyddu. Fodd bynnag, roedd dyluniad y prawf wedi’i seilio ar brofion etifeddol o dros 40 mlynedd yn ôl, ac mae’n debygol nad yw'n optimaidd ar gyfer mesuriadau cywir a manwl gywir o newidiadau yn y maes golwg.

Ein dull arfaethedig

Bydd ein dull newydd o brofi'r maes golwg yn ymchwilio i fiomarcwyr ar gyfer glawcoma a gyhoeddwyd yn fwy diweddar gan ein grŵp.

Dangosodd ein hymchwil y ffordd y mae'r system lygaid a gweledol ddynol yn casglu goleuni dros arwyneb, a thros amser, sut yr effeithir arni yn glawcoma cynnar. Gall darganfod mwy am yr anghysonderau hyn alluogi canfod newidiadau cynnil yn y maes golwg yn gynharach i bobl â'r cyflwr, neu'r rhai sydd mewn perygl ohono, yn ogystal â phenderfyniadau mwy manwl gywir ar gynnydd dros amser.

Mae hyn yn arbennig o bwysig oherwydd gall canfod glawcoma neu ei gynnydd arwain at driniaeth gynharach sy’n fwy llwyddiannus o bosibl.

Ymchwil

Mae ein hymchwil yn tynnu ar 40 mlynedd o wybodaeth o wyddoniaeth sylfaenol ac astudiaethau clinigol, ac mae’n dwyn ynghyd gydweithwyr o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae ein gwybodaeth gyfun yn ein galluogi i weithio tuag at nod cyffredin o sicrhau profion maes golwg mwy cywir a manwl gywir i gleifion sydd â glawcoma ac sydd mewn perygl ohono.

Darganfyddiadau

Yn un o'n prosiectau ymchwil, canfuom sut yr effeithir ar y ffordd y mae’r system lygaid a gweledol ddynol yn casglu goleuni dros arwyneb (cyfansymio gofodol) yn glawcoma cynnar. Yn bwysig, canfuwyd hyn mewn rhai meysydd o'r maes golwg y gellid eu hystyried yn 'normal' ar brawf maes golwg clinigol safonol.

Mewn astudiaeth arall, canfuom hefyd fod y ffordd y mae'r system lygaid a gweledol yn casglu goleuni dros amser (cyfansymio arleisiol) hefyd yn cael ei heffeithio yn glawcoma cynnar.

Mae ein techneg amgen arfaethedig yn ymchwilio i'r anghysonderau hyn ac mae’n addawol o ran galluogi canfod newidiadau cynnil yn y maes golwg yn gynharach a’u mesur yn fwy manwl gywir.

Darllenwch y papurau

Cynnydd yr ymchwil

Prawf cysyniad

Yn 2018, cyhoeddwyd prawf cysyniad gennym fod ein techneg arfaethedig ar gyfer canfod glawcoma wedi gweithio'n well na'r dechneg safonol gyfredol. Mae canfyddiadau'r astudiaeth honno, a ariennir gan Goleg yr Optometryddion, yn awgrymu bod y dechneg newydd yn caniatáu canfod diffygion mwy cynnil.

Dangosodd y canlyniadau hefyd efallai na fyddant mor amrywiol â'r rhai yn y prawf safonol presennol mewn pobl sydd wedi colli mwy o’r maes golwg. Gallai hyn arwain at benderfyniadau mwy hyderus ac amserol ynghylch a oes gan unigolyn glawcoma ai peidio, ac a yw glawcoma sefydlog yn cynyddu.

Darllenwch fwy am y canfyddiadau yn ein papur: Optimising the glaucoma signal/noise ratio by mapping changes in spatial summation with area-modulated perimetric stimuli

O labordai i leoliad clinigol

Yn 2021, cawsom gyllid o dros £1.82 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) yn y DU, fel rhan o'i Gynllun Cyllido Llwybrau Datblygiadol (DPFS) i ymgymryd ag ymchwil bellach gyda'r nod o drosglwyddo'r prawf o labordai prifysgol, ar hyd y llwybr datblygiadol, i'r lleoliad clinigol er budd cleifion.

Camau nesaf

Dyma ein rhaglen ymchwil fwyaf uchelgeisiol hyd yma ac, os yw'n llwyddiannus, gallai arwain at welliannau mawr o ran canfod a monitro glawcoma mewn clinigau ledled y byd.

Mae gennym gysylltiadau cryf â'r GIG yng Nghymru, Lloegr a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yng Ngogledd Iwerddon, ac rydym wedi dod â thîm clinigol ac ymchwiliol arbenigol ynghyd i gynnal yr astudiaeth mewn tri safle ysbyty. Rydym hefyd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys cleifion, clinigwyr a chynrychiolwyr o’r diwydiant, i sicrhau bod anghenion defnyddwyr terfynol yn cael eu blaenoriaethu yn yr ymchwil.

Pobl

Prif Ymchwilydd

Cyd-ymchwilydd

Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol

Rheolwr y Prosiect

Swyddog Trosglwyddo Technoleg

  • Dr Matthew Stott

Partneriaid Allanol

Prosiectau

Cyhoeddiadau dethol

Deilliodd REVAMP o gydweithrediad rhwng y Prif Ymchwilydd a'r Cyd-ymchwilwyr, sydd yn gweithio gyda'i gilydd mewn amrywiol brosiectau ymchwil gwyddorau’r golwg ers 2005. Dyma rai o'n cyhoeddiadau dethol ar gyfer prosiectau y mae ein tîm wedi bod yn rhan ohonynt:

2023

  • Hunter AML, Anderson RS, Redmond T, Garway-Heath DF, Mulholland PJ. Investigating the linkage between mesopic spatial summation and variations in retinal ganglion cell density across the central visual field. Ophthalmic Physiol Opt 2023;(in press)
  • Stapley V, Anderson RS, Redmond T, Saunders K, Mulholland PJ. Temporal summation in myopia and its implications for the investigation of glaucoma. Ophthalmic Physiol Opt 2023;43(4):788-797

2022

  • Lazaridis G, Montesano G, Afgeh SS, Mohamed-Noriega J, Ourselin S, Lorenzi M, Garway-Heath DF. Predicting visual fields from optical coherence tomography via an ensemble of deep representation learners Am J Ophthalmol 2022;5:238:52-65

2021

  • Patel DE, Cumberland PM, Walters BC, Abbott J, Brookes J, Edmunds B, Khaw PT, Lloyd IC, Papadopoulos M, Sung V, Cortina-Borja M, Raji JS, Grŵp Astudio OPTIC. Study of optimal testing in children (OPTIC): developing consensus and setting reseach priorities for perimetry in the management of children with glaucoma. Eye (Lond) 2021:doi:10.1038/s41433-021-01584-0
  • European Glaucoma Society Terminolgy and Guidelines for Glaucoma. (5ed argraffiad). Br J Ophthalmol 2021;105(Suppl 1):1-169
  • Montesano G, McKendrick AM, Turpin A, Brusini P, Oddone F, Fogagnolo P, Perdicchi A, Johnson CA, Lanzetta P, Rossetti LM, Garway-Heath DF, Crabb DP. Do additional testing locations improve the detection of macular perimetric defects in glaucoma? Ophthalmology 2021;128(12):1722-1735
  • Barkana Y, Leshno A, Stern O, Singer R, Russ H, Oddone F, Lanzetta P, Perdicchi A, Johnson CA, Garway-Heath DF, Rossetti LM, Skaat A. Visual field endpoints based on subgroups of points may be useful in glaucoma clinical trials: a study with the Humphrey Field Analyzer and Compass Perimeter. J Glaucoma 2021;20(8):661-665
  • Gong Y, Zhu H, Miranda M, Crabb DP, Yang Haolan, Bi W, Garway-Heath DF. Trail-Traced Threshold Test (T4) With a Weighted Binomial Distribution for a Psychophysical Test IEEE J Biomed Health Inform 2021;25(7):2787-2800

2020

  • Stapley VAnderson RS, Saunders KJ, Mulholland PJ. Altered spatial summation optimizes visual function in axial myopia. Sci Rep 2020;10(1):12179
  • Montesano G, Ometto G, Hogg RE, Rossetti LM, Garway-Heath DF, Crabb DP. Revisiting the Drasdo Model: Implications for Structure-Function Analysis of the Macular Region. Transl Vis Sci Technol 2020 14;9:15
  • Founti P, Bunce C, Khawaja AP, Doré CJ, Mohamed-Noriega J, Garway-Heath DF, United Kingdom Glaucoma Treatment Study Group. Risk Factors for Visual Field Deterioration in the United Kingdom Glaucoma Treatment Study. 2020;127(12):1642-1651
  • Wright DM, Konstantakopoulou E, Montesano G, Nathwani N, Garg A, Garway-Heath D, Crabb DP, Gazzard G; Laser in Glaucoma and Ocular Hypertension Trial (LiGHT) Study Group. Visual Field Outcomes from the Multicenter, Randomized Controlled Laser in Glaucoma and Ocular Hypertension Trial (LiGHT). Ophthalmology 2020;127(10):1313-21
  • Montesano G, Rossetti LM, McKendrick AM, Turpin A, Fogagnolo P, Oddone F, Lanzetta P, Perdicchi A, Johnson CA, Brusini P, Garway-Heath DF, Crabb D. Effect of fundus tracking on structure-function relationship in glaucoma. Br J Ophthalmol 2020;104(12):1710-16
  • King AJ, Hudson J, Fernie G, Burr J, Azuara-Blanco A, Sparrow JM, Barton K, Garway-Heath DF, Kernohan A, MacLennan G; TAGS Research Group. Baseline Characteristics of Participants in the Treatment of Advanced Glaucoma Study: A Multicenter Randomized Controlled Trial. 2020;213:186-94

2019

  • Tribble JR, Vasalauskaite A, Redmond T, Young RD, Hassan S, Fautsch MP, Sengpiel F, Williams PA, Morgan JE. Midget retinal ganglion cell dendritic and mitochondrial degeneration is an early feature of human glaucoma. Brain Commun 2019;1(1):fcz035
  • Gazzard G, Konstantakopoulou E, Garway-Heath D, Garg A, Vickerstaff V, Hunter R, Ambler G, Bunce C, Wormald R, Nathwani N, Barton K, Rubin G, Morris S, Buszewicz M. Selective laser trabeculoplasty versus drops for newly diagnosed ocular hypertension and glaucoma: the LiGHT RCT. Health Technol Assess 2019;23(31):1-102
  • Gazzard G, Konstantakopoulou E, Garway-Heath D, Garg A, Vickerstaff V, Hunter R, Ambler G, Bunce C, Wormald R, Nathwani N, Barton K, Rubin G, Buszewicz M; LiGHT Trial Study Group. Selective laser trabeculoplasty versus eye drops for first-line treatment of ocular hypertension and glaucoma (LiGHT): a multicentre randomised controlled trial. Lancet 2019;393(10180):1505-16

2018

  • Je S, Ennis FA, Woodhouse JM, Sengpiel F, Redmond T. Spatial summation across the visual field in strabismic and anisometropic amblyopia. Scientific Reports 2018;8(1):3858
  • Rountree L, Mulholland PJ, Anderson RS, Garway-Heath DF, Morgan JE, Redmond T. Optimising the glaucoma signal/noise ratio by mapping changes in spatial summation with area modulated perimetric stimuli. Scientific Reports 2018;8(1):2172
  • Yousefi S, Sakai H, Murata H, Fujino Y, Matsuura M, Garway-Heath D, Weinreb R, Asaoka R. Rates of Visual Field Loss in Primary Open-Angle Glaucoma and Primary Angle-Closure Glaucoma: Asymmetric Patterns. Invest Ophthalmol Vis Sci 2018;59(15):5717-25
  • Garway-Heath DF, Zhu H, Cheng Q, Morgan K, Frost C, Crabb DP, Ho TA, Agiomyrgiannakis Y. Combining optical coherence tomography with visual field data to rapidly detect disease progression in glaucoma: a diagnostic accuracy study. Health Technol Assess 2018;22(4):1-106
  • Garway-Heath DF, Quartilho A, Prah P, Crabb DP, Cheng Q, Zhu H. Evaluation of Visual Field and Imaging Outcomes for Glaucoma Clinical Trials (An American Ophthalomological Society Thesis). Trans Am Ophthalmol Soc 2017;115:T4

2017

  • Matlach J, Mulholland PJ, Cilkova M, Chopra R, Shah N, Redmond T, Dakin SC, Garway-Heath DF, Anderson RS. Relationship between Psychophysical Measures of Retinal Ganglion Cell Density and In Vivo Measures of Cone Density in Glaucoma. Ophthalmology 2017;124(3):310-9

2015

  • Mulholland PJ, Redmond T, Garway-Heath DF, Zlatkova MB, Anderson RS. Spatiotemporal Summation of Perimetric Stimuli in Early Glaucoma. Invest Ophthalmol Vis Sci 2015;56(11):6473-82
  • Mulholland PJ, Redmond T, Garway-Heath DF, Zlatkova MB, Anderson RS. The Effect of Age on the Temporal Summation of Achromatic Perimetric Stimuli. Invest Ophthalmol Vis Sci 2015;56(11):6467-72
  • Mulholland PJ, Zlatkova MB, Redmond T, Garway-Heath DF, Anderson RS. Effect of varying CRT refresh rate on the measurement of temporal summation. Ophthalmic Physiol Opt 2015;35(5):582-90
  • Zhu H, Crabb DP, Ho T, Garway-Heath DF. More Accurate Modeling of Visual Field Progression in Glaucoma: ANSWERS. Invest Ophthalmol Vis Sci 2015;56(10):6077-83
  • Garway-Heath DF, Crabb DP, Bunce C, Lascaratos G, Amalfitano F, Anand N, Azuara-Blanco A, Bourne RR, Broadway DC, Cunliffe IA, Diamond JP, Fraser SG, Ho TA, Martin KR, McNaught AI, Negi A, Patel K, Russell RA, Shah A, Spry PG, Suzuki K, White ET, Wormald RP, Xing W, Zeyen TG. Latanoprost for open-angle glaucoma (UKGTS): a randomised, multicentre, placebo-controlled trial. Lancet 2015;385(9975):1295-304

2014

  • Mulholland PJ, Redmond T, Garway-Heath DF, Zlatkova MB, Anderson RS. Estimating the critical duration for temporal summation of standard achromatic perimetric stimuli. Invest Ophthalmol Vis Sci 2014;56(1):431-7
  • Zhu H, Russell RA, Saunders LJ, Ceccon S, Garway-Heath DF, Crabb DP. Detecting changes in retinal function: Analysis with Non-Stationary Weibull Error Regression and Spatial enhancement (ANSWERS). PLoS One 2014;9(1):e85654

2013

  • Redmond T, O'Leary N, Hutchison DM, Nicolela MT, Artes PH, Chauhan BC. Visual field progression with frequency-doubling matrix perimetry and standard automated perimetry in patients with glaucoma and in healthy controls. JAMA Ophthalmol 2013;131(12):1565-72
  • Russell RA, Garway-Heath DF, Crabb DP. New insights into measurement variability in glaucomatous visual fields from computer modelling. PLoS One 2013;8(12):e8
  • Redmond T, Russell RA, Anderson RS, Garway-Heath DF. Ymateb yr awdur: Passing-Bablok regression is inappropriate for assessing association between structure and function. Invest Ophthalmol Vis Sci 2013;54(8):5850-1
  • Redmond T, Anderson RS, Russell RA, Garway-Heath DF. Relating retinal nerve fiber layer thickness and functional estimates of ganglion cell sampling density in healthy eyes and in early glaucoma. Invest Ophthalmol Vis Sci 2013;54(3):2153-62
  • Crabb DP, Smith ND, Glen FC, Burton R, Garway-Heath DF. How does glaucoma look?: patient perception of visual field loss. Ophthalmology 2013;120(6):1120-6
  • Redmond T, Zlatkova MB, Vassilev A, Garway-Heath DF, Anderson RS. Changes in Ricco's area with background luminance in the S-cone pathway. Optom Vis Sci 2013;90(1):66-74

2012

  • Russell RA, Crabb DP, Malik R, Garway-Heath DF. The relationship between variability and sensitivity in large-scale longitudinal visual field data. Invest Ophthalmol Vis Sci 2012;53(10):5985-90
  • Russell RA, Malik R, Chauhan BC, Crabb DP, Garway-Heath DF. Improved estimates of visual field progression using bayesian linear regression to integrate structural information in patients with ocular hypertension. Invest Ophthalmol Vis Sci 2012;53(6):2760-9

2011

  • Bergin C, Redmond T, Nathwani N, Verdon-Roe GM, Crabb DP, Anderson RS, Garway-Heath DF. The effect of induced intraocular straylight on perimetric tests. Invest Ophthalmol Vis Sci 2011;52(6):3676-82

2010

  • Redmond T, Garway-Heath DF, Zlatkova MB, Anderson RS. Sensitivity loss in early glaucoma can be mapped to an enlargement of the area of complete spatial summation. Invest Ophthalmol Vis Sci 2010;51(12):6540-8
  • Redmond T, Zlatkova MB, Garway-Heath DF, Anderson RS. The effect of age on the area of complete spatial summation for chromatic and achromatic stimuli. Invest Ophthalmol Vis Sci 2010;51(12):6533-9

2009

  • Anderson RSRedmond T, McDowell DR, Breslin KM, Zlatkova MB. The robustness of various forms of perimetry to different levels of induced intraocular stray light. Invest Ophthalmol Vis Sci 2009;50(8):4022-8

2006

  • Anderson RS. The psychophysics of glaucoma: improving the structure/function relationship. Prog Retin Eye Res 2006;25(1):79-97

2002

  • Garway-Heath DF, Holder GE, Fitzke FW, Hitchings RA. Garway-Heath DF, Holder GE, Fitzke FW, Hitchings RA. Invest Ophthalmol Vis Sci 2002;43(7):2213-20
  • Ansari EA, Morgan JE, Snowden R. Glaucoma: squaring the psychophysics and neurobiology. Br J Ophthalmol 2002;86(7):823-6

2000

  • Garway-Heath DF, Caprioli J, Fitzke FW, Hitchings RA. Scaling the hill of vision: the physiological relationship between light sensitivity and ganglion cell numbers. Invest Ophthalmol Vis Sci 2000;41(7):1774-82

Digwyddiadau

Digwyddiadau siarad

Mae ein hymchwilwyr yn cyflwyno ymchwil newydd yn rheolaidd mewn cynadleddau ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys:

  • Y Gymdeithas Ymchwil mewn Golwg ac Offthalmoleg (ARVO)
  • Y Gymdeithas Delweddu a Pherimetreg (IPS)
  • Cymdeithas Perimetreg Gogledd America (NAPS)
  • Y Gymdeithas Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Golwg a Llygaid (EVER)
  • Cymdeithas Glawcoma’r DU ac Iwerddon (UKEGS)
  • Cyngres Glaucoma y Byd (WCG)
  • Y Gymdeithas Glawcoma Americanaidd (AGS)

Cymryd rhan

Sut bydd yr astudiaeth yn gweithio

Bydd pobl â glawcoma a phobl heb glawcoma (cyfranogwyr rheoli), o'r un oedran yn fras, yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn nifer o brofion arbrofol, lle byddant yn gweld sgrin cydraniad uchel ac yn pwyso botwm bob tro y byddant yn gweld ychydig bach o olau yn ymddangos ar y sgrin yn eu golwg ochr. Byddwn yn cymharu perfformiad dulliau newydd a chyfredol o ran cywirdeb a chywirdeb.

Cymryd rhan

Er mwyn ein helpu i ddatblygu'r prawf newydd, rydym yn gwahodd pobl sydd â glawcoma, a phobl heb unrhyw gyflyrau llygaid, i ddod am rai profion maes golwg. Rydym yn chwilio am gyfranogwyr dros 40 oed.

Os oes gennych chi glawcoma

Rydym yn recriwtio pobl sydd naill ai â glawcoma Ongl Agored Sylfaenol (POAG) neu glawcoma Tensiwn Arferol (NTG). Os hoffech gofrestru ar gyfer yr astudiaeth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar VangasseR@cardiff.ac.uk.

Os nad oes gennych unrhyw gyflyrau llygaid

Rydym hefyd yn chwilio am nifer o wirfoddolwyr nad oes ganddynt unrhyw gyflyrau llygaid (er y gallech fod yn gymwys o hyd os ydych yn gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd ar gyfer golwg hir neu fyr neu ar gyfer darllen). Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni yn: VangasseR@cardiff.ac.uk.

Lleoliadau

Mae'r astudiaeth hon yn cael ei chynnal ar y cyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Ulster, ac UCL. Bydd tri cham yn y prosiect presennol. Yng ngham presennol yr ymchwil, byddem yn eich gwahodd i ddod am ddau ymweliad o fewn cyfnod o 6 wythnos i un o'r safleoedd canlynol (o'ch dewis) ar gyfer rhai profion maes golwg byr:

Byddwn yn cynnal rhai profion clinigol cyffredin pan fyddwch yn cyrraedd am eich apwyntiad ymchwil am y tro cyntaf, i gadarnhau eich bod yn gymwys i gymryd rhan.

Dewch yn ôl yma i weld manylion camau nesaf yr ymchwil, neu mae croeso i chi gysylltu â ni gydag ymholiad yn VangasseR@cardiff.ac.uk.

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.