Ewch i’r prif gynnwys

Adroddiad yn dod i’r casgliad bod angen mwy o gefnogaeth ar blant sydd mewn perygl o gamfanteisio rhywiol

09 Awst 2019

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Illustration of a young girl crying

Mae ymchwil newydd wedi dod i’r casgliad bod plant sy’n cael eu symud yn rheolaidd o amgylch y system gofal cymdeithasol yn fwy tebygol o fod yn agored i gamfanteisio rhywiol.

Arweiniwyd yr astudiaeth gan Dr Sophie Hallett o Brifysgol Caerdydd, a ddefnyddiodd gofnodion achos i ddilyn carfan o 205 o blant a oedd yn gysylltiedig â’r gwasanaethau cymdeithasol mewn un awdurdod lleol yng Nghymru. Y rhain oedd y bobl ifanc gyntaf yn y DU i gael eu hasesu ynglŷn â’r perygl o ddioddef achosion o gamfanteisio rhywiol yn ystod eu plentyndod - fel grŵp cyfan - yn ôl yn 2006.

Mae’r dadansoddiad yn cynnig dealltwriaeth fanwl o ba ffactorau sy’n gwneud plant yn fwy agored i ddioddef y math hwn o gamdriniaeth yn hwyrach ymlaen.

Mae camfanteisio ar blant yn rhywiol yn digwydd pan mae dioddefwyr yn derbyn rhywbeth fel anrhegion, arian neu anwyldeb o ganlyniad i gyflawni gweithgareddau rhywiol neu bobl eraill yn cyflawni gweithgareddau rhywiol arnynt. Mae ymchwil flaenorol Dr Hallett wedi dangos bod camfanteisio o’r fath ynghlwm wrth broblemau ac anawsterau eraill y mae pobl ifanc yn eu hwynebu. Gall y problemau hyn olygu bod rhai plant ifanc a phobl ifanc yn cyfnewid rhyw fel ffordd o ymateb.

Mae’r adroddiad yn dangos bod merched yn y garfan yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwyr i achosion o gamfanteisio ar blant yn rhywiol. Os oedd y plentyn wedi cael ei gam-drin yn rhywiol yn y gorffennol, roedd bum gwaith yn fwy tebygol o gael ei cam-drin drwy gamfanteisio rhywiol.

Y ffactor arwyddocaol arall oedd symud plant o’u hamgylchiadau byw. Po fwyaf o weithiau y mae plentyn yn symud, yr uchaf yw’r tebygolrwydd y byddant yn dioddef o gamfanteisio rhywiol yn nes ymlaen. Ar gyfartaledd, cafodd y plant yn y garfan eu symud i drefniadau byw amgen naw gwaith. 57 gwaith oedd y nifer uchaf y bu’n rhaid i blentyn symud.

Dywedodd Dr Hallett, sy'n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: “Er i’r astudiaeth ganolbwyntio ar un awdurdod lleol yn unig, mae’r materion systemig rydym wedi’u darganfod yn cynrychioli’r sector ledled y DU. Gall amgylchedd cartref mwy ansicr gael effaith enfawr ar blant. Heb fywyd cartref sefydlog, mae teimladau o wrthod ac ansicrwydd yn gwaethygu. Oherwydd sawl rheswm cymhleth, mae’n eu harwain at fod yn fwy agored i’r math hwn o gam-drin.

“Mae’r dadansoddiad hefyd yn amlygu nifer o broblemau eraill sydd, er gwaethaf eu hymdrechion gorau, yn ei gwneud hi’n eithriadol o anodd i’r rhai sy’n gyfrifol am ofalu am y bobl ifanc hyn allu cynnig y gefnogaeth briodol.”

Mae’r adroddiad, Cadw’n Ddiogel? Dadansoddiad o ddeilliannau’r gwaith gyda phobl ifanc yng Nghymru sydd wedi dioddef cam-fanteisio rhywiol, hefyd yn dangos:

  • Yn ogystal â chynyddu'r risg o brofi camfanteisio rhywiol, mae symud plant yn rheolaidd o’u llety yn cynyddu’r siawns y byddant yn mynd ymlaen i gael eu cam-drin mewn perthnasoedd agos pan fyddant yn oedolion cynnar, yn ogystal â bod mewn sefyllfa ansefydlog o ran tai. Mae hefyd yn ei gwneud hi’n fwy tebygol na fydd y person ifanc mewn addysg ac/neu gyflogaeth.
  • Roedd un o bob tri o bobl ifanc yn yr astudiaeth gyfan (33.7%) wedi cael eu cam-drin yn rhywiol ar ryw adeg yn eu plentyndod. Mae’r ffigwr hwn yn uwch ymysg pobl ifanc sydd â risg uchel o gamfanteisio rhywiol (46.3%) Roedd dwy ran o dair o’r sampl gyfan wedi profi cam-drin emosiynol yn y gorffennol (70.2%), dros hanner wedi profi trais corfforol (58%) a hanner (50.7%) wedi profi esgeulustod gan rieni/rhoddwyr gofal cyn mynd i ofal.
  • Roedd dros hanner y bobl ifanc a oedd wedi dioddef achos o gam-fanteisio’n rhywiol wedi dod yn rhieni yn ystod cyfnod yr astudiaeth (57.4%) o gymharu â 17.9% yn y grŵp nad oedd wedi profi .
  • Ni chafodd ymyriadau a ddefnyddir yn aml ar gyfer ymatebion i gamfanteisio rhywiol, fel addysg perthnasoedd iach, effaith gadarnhaol ar fwyafrif y bobl ifanc a gafodd y gefnogaeth hon, ac roeddent yn gysylltiedig â deilliannau negyddol mewn rhai achosion.
  • Cael oedolyn cefnogol yn eu bywydau gafodd yr effaith fwyaf cadarnhaol ar bobl ifanc. Gwaith un-i-un, megis treulio amser gyda pherson ifanc, ennyn ei ddiddordeb mewn gweithgareddau, neu fynd i’r afael â’i hyder a’i hunan-barch oedd yr ymyriad oedd fwyaf tebygol o helpu. Roedd y rhai a gafodd y math hwn o gymorth yn llai tebygol o wynebu problemau o ran camddefnyddio alcohol a chyffuriau, ac ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol yn hwyrach ymlaen.

Ochr yn ochr â'r dadansoddiad hwn o ffeiliau achos, treuliodd Dr Hallett chwe wythnos mewn cartref preswyl i blant gyda phobl ifanc a ystyrir i fod mewn risg o gamfanteisio rhywiol. Llwyddodd hefyd i gael barn gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr gofal preswyl, gofalwyr maeth a phobl ifanc. Dywedodd bod yr ymchwil yn tynnu sylw at y rhwystredigaethau ynghylch cyn lleied oedd yn gallu cael ei wneud i fynd i’r afael ag achosion gwreiddiol o’r gamdriniaeth hyn.

Dywedodd: “Mae’r adroddiad yn cyflwyno darlun sy’n peri pryder o’r holl system ofal. Roedd pobl ifanc yn flin am y sylw corfforol neu ymddygiadol a gawsant, a'r diffyg gofal amdanyn nhw a'u hapusrwydd yn ôl pob golwg.

“Mae gofalwyr maeth wedi dweud nad oedd unrhyw gefnogaeth i fynd i’r afael a’r cam-drin a’r profiad o gael eu gwrthod y mae plant wedi’i brofi. Roedd y gofalwyr maeth hefyd yn bryderus bod y camau diogelu yr oeddent yn gorfod eu rhoi ar waith yn rhoi negeseuon i bobl ifanc mai nhw oedd y rhai ar fai.

“Roedd gweithwyr preswyl a gweithwyr cymdeithasol yn teimlo bod eu gwaith yn ymwneud a rheoli ymddygiad peryglus ac nid oedd ganddynt yr adnoddau i ganolbwyntio ar achosion dyfnach y mae llawer o’r bobl ifanc hyn yn cael trafferth â nhw, fel materion hunaniaeth, colled, cam-drin neu gael eu gwrthod.

“Oni bai bod mwy yn cael ei wneud i gydnabod y pryderon eang hyn a mynd i’r afael â nhw, mae camfanteisio’n rhywiol ar blant am barhau i fod yn broblem ddifrifol.”

Mae Dr Hallett yn cyflwyno ei chanfyddiadau heddiw i weithwyr cymdeithasol a llunwyr polisïau. Bydd yn rhannu ystod o gyfarpar a deunyddiau gweledol a gynhyrchwyd drwy’r ymchwil i ysgogi trafodaeth a helpu ymarferwyr a rheolwyr gwasanaethau i ystyried eu harferion a’u newid.