Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil yn canfod y gall yr amgylchedd mabwysiadu priodol helpu plant sydd mewn gofal i wella eu byd ar ôl cyfnod anodd

31 Gorffennaf 2019

Family playing in forest

Mae ymchwil ynghylch bywyd teuluol mabwysiadol yng Nghymru wedi datgelu lefel yr adfyd y mae llawer o blant wedi ei phrofi.

Dadansoddodd academyddion o Brifysgol Caerdydd gofnodion gwasanaethau cymdeithasol ynghylch carfan o blant yng Nghymru a fabwysiadwyd yn yr un flwyddyn. Yn ogystal, llenwodd rhieni sy’n mabwysiadu arolygon am y plant dros gyfnod o bedair blynedd ar ôl i'r lleoliad ddechrau, gan wneud sylwadau bob blwyddyn ynghylch unrhyw anawsterau roedd y plentyn yn eu cael a'u ffyrdd o fagu plant.

Cofnododd yr astudiaeth nifer y profiadau andwyol yn ystod plentyndod (ACE), fel cam-drin ac esgeulustod, yr oedd y plant wedi eu profi cyn iddynt gael eu mabwysiadu. Roedd dros hanner y plant (54%) wedi cael eu hesgeuluso yn eu bywydau cynnar, gyda 37% wedi dod i gysylltiad â thrais yn y cartref a 34% wedi dod i gysylltiad â rhiant oedd yn camddefnyddio cyffuriau.  Yn ogystal, roedd symptomau trallod emosiynol a phroblemau ymddygiad yn sylweddol uwch yn y grŵp hwn o gymharu â phoblogaeth y DU yn gyffredinol.

Mae'r canlyniadau'n dangos cysylltiad rhwng rhieni sy’n mabwysiadu a fynegodd lefelau uwch o ddulliau 'magu plant mewn ffyrdd cariadus', fel canmoliaeth ac anwyldeb, a lefelau is o drallod emosiynol plant hyd yn oed pan oedd y plentyn wedi profi nifer o ddigwyddiadau anodd.  

Dywedodd y prif ymchwilydd Dr Rebecca Anthony, o Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd: “Roedd iechyd meddwl y plant yn ein hastudiaeth gryn dipyn yn waeth na phoblogaeth y DU yn gyffredinol ar bob adeg benodol, gan amlygu'r angen am wasanaethau cymorth i deuluoedd sy'n mabwysiadu plant o wasanaethau gofal.

“Mae'r ymchwil hefyd yn ychwanegu mwy o dystiolaeth am bwysigrwydd amgylchedd gofal cadarnhaol wrth amddiffyn plant rhag effeithiau trawma yn gynharach mewn bywyd. Er ein bod yn awgrymu y dylai polisi, hyfforddiant a dylunio gwasanaethau gael eu 'hysbysu' gan brofiadau andwyol yn ystod plentyndod, gall agweddau eraill ar hanes y plentyn, megis hyd y cyfnod y bu mewn cysylltiad ag adfyd, amser mewn gofal, sawl gwaith y bu’n rhaid symud, ansawdd perthynas â brawd neu chwaer, roi gwell dealltwriaeth o iechyd meddwl plant."

Profiadau Andwyol yn ystod Plentyndod ymhlith Plant a Fabwysiadwyd o Ofal: Mae pwysigrwydd mabwysiadu a magu plant mewn ffyrdd cariadus er mwyn i blant addasu yn y dyfodol ar gael yma.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.