Ewch i’r prif gynnwys

Yr adroddiad mwyaf o'i fath yn dangos y problemau sy'n effeithio ar bobl ifanc heddiw

22 Mai 2019

Secondary school pupils in playground

Mae gan ysgolion a'r gymdeithas gyfan rôl o ran helpu pobl ifanc i fynd i'r afael â nifer o heriau sy'n gysylltiedig â'u hiechyd a lles, yn ôl ymchwilwyr.

Mae'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion – y rhwydwaith mwyaf o'i fath yn y byd – wedi'i arwain gan yr Athro Simon Murphy ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'r rhwydwaith yn cynnwys pob ysgol uwchradd yng Nghymru ac yn cynnal arolwg bob dwy flynedd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r adroddiad yn cynnig gwybodaeth newydd am y profiadau a'r heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu – ar bynciau fel iechyd, defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol, gwaith ysgol, ac yfed alcohol. Dywedodd yr Athro Murphy, sy'n gweithio yng Nghanolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer): "Mae ein hastudiaeth yn dangos y problemau go iawn sy'n wynebu pobl ifanc heddiw. Er bod llawer o waith eisoes wedi'i wneud i hyrwyddo iechyd a lles yn llwyddiannus mewn ysgolion, mae'r canlyniadau'n dangos bod yna feysydd allweddol lle mae angen rhagor o gefnogaeth ac arweiniad ar ysgolion a myfyrwyr."

Mae'r astudiaeth, a gynhelir bob dwy flynedd, wedi'i arwain gan Dr Graham Moore o DECIPHer ym Mhrifysgol Caerdydd, ac roedd yn dadansoddi data a gasglwyd gan dros 100,000 o blant sy'n mynd i ysgolion uwchradd. Mae hyn yn cyfateb i 65% o boblogaeth ysgolion uwchradd yng Nghymru. Dywedodd, "Rydym yn gallu gweld gwelliannau sylweddol mewn iechyd a lles pobl ifanc yng Nghymru dros y 10 i 25 mlynedd ddiwethaf. Mae cyfraddau smygu ac yfed wythnosol wedi lleihau, ynghyd â'r gyfran o fyfyrwyr sy'n dweud eu bod wedi cael rhyw yn ifanc. Fodd bynnag, mewn meysydd eraill – fel bodlonrwydd cyffredinol â bywyd ac ymarfer corff – ni welwyd gwelliant, ac mae asesiad y bobl ifanc o'u hiechyd eu hunain yn faes sydd wedi gwaethygu'n fawr."

Dyma rai o ganfyddiadau allweddol yr adroddiad:

  • Dywedodd un o bob pump person ifanc fod ei iechyd yn weddol neu'n wael. Roedd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn teimlo'n gadarnhaol am eu hiechyd ar hyn o bryd. Dywedodd 25% ohonynt fod eu hiechyd yn ardderchog, a 53% fod eu hiechyd yn dda.
  • Roedd bron i un rhan o dair o ddisgyblion (31%) yn dweud eu bod yn cael trafferth cysgu neu problemau anniddigrwydd.
  • Dangosodd yr arolwg fod 15% o fyfyrwyr blwyddyn 7 yn edrych ar sgrîn electronig ar ôl 11pm ar noson ysgol, ac roedd bron i hanner (46%) y disgyblion ym mlwyddyn 11 yn gwneud hyn.
  • Roedd ugain y cant o ferched yn y categori 'defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd broblemus' (yn ôl y raddfa anhwylder cyfryngau cymdeithasol), o gymharu â 15% o ddynion.
  • Dywedodd dros 80% o bobl ifanc eu bod yn teimlo rhywfaint o bwysau o ganlyniad i'w gwaith ysgol, gyda bron i chwarter (25%) ohonynt yn dweud eu bod dan 'lawer' o bwysau, ond roedd ganddo gysylltiad cryf a'u oedran. Roedd y gyfran o bobl ifanc a soniodd am 'rywfaint' neu 'lawer' o bwysau bron dwywaith yn fwy o flwyddyn saith i flwyddyn 11.
  • Nododd 16% o bobl ifanc fod ganddynt gyfrifoldeb i ofalu am rywun yn eu teulu, gan fod yr unigolyn hwnnw'n anabl, naill ai'n gorfforol neu o ganlyniad i salwch meddwl, neu oherwydd bod gan yr unigolyn broblem gydag alcohol neu gyffuriau. O blith y gofalwyr ifanc hyn, nododd chwarter ohonynt eu bod yn gofalu am fwy nag un person, sef 4% o'r holl bobl ifanc.
  • Roedd bron yr holl (94%) bobl ifanc oedd yn cael rhyw wedi cael rhyw am y tro cyntaf cyn yr oedran cydsynio, a'r oedran mwyaf cyffredin ar gyfer cael rhyw am y tro cyntaf oedd 15 oed (45%). Yn gyffredinol, dywedodd 20% o'r bobl ifanc oedd yn cael rhyw eu bod wedi cael rhyw am y tro cyntaf yn 13 oed neu'n iau, ond roedd y gyfran yn uwch ymhlith bechgyn o gymharu â merched (24% a 16% yn y drefn honno) ac ymhlith y rhai o'r cartrefi lleiaf cefnog (25%).
  • Dywedodd bron i hanner y bobl ifanc (48%) nad ydynt yn yfed alcohol, a dywedodd 44% arall eu bod yn yfed yn llai aml nag unwaith yr wythnos.

Ychwanegodd yr Athro Murphy: "Mae ein hadroddiad helaeth a phellgyrhaeddol yn dangos bod gan bobl ifanc yn eu harddegau nifer enfawr o broblemau i'w hwynebu. Drwy gynnal ymchwil i'w safbwyntiau a'u profiadau ar y raddfa hon, gallwn weld yn glir beth yw eu pryderon a sut gall rhieni, athrawon a llunwyr polisïau eu helpu yn ystod y broses o droi'n oedolyn."


Mae adroddiad Iechyd a Lles Myfyrwyr yng Nghymru: Adroddiad Arolwg Ymddygiadau Iechyd Plant Oedran Ysgol 2017/18 ac Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion ar gael yma.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.