Ewch i’r prif gynnwys

Angen i weithwyr Cymru feddu ar sgiliau newydd i fanteisio ar swyddi yn y dyfodol

1 Tachwedd 2017

artificial intelligence and robotics

Mae’r defnydd cynyddol o ddeallusrwydd artiffisial a roboteg am newid yn sylweddol y mathau o swyddi sydd ar gael yng Nghymru dros yr 20 mlynedd nesaf yn ôl adroddiad newydd gan academyddion o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae adroddiad Dyfodol Gwaith yng Nghymru yn awgrymu y gall technoleg newydd wella cynhyrchiant a rhyddhau gweithwyr o dasgau ailadroddus neu beryglus ond gallai hefyd arwain at waredu nifer fawr o swyddi a newid arferion cyflogaeth mewn ffyrdd sy’n anfanteisio gweithwyr anfedrus. Mae’r adroddiad yn dadlau y dylid rhoi cymorth i weithwyr Cymru i’w helpu i feithrin sgiliau sy’n anodd eu gwneud yn waith awtomeiddiedig, fel meddwl yn greadigol ac yn feirniadol, y bydd galw mawr amdanynt yn economi ddigidol y dyfodol.

Dywedodd yr Athro Steve Martin, Cyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru: "Canfu ein hadroddiad y gallai deallusrwydd artiffisial drawsnewid y byd gwaith yng Nghymru.

"Ysgrifennwyd llawer am dueddiadau byd-eang, ond mae angen i chi feithrin dealltwriaeth well o sut y bydd datblygiadau technolegol yn effeithio ar economi Cymru fel y gallwn baratoi at ddyfodol lle gallai rhai swyddi fod yn wahanol iawn i heddiw..."

"Mae angen i weithwyr yma feddu ar y sgiliau i addasu i’r newidiadau hyn, ac mae gan hyn oblygiadau pwysig i’r hyn y mae ysgolion yn ei ddysgu, i gyngor ar yrfaoedd, ac i hyfforddiant mewn swydd ac ailhyfforddi."

Yr Athro Steve Martin Chief Executive, Wales Centre for Public Policy

Cynhelir digwyddiad i lansio’r adroddiad ddydd Mercher 1 Tachwedd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bydd y siaradwyr yn ystyried dyfodol gwaith yng Nghymru a’r cyfleoedd a’r heriau i lywodraeth, ysgolion, cyngor ar yrfaoedd a chyflogwyr.

Mae'r siaradwyr yn cynnwys:

  • Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC
  • Matthew Taylor, Prif Weithredwr Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau (RSA) ac awdur ‘Good work: the Taylor review of modern working practices’’ a gomisiynwyd gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, fydd yn siarad am raglen RSA ar Weithio yn y Dyfodol
  • Stijn Broecke, Uwch Economegydd Cyflogaeth, Llafur a Materion Cymdeithasol yn y Sefydliad er Cydweithredu a Datblygu Economaidd (OECD), a fydd yn siarad am raglen ymchwil ar waith yn y dyfodol yr OECD.