Ewch i’r prif gynnwys

'Neuromate' robotaidd cyntaf yng Nghymru yn cynorthwyo llawdriniaeth epilepsi

13 Ebrill 2017

Professor William Gray with neuromate

Mae Prifysgol Caerdydd yn dathlu carreg filltir y driniaeth stereoelectroencephalography (SEEG) a gynhaliwyd yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Dyma'r driniaeth gyntaf gyda chymorth robot i gael ei chynnal yng Nghymru.

'Neuromate' yw enw'r robot, a enwyd gan y crewyr Renishaw, cwmni technoleg beirianyddol a gwyddonol blaenllaw. Bu'r robot yn helpu'r Athro William Gray yn ystod y llawdriniaeth wrth iddo ddefnyddio electrodau mewnymenyddol i fesur signalau trydanol yn yr ymennydd.

Cafodd y claf, Denise Casey o Gastell-nedd Port Talbot, ddiagnosis o epilepsi pan oedd hi'n 31 oed, ac roedd wedi bod yn dioddef hyd at chwe ffit bob diwrnod dros yr ugain mlynedd diwethaf.

“Yn gam arwyddocaol ymlaen”

Gyda'r fraich robotaidd, cymerodd yr Athro Gray 55 munud i ddod i hyd i'r ardal epileptogenic yn yr ymennydd, a'i thrin mewn triniaeth sydd yn cymryd pedair awr fel arfer. Wythnos yn ddiweddarach, gwnaed llawdriniaeth arall yn y gobaith o leddfu symptomau epileptig Denise.

“Mae Robot Renishaw yn gam arwyddocaol ymlaen i lawdriniaeth epilepsi yng Nghymru,” meddai'r Athro Gray.

“Bydd yn ein galluogi i edrych ar yr achosion mwyaf cymhleth, a'u trin er mwyn sicrhau nad yw un o'n cleifion yn dioddef ffitiau. Wrth gydweithio ag Uned YR YMENNYDD, bydd hefyd yn ein galluogi i wneud ymchwil blaenllaw i lawer o glefydau niwrolegol, wrth fesur signalau yn yr ymennydd a rhoi therapïau yn syth i'r ymennydd.”

Yr Athro William Gray Professor of Functional Neurosurgery, Neurosciences & Mental Health Research Institute

Roedd y llawdriniaeth arwyddocaol hon yn cydredeg â BioCymru, cynhadledd flynyddol yng Nghaerdydd sy'n dathlu safle Cymru fel arloeswyr yn sector y gwyddorau bywyd.

Dywedodd Andrea Richards, Rheolwr Cyfarwyddiaeth y Niwrowyddorau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Rydym yn falch bod y cydweithrediad hwn wedi galluogi nifer o welliannau i ofal cleifion.

Neuromate at Renishaw medical demonstration

“Bydd cleifion niwrolawfeddyol bellach yn treulio llai o amser yn y theatr lawdriniaeth, bydd llai o risg ganddynt ddal haint, a byddant yn elwa o ganlyniadau'r llawdriniaeth.”

Ychwanegodd Dr Abed Hammoud, Prif Swyddog Gweithredol Mayfield SA yn y Swistir: “Rydym wrth ein bodd bod ein harbenigedd mewn technoleg a pheirianneg wedi cyfrannu at ganlyniad positif i Ysbyty Athrofaol Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â'r Adran Niwrowyddoniaeth er mwyn gwneud yn siŵr bod cleifion Cymru yn gweld y canlyniadau gorau posibl.”

Nid yw Denise wedi dioddef unrhyw ffitiau ers ei llawdriniaethau ym mis Mawrth. Ymddangosodd ar raglen BBC Wales gyda'r Athro Gray i drafod ei phrofiadau. Cewch weld y cyfweliad yma.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.