Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan newydd i hyfforddi'r genhedlaeth newydd o wyddonwyr data

27 Hydref 2017

Data Innovation Research Institute

Mae canolfan newydd sbon sydd wedi'i chynllunio i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr data wedi'i dyfarnu i Brifysgol Caerdydd.

Mae'r Ganolfan Hyfforddiant Doethurol mewn gwyddoniaeth data-ddwys wedi'i chreu fel rhan o fuddsoddiad o £10m ar draws y DU gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC).

Bydd myfyrwyr sy'n cofrestru yn y Ganolfan yn dechrau ar gwrs PhD pedair blynedd sydd wedi'i gynllunio i ddadansoddi data o ymchwil astroffiseg, gwyddoniaeth cyflymu, ffiseg niwclear a gronynnau.

Caiff y ganolfan ei chreu i ymateb i'r broblem gynyddol o geisio gweithio drwy'r mynyddoedd o ddata a grëir gan gyfleusterau gwyddoniaeth arsylwadol ac arbrofol modern.

I fynd i'r afael â'r broblem, bydd myfyrwyr yn defnyddio technegau cyfrifiannu, ystadegol a rhaglennu soffistigedig, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial a dysgu peiriant, i dynnu dealltwriaeth o setiau data enfawr a gwneud darganfyddiadau newydd.

Sefydliad Ymchwil Arloesi Data Prifysgol Caerdydd fydd yn arwain y Ganolfan, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bryste a Phrifysgol Abertawe.

Bydd y Ganolfan hefyd yn ymgorffori partneriaid diwydiannol a bydd yn cynnig hyfforddiant cynhwysfawr mewn gwyddoniaeth data-ddwys drwy brosiectau arloesol a rhaglen hyfforddiant academaidd wedi'i thargedu. Ategir hyn gyda secondiadau i bartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae wyth o Ganolfannau Hyfforddiant Doethurol newydd wedi'u sefydlu fel rhan o fuddsoddiad y STFC o £10m, gan hyfforddi dros 100 o fyfyrwyr PhD mewn 19 o brifysgolion ar draws y DU. Daw'r mwyafrif o'r cyllid o'r £90m a neilltuwyd ar gyfer 1,000 o lefydd PhD newydd ar draws holl Gynghorau Ymchwil y DU, a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Gwanwyn 2017 fel rhan o'r Gronfa Buddsoddi Cynhyrchedd Cenedlaethol.

Cynhaliwyd digwyddiad cychwynnol yng Nghaerdydd yr wythnos hon gyda 100 o fyfyrwyr yn dod ynghyd o'r wyth canolfan ar gyfer deuddydd o hyfforddiant gyda sesiynau'n cynnwys cyfrifiadura uwch a sgiliau dadansoddi data yn ogystal â sesiynau ar gyfathrebu a gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth.

Cynhaliwyd cinio agoriadol hefyd yng nghwmni cyfarwyddwr STFC, Brian Bowsher, gyda sgyrsiau gan Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd yr Athro Karen Holford a'r Athro Patrick Sutton, Pennaeth y Grŵp Ffiseg Ddisgyrchol yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rhaglenni Gweithredol STFC yr Athro Grahame Blair: "Bydd y buddsoddiad hwn nid yn unig yn datblygu'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr data y mae gwir angen amdanynt, fydd a'r sgiliau a'r wybodaeth i ddod yn arweinwyr yn y maes, ond bydd hefyd yn hanfodol i sicrhau bod sector ymchwil y DU ac economi'r DU yn parhau'n gystadleuol ar lwyfan y byd."

STFC’s Executive Director of Programmes Professor Grahame Blair said: “This investment will not only bring on the next generation of much-needed data scientists with the skills and knowledge to become leaders in the field, it will be crucial in ensuring the UK research sector and the UK economy remains competitive on the world stage.”

"Yr hyn sy'n arbennig o gyffrous am y Canolfannau hyn yw ein bod yn rhoi hyfforddiant i fyfyrwyr mewn dulliau data mawr arloesol i'w cymhwyso i'n problemau ymchwil mewn ffiseg a seryddiaeth a hefyd i broblemau'r byd real yn ystod eu lleoliadau gwaith diwydiannol."

Yr Athro Stephen Fairhurst

"Er enghraifft, roedd myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhan uniongyrchol o'r darganfyddiadau diweddar ar donnau disgyrchol.  Bydd ein myfyrwyr newydd yn gallu defnyddio technegau dadansoddi data a dysgu peiriant arloesol i sicrhau ein bod yn echdynnu pob signal posibl o'n data.

"Bydd llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i swyddi mewn diwydiant ac yn defnyddio eu sgiliau datrys problemau, cyfrifiadurol a dadansoddi sgiliau.  Drwy ymgorffori lleoliad gwaith diwydiannol o chwe mis yn y PhD, rydym ni'n rhoi profiad byd real i'r myfyrwyr yn gynnar yn eu gyrfaoedd ynghyd â'r cyfle i ddechrau ar gyfnod newydd o gydweithio gyda diwydiant."

Rhannu’r stori hon

Mae arian ar gael ar gyfer astudiaethau doethuriaeth gan ystod eang o ffynonellau gan gynnwys cyrff ymchwil, elusennau ac ymddiriedolaethau, cyrff llywodraethol a diwydiant.