Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan £6m i helpu i fynd i’r afael â heriau polisi o bwys

14 Mehefin 2017

Aerial shot of collaborative meeting

Mae Prifysgol Caerdydd am fod yn gartref i ganolfan ymchwil newydd a gostiodd £6m i’w hadeiladu. Bydd y ganolfan yn gwneud yn siŵr fod y dystiolaeth orau ar gael ar gyfer llywodraethau a gwasanaethau cyhoeddus i’w helpu i fynd i’r afael â phrif heriau polisi yr oes sydd ohoni.

Mae Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) wedi ariannu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru am bum mlynedd a bydd ganddi rôl bwysig wrth annog ymarfer proffesiynol a pholisïau i gael eu llunio ar sail tystiolaeth.

Drwy weithio gydag arbenigwyr o brifysgolion ledled y DU a thu hwnt, bydd y Ganolfan yn ymgymryd â fwy raglen wahanol ond cysylltiedig ar gyfer Gweinidogion Cymru a gwasanaethau cyhoeddus, Eu nod yw mynd i’r afael â materion polisi o bwys mewn cysylltiad â Brexit, cefnogi twf a ffyniant, cau’r bwlch cyrhaeddiad mewn addysg, a sut yr ariennir y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol.

Cynnig atebion a syniadau newydd

Bydd y Ganolfan yn adeiladu ar lwyddiant y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ac yn mabwysiadu dull mwy cyffredinol fydd yn cynnwys gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus ac yn rhan o fenter genedlaethol ‘What Works’ ar draws y DU. Rhwydwaith o saith canolfan yw’r fenter hon sy’n defnyddio tystiolaeth i wneud penderfyniadau gwell sy’n gallu gwella gwasanaethau cyhoeddus.

Meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Rwy’n edrych ymlaen at weld y tîm newydd hwn o academyddion ac ymchwilwyr yn cynnig atebion a syniadau newydd ynghylch y ffyrdd gorau o wella gwasanaethau cyhoeddus Cymru...”

“Mae cael cyngor a thystiolaeth gwybodus ac annibynnol yn hanfodol er mwyn llunio polisïau da. Rwy’n hyderus y bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn ein galluogi i fanteisio ar y syniadau gorau i’n helpu i ddiwygio a gwella ein gwasanaethau cyhoeddus ac, yn bwysicaf oll, gyflawni ar gyfer pobl Cymru.”

Carwyn Jones Prif Weinidog Cymru

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Rydym yn falch iawn y bydd Caerdydd yn arwain canolfan ymchwil mor bwysig oherwydd bydd yn edrych ar yr anghenion polisi penodol yng Nghymru yn ogystal â llywio sut y caiff polisïau eu llunio ledled y DU...”

“Mae hyn oll yn brawf o ragoriaeth ymchwil y Brifysgol ym maes y gwyddorau cymdeithasol, ac mae’n pwysleisio ein hymrwymiad i weithio gyda llunwyr polisïau a gwasanaethau cyhoeddus i geisio mynd i'r afael â’r heriau mawr a wynebwn fel cymdeithas.”

Yr Athro Colin Riordan Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd

Meddai’r Athro Jane Elliott, Prif Weithredwr y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol: “Mae’r Cyngor yn edrych ymlaen yn fawr at y fenter newydd hon fydd yn ein galluogi i gryfhau’r berthynas agos sydd gennym eisoes gyda Llywodraeth Cymru. Bydd yn gofalu bod ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yn parhau i roi tystiolaeth ac arbenigedd am faterion cymdeithasol i lywio'r broses o lunio polisïau ac ymarfer proffesiynol ledled y DU.”

Bydd y Ganolfan newydd yn cael ei harwain gan yr Athro Steve Martin, Cyfarwyddwr presennol Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru. Meddai Steve: “Mae'r arian a neilltuwyd ar gyfer y Ganolfan newydd yn cadarnhau pwysig i Weinidogion Cymru a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yw gwneud penderfyniadau polisi ar sail tystiolaeth o’r radd flaenaf...”

“Rydym yn croesawu'r cyfle hwn i helpu i bontio'r bwlch rhwng ymchwil ac ymarfer drwy weithio gyda byd llywodraeth gwasanaethau cyhoeddus, a’r byd academaidd.”

Yr Athro Steve Martin Chief Executive, Wales Centre for Public Policy

Bydd y Ganolfan yn agor ym mis Hydref 2017 ac yn creu amrywiaeth o rolau ymchwil a chefnogaeth newydd.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.