Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol yn ymateb i her cenhadaeth ddinesig

6 Hydref 2017

Professor Martin Kitchener sat alongside Kirsty Williams AM

Mae Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd Addysg y Cabinet, wedi clywed sut mae Prifysgol Caerdydd yn ymateb i heriau cymdeithasol ac economaidd ein hoes ar ymweliad ag Ysgol Fusnes Caerdydd.

Mewn cyfres o gyflwyniadau, cyflwynwyd yr Ysgrifennydd Cabinet i strategaeth gwerth cyhoeddus yr Ysgol sy’n sail i ystod o weithgareddau o ymchwil i effaith y cyflog byw ac arloesi cyfrifol i bartneriaethau â sefydliadau fel Enactus a chymorth i fusnesau bach ac entrepreneuriaid.

Gan gydnabod rôl busnes a rheoli wrth fynd i’r afael â’r heriau sylweddol sy’n wynebu cymdeithas gyfoes, mabwysiadodd yr Ysgol strategaeth newydd yn 2015, gan ddod yr ysgol fusnes gwerth cyhoeddus gyntaf yn y byd.

“Dylanwad allweddol”

Dywedodd yr Athro Martin Kitchener, Deon a Phennaeth yr Ysgol: “Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi bod yn ddylanwad allweddol wrth weithredu ein strategaeth newydd, felly mae’n bleser ei chroesawu i’r Brifysgol i rannu’r cynnydd a wnaed gennym wrth ymsefydlu gwerth cyhoeddus yn ein hymchwil, ein haddysgu a’n llywodraethu.

“Mae addysg fusnes yn destun craffu cynyddol felly mae’n bwysicach nag erioed inni ddangos ein perthnasedd a’r effaith a gawn ar y cymunedau oddi’n cwmpas...”

“Gobeithio y bydd ein cyflwyniadau wedi rhoi syniad i’r Ysgrifennydd Cabinet i ba gyfeiriad yr ydym yn mynd, ac amlygu’r ffaith ein bod yn ysgol fusnes sy’n ymrwymedig i gyflawni gwelliant cymdeithasol ac economaidd.”

Yr Athro Martin Kitchener Athro Rheolaeth a Pholisi’r Sector Cyhoeddus

Clywodd yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd sut mae gwerth cyhoeddus yn llywio addysgu a dysgu’r Ysgol, gan alluogi myfyrwyr i fagu hyder a gwella’u gallu critigol fel y gallant herio’r sefyllfa sydd ohoni ac ysgogi newid yn y swyddi y maen nhw’n mynd ati i’w gwneud.

Dywedodd Kirsty Williams AC: “Un o ddyheadau ein cenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg yw datblygu dinasyddion moesegol sy’n gallu ymateb i’r heriau sy’n wynebu Cymru a’r byd...”

“Mae felly’n galonogol dysgu mwy am sut mae Ysgol Fusnes Caerdydd yn cydnabod ei chenhadaeth ddinesig, gan alluogi ac ysbrydoli myfyrwyr i gyflawni gwerth cyhoeddus.”

Kirsty Williams AC Ysgrifennydd Addysg y Cabinet

“Edrychaf ymlaen at weld sut mae’r strategaeth hon yn datblygu ac yn effeithio’n gadarnhaol ar gymunedau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.”

Rhannu’r stori hon

Rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn ymgorffori ein strategaeth gwerth cyhoeddus ar draws ein hymchwil, ein dysgu a'n llywodraethu.