Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr
3 Hydref 2017
Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn helpu i ysbrydoli hunan-gred a dyhead mewn cenhedlaeth newydd o arweinwyr y dyfodol mewn ysgol gynradd leol.
Croesawyd disgyblion o Ysgol Gynradd Adamsdown i’r Ysgol Busnes ar ddiwedd eu prosiect Camu i Fyd Busnes, cynllun sydd am helpu i ddatblygu sgiliau bywyd plant fel cyfathrebu, gwydnwch, datrys problemau a gwaith tîm, gan hefyd roi hwb i’w hyder.
Cysylltodd yr ysgol ag Ysgol Busnes Caerdydd yn chwilio am fentoriaid i weithio gyda’r disgyblion a gafodd y dasg o ddylunio cynnyrch, ei greu, a’i werthu i rieni.
Aeth Dr Carolyn Strong a Dr Amy Yau o is-adran Marchnata a Strategaeth yr Ysgol i Adamsdown i roi cyngor i ddisgyblion Blynyddoedd 5 a 6 ar eu cynlluniau busnes a’u strategaethau marchnata, a chafodd ymrwymiad a chreadigrwydd y disgyblion gryn argraff arnynt. Llwyddodd y disgyblion i greu’r cynhyrchion a brandiau ar eu cyfer oedd yn cynnwys labeli a phecynnau. I nodi diwedd y prosiect gwahoddodd Dr Strong y disgyblion i ddod i’r Ysgol Busnes lle aethent i sgyrsiau ar farchnata, cael taith o’r Ysgol, cwrdd â’r Deon, yr Athro Martin Kitchener, a sefydlu marchnatle i werthu eu cynhyrchion.
Dywedodd Pennaeth Adamsdown, Mrs Emma Thomas: “Daw llawer o’n disgyblion o deuluoedd sydd heb fynd i addysg uwch. Roedd yr ymweliad ag Ysgol Busnes Caerdydd yn gyfle i’r plant brofi diwrnod fel myfyriwr a chwrdd â phobl ysbrydoledig fel yr Athro Kitchener. Crëodd ei sgwrs frwdfrydedd mawr yn eu plith, a dechreuon nhw drafod eu syniadau eu hunain am fynd i’r brifysgol ar unwaith. Chwaraeodd y profiadau a roddodd Prifysgol Caerdydd a’r Ysgol Busnes ran fawr wrth godi dyheadau ein disgyblion sy’n dod o un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Caerdydd.
“Roedd y prosiect Camu i Fyd Busnes yn bwysig iawn i’r holl blant ac ategodd yr holl hyfforddiant ac adborth gan staff y Brifysgol y profiad yn fawr. Galluogodd ein cysylltiad â’r Ysgol Busnes i ni agor llygaid y plant i bosibiliadau newydd, ac edrychwn ymlaen at ddatblygu’r berthynas hon ymhellach yn y dyfodol.”
Ychwanegodd yr Athro Kitchener: “Roedd yn bleser croesawu disgyblion Adamsdown i Ysgol Busnes Caerdydd a chael cyfle i’w helpu i weld bod addysg uwch o fewn eu cyrraedd. Cefais fy ysbrydoli gan eu hysbryd creadigol a’u mentergarwch, yn ogystal â’u hyder a’u gallu i gyfleu eu syniadau a’u prosiectau busnes.
“Fel Ysgol Busnes Gwerth Cyhoeddus gyntaf y byd, rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo gwelliant economaidd a chymdeithasol mewn cymunedau ym mhedwar ban byd, ond mae’n dechrau yma yng Nghaerdydd. Mae helpu pobl i wireddu eu dyheadau a mynd ati i wneud cyfraniad cadarnhaol - mewn busnes ac mewn cymdeithas - yn allweddol i’n darpariaeth academaidd, cymorth cyflogadwyedd a gofal bugeiliol. Gobeithio bod gan ddisgyblion Adamsdown a ddaeth atom cyn yr haf ac sydd nawr yn dechrau’n yr ysgol uwchradd, gred mwy cadarn yn yr hyn y gallant ei gyflawni, ac ymdeimlad o gymuned sy’n eu cefnogi.