Ewch i’r prif gynnwys

Canwr enwog yn dysgu iaith ei famwlad

5 Gorffennaf 2017

Mae cyn-gystadleuydd ar The Voice UK wedi ymuno â Chwrs Haf dwys Prifysgol Caerdydd i ddysgu Cymraeg.

Bu’r canwr/cyfansoddwr o Gymru Ragsy (neu Gary Ryland i roi ei enw go iawn), sy’n hanu o Aberdâr, yn cystadlu yn ail gyfres The Voice UK (ar BBC One), lle cafodd ei fentora gan yr eicon o Gymru, Syr Tom Jones. Cychwynnodd y gwersi ar ddydd Llun 3 Gorffennaf 2017.

Mae’r cyrsiau Cymraeg dros yr haf yn cynnig gwersi ar lefel dechreuwyr, canolradd ac uwch i unigolion sydd am ddysgu Cymru neu rai sy’n dychwelyd at yr iaith ac am loywi eu sgiliau.

Arweinir y cyrsiau gan diwtoriaid arbenigol sy’n dysgu yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, ac maent yn cael eu darparu ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Bydd Ragsy yn cwblhau cwrs dwys i ddechreuwyr, ac mae’n gyffrous am yr hyn sydd o’i flaen: "Rwy'n edrych ymlaen at ddysgu’r iaith brydferth hon yng nghwmni pobl eraill frwd o'r un anian, er mwyn helpu i gyflawni fy uchelgais personol a gallu sgwrsio’n llawn yn fy mamiaith.

"Bob tro bydda i’n clywed rhywun yn siarad Cymraeg, bydda i’n teimlo balchder aruthrol mai ni sydd berchen ar yr iaith hardd, rythmig, chwilfrydig hon, sydd bron yn hudol. Mae hynny bob amser wedi cael ei ddilyn yn fuan gan ymdeimlad o gywilydd oherwydd nad wyf innau, er fy mod i’n Gymro balch, yn gallu deall na siarad iaith fy mamwlad”.

Er ei fod yn nerfus ynghylch cychwyn ar y cwrs iaith dwys, mae Ragsy’n dweud bod hynny’n cyfateb i’r nerfau a gewch wrth gerdded allan ar y llwyfan i berfformio.  Meddai: "Rydych chi bob amser ar binnau wrth gychwyn ar anturiaethau newydd ac mae ofn bob amser y byddwch chi’n gwneud rhywbeth yn anghywir."

Ysbrydolwyd Ragsy i fynd ar y Cwrs Haf a pharhau â’i daith ar hyd llwybr y Gymraeg ar ôl cyflawni ei nod o recordio un sengl yn Gymraeg.  Recordiwyd y gân, Fy hafan i, gyda chymorth Andrew TOMMO Thomas a Terwyn Davies ac fe’i rhyddhawyd ar Ddydd Gwyl Dewi yn 2016.

Bydd y Cwrs Haf yn gyfle i Ragsy ddatblygu’r profiad hwnnw a chofleidio’r iaith yn llawn.  Mae ganddo hoff eiriau eisoes, sy’n cynnwys awyddus, bendigedig, cwtsh a cariad, ond mae’n awyddus i ddysgu mwy a medru bod yn rhan o sgwrs lawn yn Gymraeg.

Mae Lowri Bunford-Jones, sy'n rheoli’r Cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn Ysgol y Gymraeg, yn falch o groesawu Ragsy, a’r holl gyfranogwyr eraill, i Gwrs Haf Dwys eleni. Meddai: "Er bod pob sefyllfa’n unigryw a bod gan bawb resymau penodol i’w hamgylchiadau dros ddysgu Cymraeg, mae rhai themâu cyffredin yn dod i’r amlwg, sef awydd i sgwrsio yn eu mamiaith, i gofleidio treftadaeth a diwylliant Cymru, a chydnabyddiaeth bod pwysigrwydd y Gymraeg yn tyfu yng nghylchoedd cymdeithasol a phroffesiynol Cymru.

"Mae nerfau Ragsy yn ddealladwy ond mae'r amgylchedd dysgu yn gefnogol ac yn golegol ac mae ein holl diwtoriaid wedi buddsoddi’n llawn mewn helpu dysgwyr i gyflawni eu huchelgeisiau iaith.   Rydym yn edrych ymlaen at haf llawn hwyl, at estyn croeso cynnes i bawb, ac at glywed albwm Cymraeg cyntaf Ragsy yn y dyfodol!"

Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd sy’n gyfrifol am ddarparu ystod o gyrsiau i oedolion ledled Caerdydd ar ran y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer dysgu Cymraeg.

Mae gan yr Ysgol hanes balch a phrofiad hir o ddarparu cyfleoedd i unigolion yn y gymuned leol ddysgu Cymraeg a dysgu am ddiwylliant Cymru.  Mae cyrsiau dwys yr haf yn ategu’r ddarpariaeth bresennol (y tu allan i’r rhaglenni traddodiadol i fyfyrwyr is-raddedig ac ôl-raddedig) sy’n cynnwys Cymraeg i Bawb (rhaglen ddi-dâl i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd) a Chynllun Cenedlaethol Sabothol yr Iaith Gymraeg (ar gyfer athrawon a chynorthwywyr addysgu), a gyflwynir ar ran Llywodraeth Cymru.

Rhannu’r stori hon

Darganfyddwch ragor am y cyrsiau Cymraeg i Oedolion sydd ar gael.